Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 5 Chwefror 2020.
Beth sy'n fwy sylfaenol na'r aer a anadlwn? Mae'n rhywbeth y dylem allu ei gymryd yn ganiataol fel hawl ddynol, ac mae'r ffaith bod yn rhaid inni gael y ddadl hon heddiw, mae arnaf ofn, yn gondemniad damniol o gyflawniad y Llywodraeth. Er mwyn byw'n iach, gwyddom y dylai pawb allu cael mynediad at ddŵr yfed glân heb ei lygru a bwyd maethlon nad yw wedi'i wenwyno. Hyd yn oed wedyn, gall bodau dynol fyw am wythnosau heb fwyd, a heb ddŵr am ddyddiau, ond mae'n anodd iawn mynd am fwy nag ychydig funudau heb anadlu, a dylai'r aer fod yn lân. Felly mae'n warthus—mae'n gwbl warthus—heddiw, yn yr unfed ganrif ar hugain, fel y clywsom eisoes, fod llygredd aer yn cyfrannu at oddeutu 2,000 o farwolaethau'r flwyddyn yng Nghymru, sy'n cyfateb i tua 6 y cant o'r holl farwolaethau.
Mae'n syfrdanol fod un o'r gwrthbleidiau yn gorfod galw dadl yn ein Senedd i erfyn ar ein Llywodraeth—Llywodraeth sy'n ymfalchïo ac yn galw ei hun yn flaengar a gofalgar mewn sawl ffordd—i weithredu er mwyn caniatáu'r hawl ddynol hon i aer glân i'n dinasyddion. Mae'r effaith ofnadwy a gaiff llygredd aer ar iechyd plant yn arbennig yn dorcalonnus, a chlywsom rywfaint o hyn eisoes. Nid yw'n iawn fod rhai plant yn cael eu geni eisoes yn dioddef o effeithiau llygredd aer ar ôl cael eu gwenwyno yn y groth i bob pwrpas. Yn ôl Joseph Carter, pennaeth Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yng Nghymru, mae llygredd aer yn niweidiol iawn i'r ysgyfaint sy'n datblygu mewn plant a fegir yng Nghymru. Nid yw hwnnw'n waddol y dylem ei dderbyn. Rwy'n cytuno â Mr Carter pan ddywed fod angen gweithredu yn awr, oherwydd mae'n amlwg nad yw'r system bresennol yn gweithio neu ni fyddem yn cael y ddadl hon.
Mae Llywodraeth Cymru yn gyndyn o fabwysiadu rôl arweiniol, ac mae hynny'n gadael i awdurdodau lleol reoli hyn, gan arwain at ganlyniadau anghyson. Mae'r ffordd fwyaf llygredig yn y DU y tu allan i Lundain yn fy rhanbarth i, yn Hafodyrynys. Nawr, er iddo basio cynnig aer glân a gyflwynwyd gan Blaid Cymru gyda chefnogaeth drawsbleidiol, mae'r awdurdod lleol wedi methu gweithredu'n bendant, gan ddadlau y byddai gwneud hynny'n rhy gostus mewn cyfnod o gyni. Roedd y sefyllfa mor ddrwg yn y diwedd fel mai'r unig beth y gellid ei wneud oedd prynu'r tai i gyd ar y ffordd honno er mwyn eu dymchwel.
Cafwyd enghraifft arall yr haf diwethaf pan gymeradwyodd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ddatblygiad tai wrth ymyl ardal rheoli ansawdd aer, lle dadleuodd y swyddogion cynllunio fod eu cynllun datblygu lleol ar gyfer 2013 yn dwyn mwy o bwysau cyfreithiol na Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nawr, hoffwn ofyn i'r Gweinidog beth yw diben cael deddfwriaeth sy'n arwain y byd y gall swyddogion cynllunio lleol ei hanwybyddu. Ar hyn o bryd, mae datblygiad tai dan ystyriaeth gan yr un cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i ffordd newydd rwygo drwy goetir lleol; datblygiad a gafodd ei werthu gan swyddogion i'r pwyllgor perthnasol fel prosiect gwyrdd sy'n bodloni safonau teithio llesol. Felly dyna lle rydym ni arni ar hyn o bryd. Hyd y gwn i, unwaith yn unig y mae Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd er mwyn gosod rheolaeth ganolog ar lygredd aer, a hynny yn ardal rheoli ansawdd aer Castell-nedd Port Talbot. Mae hynny wedi arwain at leihau llygryddion gronynnau niweidiol. Ond yn amlwg, cam bach yn unig yw un ymyrraeth pan fo angen newid sylfaenol ym mhob rhan o Gymru.
Felly beth ddylai ddigwydd? Yn amlwg, mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau pendant ar waith yn hyn o beth, yn hytrach na chael mwy o ymgynghoriadau. Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei strategaeth aer glân bum mlynedd yn ôl, ac eto, yma yng Nghymru mae'r Llywodraeth Lafur ar ei hôl hi. Darllenais ddatganiad Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ym mis Rhagfyr yn addo ymgynghoriad arall, ac mae arnaf ofn fod y diffyg uchelgais yn amlwg iawn. Mae'r ymgynghoriad yn sôn am ystyried canllawiau aer glân Sefydliad Iechyd y Byd, yn hytrach na mynd ati i'w gweithredu. Mae'n gosod uchelgeisiau amgylcheddol islaw twf economaidd. Does bosibl nad yw adeiladu economi lwyddiannus a lleihau llygredd aer yn nodau a all gydfodoli. Fel y clywsom eisoes, bydd economegwyr yn dweud wrthym fod llygredd yn costio i'r economi drwy lesteirio twf a cholli cynhyrchiant, heb sôn am y canlyniadau i iechyd y cyhoedd.
Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth aer glân yn ystod y tymor hwn, unwaith eto, fel yr addawodd y Prif Weinidog ei wneud yn ei faniffesto ar gyfer yr arweinyddiaeth. Mae'n bryd inni gael gweithredoedd, nid geiriau, a dylem ddefnyddio'r ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli yn fwy effeithiol. Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn gyfrwng delfrydol ar gyfer gosod nodau cenedlaethol uchelgeisiol ag iddynt sylfaen statudol.
Gwyddom mai trafnidiaeth ar y ffyrdd yw'r elfen sy'n llygru fwyaf, felly gadewch inni weld cynllun trafnidiaeth werdd cenedlaethol cynhwysfawr ac uchelgeisiol sy'n defnyddio cerbydau trydan neu hybrid fel y gallwn weld gostyngiad yn lefel y llygryddion yn ein haer cyn diwedd tymor y Senedd hon. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru heddiw i wneud mwy na phasio'r cynnig hwn a pharhau â busnes fel arfer. Gwrandewch ar eiriau Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yng Nghymru: mae angen gweithredu yn awr.