8. Dadl Plaid Cymru: Llygredd Aer

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 4:26, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a chynigiaf y gwelliannau'n ffurfiol yn enw Darren Millar—gwelliant 2, gwelliant 4 a gwelliant 5 ar y papur trefn y prynhawn yma.

Mae'n teimlo braidd fel pe baem wedi bod yma o'r blaen. Ym mis Medi, cawsom ddadl ar awyr lân o'r ochr hon i'r Siambr, ac rwy'n ategu teimladau'r sawl a agorodd y ddadl yn llwyr pan ddywedodd, pe bai hon yn unrhyw fath arall o broblem byddai ewyllys genedlaethol i'w datrys. Gwyddom fod bron i 2,000 o bobl yn marw'n gynamserol, ac yn y ddadl honno, gwneuthum yr union bwynt hwn: pe bai rhywun yn dod i mewn ac yn lobïo'r Siambr hon, a'r Aelodau yn y Siambr hon, i ddweud bod 2,000 o bobl yng Nghymru yn marw'n gynamserol a bod y gallu gennym i ddatrys y broblem hon, neu'n sicr i leihau'n sylweddol y nifer o bobl sy'n marw'n gynamserol, byddai gwleidyddion o bob lliw yn gwneud eu gorau glas i sicrhau ein bod yn defnyddio'r gallu hwnnw i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â'r mater.

Mae'n siomedig fod ymrwymiad y Prif Weinidog yn ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth i gyflwyno Bil aer glân bellach wedi disgyn oddi ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer y Cynulliad hwn. Rwy'n siŵr y bydd i'w weld mewn maniffestos ar gyfer 2021, ond unwaith eto, buaswn yn awgrymu ei bod yn ddeddfwriaeth a fyddai'n cael cefnogaeth eang ar draws y Siambr ac ni fyddai'n cael ei llesteirio gan ryfel gwleidyddiaeth bleidiol efallai neu rai o'r rhwystrau sy'n amlwg yn atal deddfwriaeth rhag pasio'n ddilyffethair drwy'r sefydliad hwn. A gydag ewyllys da Aelodau ar bob ochr i'r Siambr, rwy'n credu y gallai deddfwriaeth fod ar y llyfr statud erbyn i'r Cynulliad hwn gael ei ddiddymu tuag at ddiwedd mis Mawrth. Felly, unwaith eto, hoffwn annog y Gweinidog i weithio gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet ac estyn allan ar draws y Siambr i gyflwyno'r newidiadau deddfwriaethol a fydd, fel y deallaf o ddadleuon blaenorol, a'r ddadl hon mae'n siŵr, yn ailadrodd y consensws sy'n bodoli o gwmpas y Siambr.

Ac rwy'n credu bod hawl gan bobl i gael aer glân i'w anadlu o ddydd i ddydd. Cofiaf yn iawn, yn y ddadl ym mis Medi, fy nghyd-Aelod Nick Ramsay ar yr ochr yma, yn tynnu sylw at un o'i etholwyr—Mrs Barnard oedd enw'r wraig rwy'n credu—a oedd yn y bôn yn mygu i farwolaeth oherwydd, yn amlwg, roedd ganddi gyflwr ar yr ysgyfaint a gâi ei waethygu gan ansawdd aer gwael. A allwch chi ddychmygu gwylio rhywun annwyl i chi yn araf ond yn sicr yn ymladd am aer, ei hanadliadau olaf, ac yn marw yn y pen draw, a chithau'n gwybod y gellid gwneud gwelliannau i wella ansawdd y bywyd y bydd yr unigolyn hwnnw'n ei fyw? Dyna'r canlyniadau dynol go iawn sy'n digwydd yn ein cymdeithas heddiw, a lle'r Llywodraeth yw cyflwyno'r cynigion a allai wneud gwahaniaeth mawr mewn gwirionedd. Felly, dyna pam, yng ngwelliant 2, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn tynnu sylw at y cyflyrau sy'n cael eu gwaethygu gan ansawdd aer gwael, fel asthma, fel canser yr ysgyfaint, ac effeithiau hirdymor eraill ar iechyd, ac rwy'n gobeithio y bydd y gwelliant yn cael cefnogaeth y Siambr y prynhawn yma.

