6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

– Senedd Cymru am 3:45 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:45, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Galwaf ar David Melding i gyflwyno'r cynnig.

Cynnig NDM7239 David Melding

Cefnogwyd gan Angela Burns, Dai Lloyd, David J. Rowlands, Huw Irranca-Davies, Jenny Rathbone, Mark Isherwood, Mick Antoniw, Mohammad Asghar, Rhun ap Iorwerth, Russell George, Vikki Howells

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cartref newydd a gaiff ei adeiladu gael ei osod ag o leiaf un pwynt gwefru ceir trydan.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau bod gan:

(a) bob adeilad preswyl newydd sydd â lle parcio cysylltiedig fan gwefru trydan wedi'i osod;

(b) bob adeilad preswyl newydd neu sy'n cael ei adnewyddu'n sylweddol, gyda mwy na 10 o leoedd parcio, lwybrau ceblau ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn o leiaf 50 y cant o gyfanswm y lleoedd parcio.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:46, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am roi cyfle i mi sôn am y cynnig deddfwriaethol hwn heddiw? A gaf fi ddiolch hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi'i gefnogi? Rwy'n falch o ddweud fod llawer iawn wedi rhoi eu cefnogaeth i drafod hyn heddiw. Rwy’n falch iawn fod fy Mil arfaethedig wedi cael cefnogaeth gan bob plaid wleidyddol, yn wir. Credaf fod hyn yn dangos bod consensws gwleidyddol eang o blaid gwella'r rhwydwaith cerbydau trydan yng Nghymru yn gyflym.

Mae'n cyd-fynd â'r naratifau ehangach a fu'n dominyddu’r Cynulliad hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wrth gwrs, yr un fwy felly na datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn ymgrynhoi'r egwyddorion rydym yn eu cefnogi ac yn eu hyrwyddo yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a byddai'n golygu ein bod yn llawer agosach at gyflawni ein rhwymedigaethau hinsawdd rhyngwladol. Cerbydau trydan yw'r dyfodol. Nid wyf yn amau ​​hynny. Yn wir, ddoe ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU na fydd ceir petrol, diesel a hybrid newydd yn cael eu gwerthu o 2035 ymlaen, fan bellaf. Ac o gofio bod y targed hwnnw wedi'i ostwng erbyn hyn o 2040 i lawr i 2035, credaf fod 'fan bellaf' yn gyfyngiad diddorol.

Fel y nodwyd yn flaenorol yn y Siambr hon, mae nifer o rwystrau y mae'n rhaid eu goresgyn o hyd, megis gwelliannau mewn technoleg batri, y gallu i deithio’n bellach, gwefru cyflymach a thwf yn y dewis o fodelau sydd ar gael. Ond mae'r sector yn goresgyn y rhwystrau hyn ar gyflymder rhyfeddol. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Tesla y nifer uchaf erioed o werthiannau cerbydau trydan ac mae pris eu cyfranddaliadau wedi cynyddu'n sylweddol. Mae'r diwydiant ceir ei hun yn paratoi am i 2020 fod yn flwyddyn arloesol i geir trydan, gan ragweld y bydd nifer y modelau yn ystafelloedd arddangos Prydain yn mwy na dyblu, a gwerthiant blynyddol ceir teithwyr di-allyriadau yn pasio'r 100,000 o bosibl. Mae hyn yn arwyddocaol iawn.

Ond yn anffodus, Ddirprwy Lywydd, er bod Prydain yn gyffredinol ar drothwy chwyldro ceir trydan, nid yw pobl Cymru'n teimlo hynny eto i’r un graddau. Gymaint felly nes bod hyd yn oed The Guardian wedi adrodd ar y mater tua diwedd y llynedd. Yn ôl y ffigurau a ddyfynnwyd ganddynt, mae'r wyth sir yn y DU sydd â'r nifer leiaf o bwyntiau gwefru y pen i gyd yng Nghymru. Roedd Rhondda Cynon Taf ar waelod y tabl, gyda thri phwynt gwefru yn unig i bob 100,000 o drigolion; nid oedd Caerffili a Bro Morgannwg fawr gwell, gyda phedwar a phum pwynt i bob 100,000, yn y drefn honno. Nawr, mae dwy o'r ardaloedd cyngor hynny yn fy rhanbarth i yng Nghanolbarth De Cymru, felly rwy'n bendant yn awyddus i weld hyn yn gwella'n gyflym iawn.

Nawr, yn ôl yr arbenigwyr, diffyg pwyntiau gwefru ledled y wlad yw un o'r ffactorau pwysicaf sy’n atal nifer y bobl sy'n defnyddio cerbydau trydan. Felly, mae gyrwyr yn gohirio gwneud y newid hanfodol hwn. Dyna pam fod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth, ac mae fy nghynnig yn seiliedig arni’n fras. Byddai’n briodol i mi gydnabod, ar y pwynt hwn, fod y cynigion yn adeiladu ar sylfeini sydd eisoes wedi’u gosod gan Aelodau yn y Siambr hon, ac rwy’n cofio cynnig deddfwriaethol tebyg Rhun ap Iorwerth yn 2018, a gafodd gefnogaeth eang gan yr Aelodau hefyd, a phob plaid wleidyddol.

