1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 11 Chwefror 2020.
Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Gerry Adams.
A wnewch chi ddiswyddo'r prif chwip?
Mae'n ddrwg gennyf i, ni wnes innau glywed, ychwaith. A phe gallai arweinydd plaid Brexit fod yn ddistaw, yna efallai y gallem ni fod wedi clywed y cwestiwn.
A wnewch chi ddiswyddo'r prif chwip?
Na wnaf.
Bu'n rhaid i'ch rhagflaenydd wynebu sefyllfa debyg, wrth gwrs, pan ymgyrchodd Leighton Andrews yn erbyn cau ysgol yn ei etholaeth ef. Fe wnaeth ef ymddiswyddo wedyn. Mae'r tebygrwydd rhwng y ddau achos yn llawer mwy trawiadol nag unrhyw wahaniaethau, er bod y brotest honno y tu allan i'r Senedd, nid yn yr etholaeth.
Mae'r ffynhonnell Lafur a ddyfynnwyd gan y BBC heddiw yn dweud bod hwn yn achos amlwg o dorri cod y gweinidogion. Nawr, rwy'n deall yn llwyr pam mae Aelodau meinciau cefn Llafur yn dymuno ymgyrchu yn erbyn cau cyfleusterau iechyd o dan eich Llywodraeth chi, ond does bosib nad yw sefyllfa Gweinidogion yn wahanol. Mae'n rhaid i atebolrwydd am y gwasanaeth iechyd fod gyda Gweinidogion yn gyfunol yn Llywodraeth Cymru, neu beth yw diben Llywodraeth Cymru fel arall? A thrwy geisio ei chael hi bob ffordd, trwy orfodi gorchymyn hunanwadu pan ddaw'n fater o ymyrraeth weinidogol yn achos adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond rhoi rhwydd hynt i Weinidogion pan fo'n wleidyddol gyfleus i ymyrryd o ran materion etholaeth, rydych chi'n erydu ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ac yn y sefydliad hwn. Felly, gofynnaf i chi eto, Prif Weinidog: a wnewch chi ddiswyddo'r prif chwip o'r Llywodraeth, neu a ydych chi'n dweud bod yr hyn y mae hi wedi ei ddweud am gau'r ward yn adlewyrchu polisi'r Llywodraeth erbyn hyn?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n aml wedi clywed mwy o lol yn cael ei siarad yn y Cynulliad hwn. Nawr, fe es i'r drafferth o ddod â chod y gweinidogion gyda mi. Nid wyf i'n tybio bod yr Aelod wedi mynd i'r drafferth i'w ddarllen; nid yw'n hoff o fanylion, fel y gwyddom. Ond gadewch i mi ei ymgyfarwyddo â manylion cod y gweinidogion. Dyma ni—mae'n gruddfan at y syniad o gael ei hysbysu fel y gall ofyn cwestiwn gwell y tro nesaf oherwydd mai ei gwestiwn y prynhawn yma yn—. Y funud yr edrychwch chi ar god y gweinidogion, byddwch yn gweld nad oes dim sylwedd i'w gwestiwn o gwbl. Dyma baragraff 4.7 yng nghod y gweinidogion:
'Mae rhwydd hynt i'r Gweinidogion fynegi barn am faterion etholaethol'.
Cânt wneud hynny drwy ysgrifennu at y Gweinidog cyfrifol, drwy arwain dirprwyaethau neu drwy gyfweliad personol. Mae'r hyn a wnaeth yr Aelod dros Fro Morgannwg yn gwbl gyson â chod y gweinidogion. Rwy'n gwybod hynny gan fy mod i wedi mynd i'r drafferth i'w wirio cyn y prynhawn yma. A gadewch i mi ddweud hyn wrthych chi: nid ydych chi'n Weinidog yn y Llywodraeth am 20 mlynedd o ddatganoli heb ddeall yr hyn y cewch ac na chewch ei wneud yn eich swyddogaethau etholaethol a gweinidogol, ac mae gan yr Aelod dros Fro Morgannwg well dealltwriaeth yn ei bys bach o'r gonestrwydd a'r gwedduster sy'n ofynnol gan Weinidogion nag y mae ei gwestiwn ef y prynhawn yma yn ei ddangos am ennyd.
