Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 5 Chwefror 2020.
Iawn. Rwyf am ofyn fy nghwestiynau yn awr, os caf. [Chwerthin.] A ydych yn—? O, mae hwn yn fater mor ddifrifol. A ydych yn bwriadu rhoi cefnogaeth ychwanegol i Simon Dean, ac os felly, pa gefnogaeth? Yr un dyn fydd y Simon Dean a fydd yn dod i'r bwrdd hwn yn awr, ond bydd yr heriau'n wahanol i'r heriau bum mlynedd yn ôl. A fydd disgwyl iddo ddarparu gweledigaeth gymhellol ar gyfer y bwrdd iechyd y mae pawb o'r brig i lawr yn y sefydliad yn ei deall, yn ei chydnabod ac yn ei derbyn? Ac ai afal pwdr yw rôl prif weithredwr y bwrdd iechyd gwenwynig hwn mewn gwirionedd, ac a allai'r bwrdd fod mewn mesurau arbennig yn awr am gyfnod anfesuradwy?