Yr hyn rwy’n ei gynnig, ac yn wir, yr hyn a gynigiodd Rhun yn 2018, yw deddfwriaeth a fydd yn gam ymlaen tuag at ddarparu’r seilwaith sylfaenol sydd ei angen arnom i wefru’r cerbydau trydan hyn er mwyn ei gwneud yn haws i bobl allu dewis defnyddio’r dechnoleg newydd hon. Felly, pam fod Llywodraeth Cymru mor segur yn y maes hwn mewn gwirionedd? Mae llawer o opsiynau ar gael i ni, ac mae angen i ni bwysleisio hyn. Gallem sicrhau bod Cymru yn arwain ym maes trafnidiaeth gynaliadwy ac ynni adnewyddadwy, a chredaf y dylai hynny fod yn uchelgais i ni.

Un o'r opsiynau hynny yw fy nghynnig i, er mwyn sicrhau bod pob cartref a adeiladir o'r newydd yn cael y seilwaith angenrheidiol er mwyn galluogi newid o'r fath yn y cerbydau a ddefnyddir. Mae'n un darn o'r pos. Un o atyniadau allweddol cerbyd trydan yw y gellir ei wefru ble bynnag y caiff ei barcio cyhyd â bod pwynt gwefru trydanol addas i’w gael yno. Bydd pobl am i hyn gael ei ddarparu mewn modd hygyrch ym mhob agwedd ar eu bywyd bob dydd, p'un a ydynt yn mynd i'r archfarchnad, eu gweithle—yn wir, rwy'n falch iawn fod gennym rai pwyntiau gwefru ar ystâd y Cynulliad bellach—neu'r gampfa.

Mae fy neddfwriaeth yn sicrhau ein bod yn cysylltu'r dechnoleg hon â’r agwedd fwyaf cyffredin a sylfaenol ar ein bywyd bob dydd: ein cartref. Dyma ble y bydd mwyafrif helaeth y gwefru cerbydau trydan yn digwydd. Byddai gwefru gartref yn cynnig yr opsiwn mwyaf cyfleus, wrth gwrs, a bydd yn rhatach na defnyddio'r rhwydwaith cyhoeddus yn amlach na pheidio, yn enwedig wrth wefru dros nos a manteisio ar dariffau allfrig. O ystyried bod 98 y cant o deithiau yn y DU yn llai na 50 milltir o hyd, efallai na fydd angen o gwbl i lawer o yrwyr sydd â phwynt gwefru gartref ddefnyddio'r rhwydwaith o bwyntiau gwefru cyhoeddus.

Credaf ei bod yn bryd gosod y dechnoleg hon yn ein tai newydd. Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod pwynt gwefru yn costio oddeutu £976 y man parcio os caiff ei ddarparu gydag adeilad newydd neu adnewyddiad, o gymharu â mwy na £2,000 i’w ôl-osod. Felly, yn amlwg, mae angen inni fwrw ymlaen â hyn a helpu ein trigolion i wneud y dewis gwych hwn. Diolch.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:52, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o gefnogi eich cynnig am Fil, er bod gennyf rai amheuon ynghylch y manylion yr hoffwn eu hamlinellu. Credaf fod cerbydau hydrogen yn un o'r atebion, ond yn sicr, ni fyddent ar frig fy rhestr o atebion i'r argyfwng carbon. Ar hyn o bryd, mae'r nifer sy'n eu defnyddio yn isel iawn am eu bod yn costio llawer o arian ac nid ydynt ar gael. Mae'n cymryd tri mis o leiaf i gael car newydd, sy'n ddrud eithriadol, ac nid yw rhai ail-law fawr rhatach am y rheswm amlwg fod y cerbydau hyn mor brin. Ond credaf fod nifer y pwyntiau gwefru sy'n cael eu gosod bob dydd rywle rhwng chwech a 12, felly mae'r farchnad gyfan yn ffrwydro. Serch hynny, rwy’n eich llongyfarch ar gael cynnig amserol iawn yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth.

Ond rhai o'r amheuon: a fydd trigolion dinasoedd y dyfodol am lenwi eu strydoedd â blychau metel sy'n llonydd am dros 90 y cant o'r dydd? Oni fyddai’n well defnyddio’r gofod rhwng cartrefi i blant ac oedolion chwarae yn ogystal â thyfu bwyd? Cofiaf fy ymweliad yn y pedwerydd Cynulliad, gyda rhai aelodau o bwyllgor yr amgylchedd, â Freiburg yn Baden-Württemberg fel rhan o bwyllgor yr amgylchedd, ac roedd ansawdd a chysylltedd y llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn golygu bod llawer llai o drigolion yn y ddinas honno'n trafferthu cael car, ac roeddent yn rhentu un pan oedd angen iddynt fynd ar wyliau neu wneud taith arbennig neu anghyffredin.

Roedd gan un ystâd dai y buom yn ymweld â hi faes chwarae antur coed helyg bendigedig, ac roedd ei ôl troed yn amlwg yn cynrychioli ôl troed tir a neilltuwyd ar gyfer maes parcio ychwanegol. A'r cwestiwn i’r trigolion oedd: a oedd yn well ganddynt y maes chwarae coediog hwn neu faes parcio aml-lawr arall? Ac mae'n werth nodi bod cynllun yr ystâd honno’n caniatáu i bobl yrru at ddrws y tŷ i ddadlwytho pobl neu nwyddau, ond yn y maes parcio aml-lawr yn unig y gellid parcio ceir, ac roedd hynny'n creu amgylchedd mwy dymunol o lawer. Felly, credaf fod cryn dipyn o ffordd gennym i fynd o ran meddwl am ddyluniadau sy’n briodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Yn ail, er bod cerbydau trydan yn allyrru llawer llai o lygredd na cheir diesel neu betrol, rwy'n cydnabod nad ydynt heb gost i'r amgylchedd. Mae'r cyfan yn dibynnu, er enghraifft, ar p'un a yw'r ynni y byddant yn ei ddefnyddio i wefru'r cerbyd trydan hwnnw'n ynni glân o ffynonellau adnewyddadwy—nid wyf yn ymwybodol fod fawr o hynny’n digwydd yn unrhyw le ym Mhrydain—neu'n ynni budr o danwydd ffosil. Mae gwahaniaeth enfawr o ran y canlyniad i'r amgylchedd ac o ran allyriadau carbon. Felly, os derbynnir y cynnig hwn, buaswn yn awyddus i weld y cynnig yn cael ei ddiwygio i sicrhau bod y pwyntiau gwefru trydan sy’n cael eu gosod gyda thai newydd—