Do, fe wnes i fanteisio ar y cyfle i ddarllen cod y gweinidogion, ac mae'n eithaf eglur yng nghod y gweinidogion na chaiff Gweinidogion ymgyrchu yn erbyn polisi'r Llywodraeth. Roedd cau'r ward hon yn ganlyniad uniongyrchol i bolisi eich Llywodraeth chi. Dyna'r pwynt. Rydych chi mewn perygl, o ran y GIG, o droi safonau dwbl yn gelfyddyd, o'i chael hi un ffordd fel Llywodraeth a'r ffordd arall fel gwrthblaid. Eich polisi chi arweiniodd at y cau arfaethedig hwn. Mae'r prif chwip yn ymgyrchu yn erbyn polisi eich Llywodraeth eich hun. Mewn Seneddau eraill, mewn cyd-destunau eraill, fel prif chwip, byddai'n rhaid iddi gael gair llym gyda'i hun; cymryd y chwip oddi wrthi ei hun efallai. Ni allech chi wneud y peth i fyny, Prif Weinidog, heblaw eich bod chi yn gwneud hynny, dro ar ôl tro, pan fydd hi'n wleidyddol gyfleus i wneud hynny. Beth yn y byd ddigwyddodd i gydgyfrifoldeb?
Wel, y gwir, Llywydd, yw nad wyf i'n ei wneud i fyny, ond mae e'n sicr yn gwneud hynny. Nid oes unrhyw wrthdaro o gwbl. Mae cod y gweinidogion—. Llywydd, gadewch i mi esbonio i'r Aelod dim ond un waith eto. Yr hyn sydd wrth wraidd cod y gweinidogion yw hyn: ni ddylai etholwyr unrhyw un fod o dan anfantais oherwydd bod eu Haelod etholedig yn Weinidog; ni ddylai etholwyr unrhyw un fod o dan anfantais oherwydd bod eu Haelod etholedig yn Weinidog, ac mae Gweinidogion yn gwbl rydd, o ran y cod, i ymddwyn fel y gwnaeth yr Aelod dros Fro Morgannwg y tro hwn.
Bum gwaith ar wahân yn ystod cyfnod y sefydliad hwn, mae etholwyr yn y rhan honno o Gymru wedi cael cyfle i ddewis eu cynrychiolydd, ac maen nhw wedi dewis yr un person bob tro. Rwy'n credu y byddan nhw'n parhau i wneud hynny, gan eu bod nhw'n gwybod ei bod hi'n deall y ffordd orau iddi gynrychioli eu buddiannau a bod yn Weinidog, ac yn Weinidog effeithiol iawn yn Llywodraeth Cymru, ac nid oes dim byd o gwbl a ddywedwyd y prynhawn yma yn bwrw unrhyw amheuaeth o gwbl ar ei gweithredoedd.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pa gamau penodol y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd nawr i gynorthwyo'r mwy na 12,000 o oroeswyr cam-drin domestig yng Nghymru?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfres o gamau, yn dilyn hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a roddwyd ar y llyfr statud yn y fan yma. Rydym ni wedi hyfforddi'r nifer fwyaf erioed o staff mewn gwasanaethau cyhoeddus i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu gofyn a gweithredu, fel y dywedwn, i wneud yn siŵr bod pobl yn cydnabod potensial trais yn y cartref, i ofyn i bobl a yw hynny wedi bod yn rhan o'u profiad ac yna i weithredu arno. Rydym ni wedi darparu cyllid, ar gyfer hyfforddi gweithwyr sector cyhoeddus, ond hefyd ar gyfer gwasanaethau pobl sy'n eu canfod eu hunain yn ddioddefwyr trais domestig. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, lansiwyd pedwerydd cam ymgyrch ymwybyddiaeth lwyddiannus iawn ar reolaeth gymhellol ddechrau'r flwyddyn eleni, ac edrychwn ymlaen at weld yr ymgyrch honno yn llwyddo ymhellach y tu hwnt i'r llwyddiant a ddangosodd yn 2019.
