Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 5 Chwefror 2020.
Rwyf mewn sefyllfa debyg iawn fy hun. A dweud y gwir, un o'r pethau rwyf eto i’w trafod, ond rwy'n siŵr y bydd y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn croesawu hynny, yw a allwn gyflwyno pwyntiau gwefru trydanol yn yr adeilad hwn ar gyfer ceir yr Aelodau. Mae gennym rai ar gyfer ceir y Llywodraeth, ond os gallwn edrych ar ymestyn hynny, credaf y byddai croeso mawr i hynny gan lawer o’r Aelodau'n bersonol. Ond yn amlwg, mae angen yr ysbryd hwnnw arnom i fynd allan i bob math o waith yng Nghymru fel y gall pobl eraill sy'n teithio pellteroedd i’r gwaith neu am ba reswm bynnag wefru dros dro hefyd.
Fel y dywedaf, nid ydym yn ei gadael hi ar hynny. Rydym eisoes wedi cynllunio rhai o'r pwerau angenrheidiol i wneud y newidiadau ar fannau gwefru cerbydau trydan. Yn ddiweddar, cytunodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau i gyhoeddi papur ymgynghori ar newidiadau i’w gwneud yn ofynnol i gynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gyfer pob annedd newydd ac mewn mannau parcio ar gyfer adeiladau amhreswyl. Nodir manylion y cynigion hyn yn fwy manwl yn yr ymgynghoriad.
I ateb Rhun, rydym wedi bod yn gweithio mewn ymateb i'r cytundeb a wnaethom gyda Phlaid Cymru. Roedd gennym 670 o bwyntiau gwefru ledled Cymru ym mis Ebrill y llynedd ac mae gennym 1,000 ar hyn o bryd, felly mae'n cynyddu rhywfaint, er fy mod yn cytuno y gallem fynd yn gyflymach.
Disgwyliwn i'r ymgynghoriad ymddangos yn ddiweddarach y gwanwyn hwn. Felly, er fy mod yn cefnogi'r amcan o’i gwneud yn ofynnol i dai newydd gael pwyntiau gwefru cerbydau trydan, nid oes angen Bil gan y byddwn yn datblygu ein cynigion ein hunain i'w gyflwyno yn ein rheoliadau adeiladu y bwriedir ymgynghori arnynt yn fuan iawn ac a fydd yn cynnwys amryw o bethau, a hyn yn un ohonynt.
Mae Jenny Rathbone yn iawn am y seilwaith gwyrdd a'r pwyntiau cynllunio ar gyfer byw. Mae gennym un neu ddwy o raglenni yn ein prosiect tai arloesol sy'n edrych ar hynny, sef a fydd pobl yn byw mewn datblygiadau lle mae eu car yn rhywle arall. Un o'r problemau a gawsom mewn cynlluniau blaenorol yw na fydd pobl yn defnyddio trefniadau parcio i ffwrdd o'r tŷ oherwydd, yn aml, car yw'r ail beth drutaf y bydd unrhyw un wedi'i brynu, ar ôl eu tŷ, felly maent yn amharod iawn i'w gadw filltiroedd i ffwrdd o ble y maent. Ond rwy'n cytuno bod angen inni edrych ar y seilwaith gwyrdd mewn perthynas â hynny a'r hyn y gellir ei ymgorffori yn hynny.
Fel y dywedodd Rhun, rwy'n cytuno bod angen ymyrraeth y Llywodraeth arnom mewn marchnad nad yw'n cyflawni'n llwyr, ond nid deddfwriaeth sylfaenol sydd ei hangen arnom o reidrwydd—mae gennym ddulliau deddfwriaethol eraill, gan gynnwys rheoliadau adeiladu a'r trefniadau cynllunio.