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 3:55, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

—yn cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy. [Torri ar draws.] Gwnaf, fe dderbyniaf ymyriad.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Ie, ond a ydych chi'n sylweddoli bod eich amser wedi dod i ben?

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

O'r gorau. Iawn. Wel, bydd yn rhaid i mi beidio â derbyn yr ymyriad.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o allu cefnogi Bil David Melding. Credaf fod hwn yn Fil taclus, yn Fil amserol iawn, ac mewn gwirionedd, mae'n Fil bach y gallem ei gael drwy'r Cynulliad mewn dim o dro, am fod iddo gymaint o ffocws.

Clywais yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone, ac rwy'n cytuno bod yna bethau i'w goresgyn, ond credaf hefyd mai dim ond drwy lawer o gamau bach y byddwn yn datrys yr argyfwng hinsawdd. Mae unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i un ateb i'r broblem a datrys y cyfan ar yr un pryd—nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Un cam bach yw hwn. Mae'r elfennau eraill y sonioch chi amdanynt yn gamau bach eraill.

Rwy'n arbennig o bryderus am fod mwy a mwy o bobl yn ceisio mynd ar drywydd ceir trydan, ond yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, mae bron yn amhosibl dod o hyd i bwyntiau gwefru ceir. Er, hoffwn ddweud fy mod wedi dod o hyd i wefan wych o'r enw Zap-Map sy'n dangos yr holl bwyntiau gwefru ledled y DU; mae’n eithaf moel yng Nghymru, mae’n rhaid dweud.

Rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd, fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i wahardd gwerthu ceir tanwydd ffosil erbyn 2035. Fel rhywun sy'n caru ei char, yn byw yn ei char, ac yn hoffi teithio ar gyflymder goleuni, mae’n rhaid i mi wasgu fy nannedd. Ond mewn gwirionedd, rwyf am i fy mhlant dyfu i fyny mewn amgylchedd da iawn a chael planed i fyw arni. Felly, rwy’n gredwr mawr mewn ceir trydan.

Y rheswm arall pam y credaf fod hwn yn syniad mor dda, David, yw am fy mod wedi dadlau ers tro o blaid defnyddio'r hyn a elwir yn egwyddor Merton wrth adeiladu ystadau tai newydd. Nawr, egwyddor gynllunio ragnodol yw hon a enwyd ar ôl bwrdeistref Merton yn Llundain, a’i dyfeisiodd yn y lle cyntaf. Dywed y dylai 10 y cant o holl anghenion ynni ystâd dai newydd ddod o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar y safle lle mae'r tai. Felly, beth am ehangu hynny i gynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan gyda'r holl dai hynny, gan ein bod yn defnyddio’r egwyddor honno ac yn ei datblygu gam ymhellach?

Hoffwn hefyd pe bai’r Llywodraeth, wrth inni fwrw ymlaen gyda'r Bil hwn, yn ystyried edrych ar bethau fel y benthyciadau di-log ar gyfer cerbydau trydan fel y mae Transport Scotland yn eu cynnig ar hyn o bryd, i alluogi pobl i brynu ceir trydan. Maent yn dal i fod yn eithaf drud, mae’r broses o’u gwerthu a’u prynu yn gymhleth iawn, mae'n rhaid i chi gael y cyfleuster i allu gosod man gwefru yn eich cartref—sy’n anodd os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau. Ond mae Transport Scotland wedi canfod ffordd o roi symiau sylweddol o arian i bobl ar fenthyciadau cost isel iawn dros chwe blynedd i sicrhau ein bod yn symud tuag at y chwyldro ceir trydan, a dyna mae pob un ohonom yn ei wneud. Cam bach yw hwn, ond credaf ei fod yn syniad da iawn, yn ddeddfwriaeth dda. David Melding, rwy'n dymuno'n dda i chi, a byddaf yn ei gefnogi i'r carn.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:58, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Fel ymgyrchydd balch dros ddefnyddio mwy o gerbydau allyriadau isel iawn, neu gerbydau ULEV, rwy'n croesawu'r cynnig hwn gan David Melding, ac rwy’n fwy na pharod i’w gefnogi.

Mewn ymateb i'r hyn a glywsom gan Angela Burns—fe ddywedoch chi eich bod yn hoffi'ch car, rydych chi'n hoffi gyrru'n gyflym, ond fe fyddwch yn cefnogi cerbydau trydan—mae cerbydau trydan yn gyrru fel unrhyw gar arall. Nid ydym yn gofyn i chi roi'r gorau i unrhyw beth; rydym yn gofyn i chi wneud cyfraniad i'r amgylchedd.

