Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 5 Chwefror 2020.
Hoffwn sôn am y cyfeiriadau a glywsom at y 2,000 o bobl sy'n marw'n gynamserol oherwydd llygredd aer. Wrth gwrs, nid yw hynny'n cyfrif yn ogystal y miloedd lawer sy'n dioddef afiechydon o ganlyniad i lygredd yn yr aer. Nid yw graddau'r profiadau hynny'n cael eu hadlewyrchu yn yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, sy'n deimlad sydd eisoes wedi'i fynegi ac un rwyf am ei gefnogi.
Yn ôl ym mis Mai 2017, gwelsom sut y ceisiodd Plaid Cymru ddiwygio Bil iechyd y cyhoedd Llywodraeth Cymru i gydnabod llygredd aer fel problem iechyd cyhoeddus. Yn anffodus, pleidleisiodd Llafur yn erbyn y gwelliannau hynny. Yn ôl ym mis Ionawr 2018, cyfaddefodd Llywodraeth Cymru mewn achos yn yr Uchel Lys a ddygwyd gerbron gan Client Earth ei bod wedi methu cyrraedd targedau'r UE i leihau llygredd aer, ac roedd rhwymedigaeth gyfreithiol arni i ddrafftio cynllun aer glân erbyn diwedd Ebrill ac i gael cynllun terfynol ar waith erbyn diwedd Gorffennaf 2018. Bu'n rhaid iddi ofyn am estyniad i wneud hynny.
Rwy'n dal i deimlo nad ydym wedi gweld newid sylweddol yn agwedd Llywodraeth Cymru a ddynodai ei bod yn barod i fynd i'r afael â hyn a'i ddatrys. Ers hynny, rydym wedi gweld y Llywodraeth o hyd—. Mae'n teimlo fel pe bai'r Llywodraeth yn methu penderfynu ai Deddf aer glân neu gynllun aer glân a fydd ganddi. Yn sicr, teimlaf fod y Llywodraeth wedi methu creu a chyflwyno mesurau cadarn i roi camau go iawn ar waith.
Ym mis Rhagfyr, cafwyd datganiad am aer glân, ac ymddangosai fel pe bai'n cadarnhau ymrwymiad i Ddeddf aer glân. Fodd bynnag, nid oedd y datganiad ond yn ymrwymo i ymgynghoriad 12 wythnos a chyhoeddi'r canfyddiadau wedyn cyn diwedd y Cynulliad hwn. Wel, nid oes llawer o ôl brys yno, ac mae'n teimlo fel pe bai'r broblem yn cael ei rhoi i'r naill ochr.
Nawr, os ydych am gael enghraifft bendant o pam y mae angen Deddf aer glân i amddiffyn cymunedau ac iechyd pobl, nid oes angen edrych ymhellach na'r Waun. Mae'n ardal y gwn fod y Gweinidog yn gyfarwydd â hi. Tref fechan ger Wrecsam yw hi, cartref i gwmni gweithgynhyrchu sglodion pren mawr, Kronospan, lle bu tân yn ei iard foncyffion yn ddiweddar. Dyma'r ail dân ar bymtheg mewn 18 o flynyddoedd, er bod y bobl leol yn dweud wrthyf fod mwy o ddigwyddiadau rheolaidd na hynny hyd yn oed. Nawr, oherwydd diffyg monitro llygredd aer, cymerodd 48 awr i breswylwyr sy'n byw ar draws y ffordd i'r gwaith a oedd ar dân gael eu cynghori i gau eu drysau a'u ffenestri. Cymerodd 48 awr i gynghori plant yn yr ysgol ar draws y ffordd i beidio â chwarae yn yr iard. A chymerodd 48 awr i gael offer monitro yno o Abertawe i asesu ansawdd yr aer.
Nawr, dyma gymuned sydd wedi cael mwy na'i siâr o ddigwyddiadau o'r fath ac a dweud y gwir, maent wedi cael digon. Maent wedi cael digon, ac maent yn cynnal piced wythnosol yn y ffatri erbyn hyn ac yn awyddus i weld gweithredu. Ond wrth gwrs, ni fyddant yn ei gael gan y Llywodraeth hon, oherwydd dywedodd y Gweinidog wrthyf yr wythnos diwethaf nad oedd hi'n meddwl bod angen ymchwiliad annibynnol; hyn, er gwaethaf tystiolaeth fod fformaldehyd yn yr aer, a gafodd ei fonitro yn y diwedd 48 awr ar ôl i'r adeg yr oedd y tân ar ei waethaf, a gwyddom am beryglon carsinogenaidd mwg pren gwlyb yn ogystal. I fod yn glir, nid tân bach oedd hwn. Roeddem yn sôn yma am 7,000 o dunelli o bren a ddinistriwyd yn y tân.
Felly, dyna pam y mae angen Deddf aer glân: i orfodi Llywodraethau hunanfodlon i weithredu yn hytrach na golchi eu dwylo o gyfrifoldeb. Byddai Deddf aer glân fel yr un a argymhellir gan Blaid Cymru yn galluogi trigolion y Waun a mannau eraill i gael ansawdd aer wedi'i fonitro'n barhaol ger ysgolion ac ysbytai. Mae ysbytai ac ysgolion y Waun o fewn tafliad carreg i waith Kronospan. Byddai'r Ddeddf aer glân hefyd yn rhoi pwerau ychwanegol i gynghorau wrthod caniatâd cynllunio pe bai'n golygu cyfaddawdu ar ansawdd yr aer. Cafodd cynghorwyr eu llyffetheirio wrth i gais cynllunio ar ôl cais cynllunio ddod ger eu bron.
I bobl y Waun a'r cyffiniau, nid syniad haniaethol yw Deddf aer glân, mae'n ddeddfwriaeth hanfodol i amddiffyn eu plant a chenedlaethau'r dyfodol. Ac os yw'r Llywodraeth hon am wneud mwy nag esgus cefnogi llesiant cenedlaethau'r dyfodol, bydd yn sicrhau bod y Senedd hon yn gosod Deddf aer glân Plaid Cymru ar y llyfr statud cyn gynted ag y bo modd.