Buaswn yn awgrymu ei bod hi hefyd yn bwysig, pan fyddwn yn gosod safonau, fel yr amlygwn yng ngwelliant 4, yn lle bodloni ar y safonau sydd gennym ar hyn o bryd—yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae safonau Llywodraeth Cymru'n seiliedig ar safonau Ewropeaidd—ein bod yn anelu tuag at safonau Sefydliad Iechyd y Byd yn y maes penodol hwn, oherwydd mae hynny'n gosod y safon aur ar gyfer ble mae angen inni fod. Mae Llywodraethau eraill ledled y DU wedi cytuno mai dyna'r safon y maent yn mesur eu hunain wrthi, a buaswn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru am gael ei mesur yn ôl yr un safon hefyd. A'r unffurfiaeth—fel yr amlygodd y sawl a agorodd y ddadl, nid problem leol yma yng Nghymru'n unig yw hon—er bod gennym rai o'r problemau mwyaf cronig o ran cyflwr yr aer yma—ond ar draws y byd i gyd, ac yn wir, ar draws gweddill y Deyrnas Unedig. Ac felly, unwaith eto, buaswn yn gobeithio'n fawr y bydd y Llywodraeth a phleidiau eraill yn cefnogi gwelliant 4 sydd yn enw Darren Millar ac sy'n galw ar y Llywodraeth i fabwysiadu canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd.

Yna, gwelliant 5, sy'n sôn am yr hawl i anadlu. Hawl i anadlu aer glân ydyw. Gwelaf Dai Lloyd yn y fan acw yn y Siambr ac rwy'n gweld y darllenfwrdd sydd ganddo o'i flaen; mae'n siŵr ei fod yn mynd i gyfrannu at y ddadl hon, ac rwy'n parchu'r gwaith y mae wedi'i wneud yn y grŵp hollbleidiol y mae'n ei gadeirio ar y pwnc penodol hwn. Tynnodd sylw at y ffaith ei bod hi'n cael ei hystyried yn iawn 150 o flynyddoedd yn ôl i bobl yfed dŵr brwnt a bod y canlyniadau iechyd a ddeuai yn sgil hynny yn dderbyniol mewn cymdeithas fel y cyfryw. Pan ddaeth ein rhagflaenwyr at ei gilydd i weithredu drwy lanhau'r systemau dŵr yn y wlad hon, gwellodd iechyd y cyhoedd yn ddramatig. Roedd ein hynafiaid 150 o flynyddoedd yn ôl yn ystyried bod angen gwneud newidiadau o'r fath. Wel, heddiw—yn anffodus, rydym wedi gorfod aros 150 mlynedd—gallwn wneud y newidiadau i ansawdd aer yma yng Nghymru a fydd yn gweld y newid seismig yn ansawdd y bywyd y bydd llawer o bobl yn ei fwynhau ar hyd a lled Cymru.

Ac felly, wrth gynnig y gwelliannau hyn, rwy'n gobeithio y byddant yn cyfrannu at y cynnig cyffredinol sydd ger ein bron y prynhawn yma. Ac rwy'n gobeithio, fel llawer o gynigion o'r blaen, y caiff y cynnig hwn ei gefnogi gan y Cynulliad ac y cawn weld gweithredu go iawn gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, gweithredu y buaswn yn awgrymu y bydd yn ennyn cefnogaeth ar draws y Siambr. Ni allwn sefyll yn ein hunfan a chaniatáu i 2,000 o bobl eraill farw'n gynamserol bob blwyddyn. Dyna pam y byddwn yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron y prynhawn yma.