Soniodd David Melding yn gynharach fy mod wedi cyflwyno cynnig tebyg yn ôl yn 2018. Roedd hwnnw'n ymwneud â mwy na thai; roedd yn ymwneud â chyflwyno canllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd, boed yn adeiladau cyhoeddus neu dai, er mwyn sicrhau ein bod yn cael y rhwydwaith ehangach hwnnw. Cynigiais Fil hefyd i gael strategaeth gerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon i Gymru drwy ddeddfwriaeth. Y pwynt yw bod arnom angen deddfwriaeth, ac mae angen i ni ddefnyddio ein hoffer deddfwriaethol. Bydd y farchnad yn cyflawni llawer o'r hyn rydym am ei weld, ond yn yr un modd â band eang, nid yw'r farchnad yn cyrraedd pob rhan o Gymru. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddarparu cyllid, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddarparu deddfwriaeth hefyd, ac mae'n rhaid i ni edrych ar yr holl offer sydd ar gael i ni er mwyn annog pobl i ddefnyddio cerbydau trydan.

Soniais yn gynharach yn y Siambr heddiw am arian a sicrhawyd gan Blaid Cymru mewn cytundeb cyllidebol flwyddyn neu ddwy yn ôl, i sicrhau arian ar gyfer rhwydwaith cenedlaethol o bwyntiau gwefru. Unwaith eto, bydd y farchnad yn talu am lawer o'r pwyntiau gwefru y bydd eu hangen arnom, ond o ran tai—[Torri ar draws.] Nid wyf yn credu ein bod yn cael derbyn ymyriadau yn y dadleuon hyn.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mewn eiliad. Yn y blynyddoedd sydd i ddod, pan fydd pobl yn mynnu cael pwyntiau gwefru yn eu cartrefi, mae'n siŵr y bydd adeiladwyr yn eu rhoi i mewn. Ond gall y Llywodraeth fynnu bod hynny'n digwydd drwy ddeddfwriaeth yn awr, er mwyn sbarduno'r newid diwylliant a fydd yn ein harwain at y pwynt hwnnw yn y dyfodol gweddol agos.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:01, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

A ydych chi'n cytuno bod angen i'r pwyntiau gwefru trydan newydd hyn gael eu cynhyrchu gan ynni adnewyddadwy? Fel arall, nid ydym yn ennill tir o ran ein hallyriadau carbon. 

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Er mwyn cadw fy ateb yn fyr, mae cerbydau trydan yn dal i fod yn fwy effeithlon na cheir a yrrir gan beiriant tanio mewnol, hyd yn oed os ydynt yn cael eu tanio gan drydan a gynhyrchir gan danwydd ffosil, am eu bod yn fwy effeithlon. Ond rydych yn llygad eich lle, wrth gwrs: dyna lle mae angen inni gyrraedd, ein bod yn defnyddio trydan glân i yrru'r car. Felly mae'n bwynt canolog. 

Mae llawer angen ei wneud yng Nghymru. Cyhoeddais yr adroddiad hwn gydag aelod o fy nhîm, Jamie Thomas, y llynedd, i edrych ar wersi o'r Alban, ac mae cymaint y gallwn ei ddysgu o'r hyn a wnaethant yn yr Alban. Roeddent o ddifrif ynglŷn â hyn flynyddoedd yn ôl. Rhoesant fesurau ar waith trwy Lywodraeth ganolog yr Alban a chynghorau lleol fel Dundee er mwyn gyrru'r newid diwylliant hwnnw, ac mae cymaint o gwestiynau i Lywodraeth Cymru edrych arnynt. Pa gymhellion y gellir eu rhoi i bobl newid? Gyda phwy y gallant weithio mewn partneriaeth i wneud cerbydau ULEV yn fwy deniadol i bobl? Sut y gellir cyfleu manteision cerbydau ULEV i bobl? Sut y gall Cymru arloesi a normaleiddio ym maes ULEV? Sut y gallwn reoli pethau'n ganolog, fel y gwnaethant yn yr Alban, drwy gael canolbwynt canolog, dan berchnogaeth gyhoeddus y caiff data gan gwmnïau preifat ei fwydo iddo fel eu bod yn gwybod sut y mae pobl yn yr Alban yn ymddwyn mewn perthynas â cherbydau trydan?

Felly, dyma ddeddfwriaeth bwysig iawn arall yn cael ei chynnig gan David Melding. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn bwrw iddi go iawn ar hyn. 

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:02, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf innau hefyd yn cefnogi cynnig deddfwriaethol David Melding. Fel Rhun ap Iorwerth, rwy'n ymgyrchydd yn y maes hwn. Rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol iawn o ddatganiad newid hinsawdd Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, cyfeiriodd David Melding at gyhoeddiad Llywodraeth y DU ddoe ei bod am gael gwared ar geir petrol a diesel ar gam cynharach o lawer. Felly rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gyflymu gweithgarwch yn y maes hwn er mwyn sicrhau ein bod yn barod ar gyfer y newid sydd o'n blaenau.

Dyna pam y gwnaeth y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau waith ar hyn y llynedd, ac aethom ati i gynnal ein hymchwiliad mewn ffordd wahanol iawn mewn gwirionedd. Fe ddechreuasom yn y ffordd arferol, drwy gasglu tystiolaeth, ond yr hyn a wnaethom wedyn oedd penderfynu cyhoeddi ein hadroddiad drafft, a gwnaethom hynny am fod hwn yn faes polisi sy’n newid mor gyflym. Felly roeddem eisiau'r mewnbwn pellach hwnnw, ac ar ôl i ni ei gael fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad terfynol. Hefyd, rhoesom sylw i'r gwaith a wnaeth Rhun ap Iorwerth, oherwydd roedd hwnnw'n cyd-fynd fwy neu lai â'n hadroddiad.

Mae gan 'Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10' bolisi newydd ar gerbydau allyriadau isel iawn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau amhreswyl gael pwyntiau gwefru wrth o leiaf 10 y cant o'r lleoedd parcio sydd ar gael. Ond roedd ein hadroddiad yn argymell mynd ymhellach na hyn, a dywedasom y dylid ei ymestyn i gynnwys datblygiadau preswyl, ac y dylid ystyried codi canran y lleoedd parcio â phwyntiau gwefru wrth i gerbydau trydan ddod yn fwy cyffredin. Felly o ganlyniad i hynny roeddwn yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn ac wedi nodi bod symud tuag at bwyntiau gwefru mewn datblygiadau amhreswyl—ac rwy'n dyfynnu yma— wedi’i fwriadu i fod yn fesur dros dro yn lle mesur mwy cynhwysfawr i'w gyflwyno drwy'r Rheoliadau Adeiladu. 

Felly galwodd adroddiad ein pwyllgor am weithredu ar frys ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn cyflwyno strategaeth newydd ar wefru cerbydau trydan, a bydd ei gynnwys yn bwysig iawn. 

Clywsom am ymyrraeth y farchnad, a bydd y farchnad yn ymyrryd yn y maes hwn, ond mae'n sefyllfa iâr ac wy. Mae angen i'r Llywodraeth gamu i'r adwy i dorri'r cylch hwnnw, a dyna pam rwy'n gefnogol iawn i'r cynigion a gyflwynwyd gan David Melding heddiw a byddaf yn cefnogi ei gynnig deddfwriaethol.   

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:05, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn, ond rwy'n cydnabod nad yw’r angen am bwyntiau gwefru ceir trydan mewn adeiladau preswyl ond yn rhan o'r seilwaith ehangach sydd ei angen. 

Cadeiriais y sesiwn gyntaf ym mhrif seminar Fforwm Polisi Cymru ym mis Rhagfyr ar bolisi ynni yng Nghymru a hwyluso'r newid i economi carbon isel— blaenoriaethau ar gyfer torri allyriadau, seilwaith a buddsoddiad, a chefnogi'r economi. Fel y dywedais yno, mae'r gallu i storio llawer iawn o ynni yn hanfodol i ynni adnewyddadwy, oherwydd nid yw heulwen a gwynt yn ymddangos ar adegau cyfleus pan fydd angen trydan ar bobl, ond os daw ceir a cherbydau trydan i gymryd lle'r holl geir a cherbydau cyhoeddus confensiynol, byddai cyflenwad y byd o lithiwm, sy'n cael ei ddefnyddio mewn batris, yn dod i ben o fewn oddeutu pum degawd. Nodais hefyd fod yna waith ymchwil yn mynd rhagddo yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd ar fatris ynni adnewyddadwy amgen, ond nid ydynt yn barod ar gyfer y farchnad eto. 

Clywsom hefyd gan y panel arbenigol ein bod yn gweld tystiolaeth fod y newid i gerbydau trydan a mathau eraill o gerbydau allyriadau isel wedi dechrau, ond mae’n digwydd yn llawer arafach yng Nghymru na gweddill y DU, a chaiff ei fesur yn ôl y nifer sy'n defnyddio cerbydau trydan a'r ddarpariaeth o seilwaith pwyntiau gwefru. 

Clywsom fod rhestr hir o bethau y gallai ac y dylai sefydliadau sector cyhoeddus eu gwneud, gan gynnwys hwyluso rhwydwaith o bwyntiau gwefru ac arwain trwy esiampl, trwy annog mabwysiadu cerbydau trydan yn fflydoedd y sector cyhoeddus a'u cadwyni cyflenwi, gan ddefnyddio'u dylanwad trwy gaffael. Clywsom ei bod yn gwbl hanfodol fod digon o bwyntiau gwefru ar gael yn y lleoliadau cywir i roi hyder i fflydoedd ac unigolion fynd allan a buddsoddi mewn cerbyd trydan, ac y gall y sector cyhoeddus arwain trwy esiampl, fel y nodais. 

Mae fy mab-yng-nghyfraith wedi cymhwyso fel gosodwr mannau gwefru cerbydau trydan, ac yn ddiweddar cyfarfûm â busnesau yn Sir y Fflint sy'n darparu hyfforddiant ac yn eu gosod. Mae pob un yn aros i’r argae chwalu, ond eto dangosodd ystadegau Adran Drafnidiaeth y DU a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr mai dim ond 60 o fannau gwefru cyflym sydd ar gael yn gyhoeddus ledled Cymru, heb un o gwbl, yn ôl yr hyn a ddywedant, yng Ngwynedd, Conwy, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent neu Dorfaen, a dim ond 1.8 am bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru, o'i gymharu â 3.6 yn Lloegr a 7.5 yn yr Alban. 

Yn ei ddatganiad diweddar ar fetro gogledd Cymru, cyfeiriodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth at y safle parcio a theithio newydd a llwybrau teithio llesol ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy—pethau da; fodd bynnag, deallaf mai dim ond dau fan gwefru dwbl sy'n cael eu gosod ar gyfer 240 o leoedd parcio yn y maes parcio a theithio, a bod hyn hyd yn oed wedi galw am ymyrraeth ar ran y cyngor. Mae'n rhaid inni wneud yn well. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:08, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James?

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi i gyd am y cyfraniadau a wnaed ar y pwnc hwn. Rwy’n croesawu’n fawr y cyfle i drafod mesurau sydd â’r potensial i gyfrannu’n ystyrlon at drawsnewid ein sector trafnidiaeth a’n hamgylchedd, ac sydd wedi ennyn cymaint o gonsensws trawsbleidiol clir. 

Yn amlwg, mae'r mater hwn yn ymwneud â thrafnidiaeth, ond rwy'n ymateb i'r ddadl gan ein bod wedi penderfynu mai rheoliadau adeiladu, sy'n dod o fewn fy mhortffolio i, fydd y modd allweddol o ddarparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn adeiladau newydd, fel y dywedasom yn adroddiad pwyllgor Russell George. 

Mae trydaneiddio trafnidiaeth ffordd yn ganolog i'n cynlluniau i leihau allyriadau carbon, fel y'u nodir yn 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel'. Ceir ar eu pennau eu hunain sydd i gyfrif am bron i 8 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru. Nid yw allyriadau carbon y sector trafnidiaeth wedi newid fawr ddim ers llinell sylfaen 1990, a gallai ymddangosiad cerbydau trydan leihau hyn yn sylweddol yn ystod y 2020au. Mae gan gerbydau trydan ran allweddol i'w chwarae hefyd yn gwella ansawdd aer yn ein trefi a'n dinasoedd. 

Fel y cydnabu David Melding, bydd adeiladu'r rhwydwaith cynhwysfawr o fannau gwefru sydd eu hangen i gefnogi'r defnydd o gerbydau trydan ar raddfa fawr yn her sylweddol. Mae yna amrywiaeth o systemau gwefru a gwefryddion, ac mae eu hangen ar gyflymder amrywiol ac mewn amrywiaeth o leoliadau cyfleus i bawb allu gwefru. Fodd bynnag, gwefru gartref, i'r rheini sydd â chyfleuster i barcio gartref, fydd y dull mwyaf cyfleus a chosteffeithiol o wefru ceir yn y dyfodol agos. Gall gwefru gartref dros nos helpu hefyd i gydbwyso galw brig ac allfrig am drydan ac felly dylid eu hannog. Mae tua 80 y cant o'r holl wefru ceir trydan a wneir yn digwydd gartref ar hyn o bryd ac rydym yn disgwyl i hynny barhau i fod y dull mwyaf poblogaidd o wefru. 

Yn ddiweddarach eleni, bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cyhoeddi strategaeth gwefru cerbydau trydan a fydd yn ein helpu i benderfynu pa gamau sy'n ofynnol i gyflawni'r gofynion ar gyfer gwefryddion yn ystod y pum mlynedd nesaf. Ar y cam cynnar hwn o fabwysiadu cerbydau trydan, rydym yn cydnabod yr angen i annog pobl i’w defnyddio. Rwy'n argymell yn fawr y Zap-Map a nodwyd gan Angela Burns i unrhyw un sydd â cherbyd trydan—mae'n ddefnyddiol iawn ar gyfer gwybod ble y gallwch ddod o hyd i bwynt gwefru. 

Fel y dywedodd Russell George, rydym eisoes wedi cyflwyno gofyniad yn 'Polisi Cynllunio Cymru' i ddatblygiadau amhreswyl newydd fel archfarchnadoedd a gweithleoedd gael pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Ar gyfer adeiladau sy'n bodoli'n barod, rydym wedi cyflwyno hawliau datblygu a ganiateir i alluogi busnesau i osod mannau gwefru cerbydau trydan heb fod angen unrhyw ganiatâd cynllunio. Mae'r mesurau hyn i gyd yn bwysig i fynd i'r afael â phryderon ynghylch pellter teithio cyn ailwefru. Yn amlwg, mae unrhyw un sydd wedi ystyried cael cerbyd trydan yn cyfrif ar unwaith beth yw eu pellter teithio arferol ac a allant gyrraedd yno ac yn ôl heb y mecanwaith gwefru. I'r rhai ohonom sy'n gweithio mewn dau le gwahanol, mae eich gallu i wefru yn y gwaith os yw'r pellter teithio cyn ailwefru yn rhy bell, fel y byddai yn fy achos i er enghraifft, yn fater o bwys. 

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

I roi rhywfaint o gyd-destun i chi, Weinidog, os byddaf yn gyrru cerbyd trydan o sir Benfro i Fae Caerdydd ac yn ôl eto, rhaid i mi stopio yn y gwasanaethau ar yr M4 er mwyn ailwefru i barhau fy nhaith adre. Mae ailwefru’n cymryd hanner awr, felly mae'n gwneud yr holl broses yn hwy.  

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Rwyf mewn sefyllfa debyg iawn fy hun. A dweud y gwir, un o'r pethau rwyf eto i’w trafod, ond rwy'n siŵr y bydd y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn croesawu hynny, yw a allwn gyflwyno pwyntiau gwefru trydanol yn yr adeilad hwn ar gyfer ceir yr Aelodau. Mae gennym rai ar gyfer ceir y Llywodraeth, ond os gallwn edrych ar ymestyn hynny, credaf y byddai croeso mawr i hynny gan lawer o’r Aelodau'n bersonol. Ond yn amlwg, mae angen yr ysbryd hwnnw arnom i fynd allan i bob math o waith yng Nghymru fel y gall pobl eraill sy'n teithio pellteroedd i’r gwaith neu am ba reswm bynnag wefru dros dro hefyd. 

Fel y dywedaf, nid ydym yn ei gadael hi ar hynny. Rydym eisoes wedi cynllunio rhai o'r pwerau angenrheidiol i wneud y newidiadau ar fannau gwefru cerbydau trydan. Yn ddiweddar, cytunodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau i gyhoeddi papur ymgynghori ar newidiadau i’w gwneud yn ofynnol i gynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gyfer pob annedd newydd ac mewn mannau parcio ar gyfer adeiladau amhreswyl. Nodir manylion y cynigion hyn yn fwy manwl yn yr ymgynghoriad. 

I ateb Rhun, rydym wedi bod yn gweithio mewn ymateb i'r cytundeb a wnaethom gyda Phlaid Cymru. Roedd gennym 670 o bwyntiau gwefru ledled Cymru ym mis Ebrill y llynedd ac mae gennym 1,000 ar hyn o bryd, felly mae'n cynyddu rhywfaint, er fy mod yn cytuno y gallem fynd yn gyflymach. 

Disgwyliwn i'r ymgynghoriad ymddangos yn ddiweddarach y gwanwyn hwn. Felly, er fy mod yn cefnogi'r amcan o’i gwneud yn ofynnol i dai newydd gael pwyntiau gwefru cerbydau trydan, nid oes angen Bil gan y byddwn yn datblygu ein cynigion ein hunain i'w gyflwyno yn ein rheoliadau adeiladu y bwriedir ymgynghori arnynt yn fuan iawn ac a fydd yn cynnwys amryw o bethau, a hyn yn un ohonynt. 

Mae Jenny Rathbone yn iawn am y seilwaith gwyrdd a'r pwyntiau cynllunio ar gyfer byw. Mae gennym un neu ddwy o raglenni yn ein prosiect tai arloesol sy'n edrych ar hynny, sef a fydd pobl yn byw mewn datblygiadau lle mae eu car yn rhywle arall. Un o'r problemau a gawsom mewn cynlluniau blaenorol yw na fydd pobl yn defnyddio trefniadau parcio i ffwrdd o'r tŷ oherwydd, yn aml, car yw'r ail beth drutaf y bydd unrhyw un wedi'i brynu, ar ôl eu tŷ, felly maent yn amharod iawn i'w gadw filltiroedd i ffwrdd o ble y maent. Ond rwy'n cytuno bod angen inni edrych ar y seilwaith gwyrdd mewn perthynas â hynny a'r hyn y gellir ei ymgorffori yn hynny. 

Fel y dywedodd Rhun, rwy'n cytuno bod angen ymyrraeth y Llywodraeth arnom mewn marchnad nad yw'n cyflawni'n llwyr, ond nid deddfwriaeth sylfaenol sydd ei hangen arnom o reidrwydd—mae gennym ddulliau deddfwriaethol eraill, gan gynnwys rheoliadau adeiladu a'r trefniadau cynllunio. 

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Yn bendant.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch am ildio. Mae wedi bod yn ddadl gynhyrchiol iawn hyd yn hyn. Rwy'n cytuno â'r Aelodau sydd wedi dweud bod angen i ni, fel y dywedodd y Gweinidog, wella'r seilwaith pwyntiau gwefru’n helaeth—mae'n amlwg fod hynny’n bwysig. O ran y dyfodol, yn Ewrop gwelwyd trefi prototeip lle maent yn edrych ar wefru Wi-Fi, a allai fod yn un ffordd o wefru cerbydau’n barhaus ar hyd y ffyrdd yn y dyfodol. Rwy'n gwybod bod hynny'n bell i ffwrdd yng Nghymru, ac mae'r hyn a wnewch drwy flaenoriaethu'r strwythurau presennol yn iawn, ond a ydych chi'n rhoi unrhyw sylw i ddatblygiadau arloesol yn y dyfodol a allai olygu y bydd rhai o'r problemau hyn yn datrys eu hunain yn y dyfodol? 

Photo of Julie James Julie James Labour 4:14, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Dyna bwynt da iawn. Rydym wedi edrych ar rai rhaglenni arloesol. Gwn fod swyddogion y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, er enghraifft, wedi bod yn edrych i weld a yw'n bosibl cael lonydd gwefru araf ar hyd cefnffyrdd fel bod gennych—nid wyf yn deall y dechnoleg—ryw fath o ddolen anwytho fel bod eich car yn ailwefru os ydych chi'n ei yrru ar x milltir yr awr. Rydym yn edrych ar rai o'r datblygiadau arloesol hynny, ond rwy'n credu eu bod ychydig yn bell i ffwrdd o ran seilwaith cyffredinol, ond serch hynny, mae angen eu cadw mewn cof. 

Y peth arall i'w ddweud—rwy'n credu mai Angela Burns a gododd hyn, ac efallai fod nifer o rai eraill wedi gwneud hynny hefyd—ond mae awdurdodau lleol eisoes yn gallu gosod targedau ynni adnewyddadwy yn eu cynlluniau datblygu lleol yn unol â rheol Merton y cyfeiriodd ati'n benodol, ac mae eraill wedi sôn am wyrddu'r grid. Felly gall awdurdodau lleol wneud hynny eisoes yng Nghymru. Yr hyn a wnawn yn awr, o ran y fframwaith datblygu cenedlaethol a'r trefniadau cynllunio strategol a gyflwynwn drwy'r Bil llywodraeth leol, yw eu hannog i wneud hynny ar lefel strategol, ranbarthol, yn ogystal ag yn eu cynlluniau datblygu lleol. Ond mae ganddynt bŵer i'w wneud yn barod.

Felly, os caf ddweud i gloi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn llwyr gefnogi byrdwn y cynnig hwn i sicrhau bod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn cael eu gosod ym mhob tŷ newydd, ac mewn adeiladau amhreswyl hefyd. Fodd bynnag, rydym yn ymatal am nad ydym yn credu bod angen deddfwriaeth sylfaenol, dyna i gyd. Rydym yn edrych ar wneud hyn drwy'r llwybr rheoliadau adeiladu yn lle hynny, ac mae hynny'n rhan o'r ymgynghoriad sydd ar y ffordd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:15, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ofyn yn awr i David Melding ymateb i'r ddadl?

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Credaf ein bod wedi cael dadl ragorol a chafodd pwyntiau perthnasol iawn eu cyflwyno sydd wedi ychwanegu at ei dyfnder, ac wedi ychwanegu awdurdod i'r angen i symud hefyd yn fy marn i, a diolch i'r Gweinidog am ateb yn yr ysbryd hwnnw hefyd.  

Os caf ddweud, rwy'n meddwl, Jenny Rathbone, eich bod chi'n iawn i ddweud bod yna dechnolegau eraill, a hydrogen yw'r un mwyaf tebygol efallai, pan fyddwn ni'n cymharu, ond mae trydan yn llawer mwy datblygedig ac mae heriau eithaf helaeth yn dal i wynebu hydrogen. Ond beth bynnag fydd yn digwydd, rydym am i'r technolegau newydd hyn fod ar gael. Faint o geir? Rwyf innau hefyd yn weddol agnostig ar y defnydd o geir. Hoffwn weld llai o geir yn cael eu prynu a mwy yn cael eu rhannu, ac mae'n debyg y gwelwn dueddiadau cymdeithasol felly. Nid ydym yn adeiladu cymaint â hynny o dai newydd, felly mae'n weddol gyfyngedig, mewn gwirionedd, os ydym yn mynd i gyflwyno'r ddeddf hon. Nid yw fel pe baem yn mynd i fod yn ei gwneud yn ofynnol i bob tŷ ôl-ffitio. Ac rydych chi'n iawn am ynni adnewyddadwy; mae'n rhaid iddo fod yn rhan o'r darlun. Rwy'n credu bod cartŵn yn y Telegraph heddiw—neu mae yn un o'r papurau newydd, beth bynnag—yn dangos pwynt gwefru trydan wedi'i gysylltu wedyn wrth orsaf bŵer fudur yn defnyddio glo, ac mae hynny'n mynd yn groes i'r bwriad yn llwyr.

Angela, rwy'n meddwl bod pwyntiau gwefru gwledig yn wirioneddol bwysig, ac mae'r Zap-Map, sy'n swnio'n fendigedig ac rwy'n siŵr ei fod yn fendigedig, ond mae'n newydd i mi. Ac rydych chi'n hoffi eich car—nid ydych yno gyda Jenny a minnau. Mae'n rhaid inni gofio hyn, fod llawer o bobl yn ystyried ceir yn bethau sy'n rhoi llawer iawn o ryddid iddynt, ac mae Jenny a minnau'n byw mewn ardaloedd trefol iawn gyda llawer o ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau eraill, felly gadewch i ni gofio'r rhai sy'n ddibynnol iawn ar eu ceir.  

Rhun a arweiniodd yr agenda hon ac rwy'n falch o gael yr encôr, mae'n debyg. Fe wnaethoch chi dawelu meddwl Angela fod ceir trydan yn perfformio'n dda hefyd—nid wyf am ddweud 'mynd yn gyflym', a allai annog y peth anghywir, ond beth bynnag, 'perfformio'n dda', gadewch i ni dderbyn yr ymadrodd hwnnw. A'r angen, fel y dywedoch chi, i ddefnyddio grym deddfwriaethol a chynllunio, ac edrych ar yr hyn a wnaeth yr Alban—wyddoch chi, mae'n arf hanfodol.

Russell, eto, mae'r pwyllgor wedi gweithio'n galed yn y maes hwn, ac fe wnaethoch ein hatgoffa am rwymedigaethau newid hinsawdd, ac mae hyn yn rhan allweddol iawn o'u cyflawni.  

Siaradodd Mark am y dechnoleg, ac mae angen inni wella technoleg batri, ac mae'r ddibyniaeth ar lithiwm ar hyn o bryd yn broblematig o bosibl. Ac mae'r diffyg pwyntiau gwefru cyflym yng Nghymru yn rhywbeth sy'n amlwg yn broblem ar hyn o bryd.  

Yna, canolbwyntiodd y Gweinidog ar reoliadau adeiladu a dulliau eilaidd, gan nad oedd angen deddfwriaeth sylfaenol, ac rwy'n croesawu cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth yn y maes hwn yn gynnes iawn, strategaeth y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ei llunio. Rwy'n nodi'n gwrtais mai cynnig i nodi yw hwn—nid yw'n dweud y dylai Bil gael ei gyflwyno—felly rwy'n gobeithio na fydd yn rhaid i chi ei wrthwynebu, gan nad yw'n eich ymrwymo, yn ôl fy nealltwriaeth i o'r cynnig beth bynnag; nid yw ond yn nodi bod y cynnig hwn wedi'i wneud, ac rydych chi'n amlwg wedi nodi eich amheuon beth bynnag. Felly, gobeithio y gall basio drwy gymeradwyaeth, fel petai.  

Diolch, Ddirprwy Lywydd.  

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:19, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, a'r cwestiwn yw a ddylem nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Mae arnaf ofn fy mod yn gwrthwynebu; mae angen inni ymatal.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:20, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

O'r gorau. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.