Wrth gwrs, Prif Weinidog, mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ddod i rym. Gofynnais i chi yn gynharach am ba gamau penodol y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd nawr i gefnogi goroeswyr, oherwydd, ddiwedd y llynedd, gwnaeth adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gam-drin domestig sawl argymhelliad ar wella gwasanaethau i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig. Nawr, yn hollbwysig wrth ddarparu'r cymorth cywir mae mapio darlun cywir o'r ddarpariaeth o wasanaethau a sicrhau llwybr cymorth ar y cyd, fel nad oes yn rhaid i oroeswyr lywio system gymhleth a thameidiog.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol bod loteri cod post o ran darpariaeth, gyda rhai goroeswyr yn dweud eu bod yn cael eu llethu gan nifer yr asiantaethau, tra bod rhai'n syrthio drwy'r bylchau, ac mae rhai wedi hysbysu am anghysondebau mewn gwybodaeth gan wahanol asiantaethau. O bryder mawr oedd y 431 o oroeswyr nad oedden nhw'n gallu cael gafael ar loches. Nawr, yn fuan ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd eich Llywodraeth chi ei bod yn croesawu'r adroddiad a'i argymhellion, ond bod angen amser arnoch chi i fyfyrio ar yr argymhellion hynny. A allwch chi ddweud wrthym ni, felly, pryd y byddwch chi'n ymateb i'r adroddiad hwn, o gofio eich bod chi wedi cael bron i dri mis i ymateb iddo? Ac a allwch chi roi syniad i ni hefyd o'r hyn y byddwch chi'n ei wneud yn wahanol fel Llywodraeth yng ngoleuni'r adroddiad arbennig hwn?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiynau dilynol pwysig hynna. Mae ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad eisoes wedi dechrau cael ei lunio. Byddwn yn tynnu'r holl wahanol linynnau at ei gilydd mewn ffordd fwy ffurfiol, ond dangosodd adroddiad chwarterol y cynghorwyr cenedlaethol, a oedd yn gais gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—bod ein cynghorwyr cenedlaethol, y ddau ohonyn nhw, yn cyhoeddi eu hadroddiadau ar Lywodraeth Cymru bob chwarter nawr, nid yn unig bob blwyddyn—dangosodd eu hadroddiad chwarterol ym mis Rhagfyr gyfres o gamau y maen nhw a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i rai o'r pwyntiau pwysig hynny yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, yn enwedig ynghylch cymhlethdod, yn enwedig am yr anhawster y gall unigolion ei gael wrth lywio eu ffordd i le y gallai cymorth fod ar gael iddyn nhw. Mae'r adroddiad chwarterol hwnnw yn dangos y gweithgarwch ychwanegol a gyflawnwyd ar gydweithredu rhanbarthol ac ar gysoni cyfrifoldebau sydd wedi eu datganoli ac nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Mae'n dangos tri gweithdy sy'n cael eu cynnal ym mis Ionawr a mis Mawrth eleni, gyda phob un o'r rhain yn cael ei gadeirio gan un o'r cynghorwyr cenedlaethol.
Maen nhw'n adolygu'r holl strategaethau lleol a gyflwynwyd o dan y Ddeddf erbyn hyn. Maen nhw'n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu er mwyn gwneud yn siŵr y gall yr ymdrechion gwirioneddol sy'n cael eu gwneud gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ymateb i'r agenda hon gael eu cydgysylltu'n well, a'u symleiddio o safbwynt y defnyddiwr, i wneud yn siŵr bod unrhyw un sydd angen cymorth yn y maes polisi hynod ddifrifol hwn yn gallu dod o hyd i'w ffordd i'r cymorth hwnnw mewn modd mor gyflym ac mor rhwydd â phosibl.
Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb yna, Prif Weinidog, ond rwy'n bryderus ynghylch yr oediadau parhaus sy'n gysylltiedig â Deddf 2015, oherwydd mae eich Llywodraeth wedi cymryd dros bedair blynedd erbyn hyn i osod dangosyddion cenedlaethol yn dilyn y Ddeddf benodol honno. Ac rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr eisiau gweithio gyda chi i sicrhau bod y dangosyddion cenedlaethol ac amcanion y cynghorwyr cenedlaethol ar gam-drin domestig yn gwbl briodol. Fodd bynnag, rwy'n pryderu nad yw'n ymddangos bod yr amcanion yn canolbwyntio ar y maes pwysig o helpu i gynyddu hyder dioddefwyr a mynediad at gyfiawnder, yn enwedig gan nad yw pedair menyw o bob pump yn hysbysu'r heddlu eu bod yn cael eu cam-drin. Yn gyffredinol, canfu'r archwilydd cyffredinol mai dim ond 60 y cant o sefydliadau sy'n credu eu bod nhw wedi rhoi mesurau perfformiad priodol ar waith ar gyfer y Ddeddf, a llai na 65 y cant sy'n defnyddio anfodlonrwydd dioddefwyr a goroeswyr i wella gwasanaethau. Prif Weinidog, a allwch chi, felly, roi sicrwydd i ni, a phobl Cymru yn wir, heddiw, y bydd eich Llywodraeth yn gwella cyflymder eich gweithredoedd yng nghyswllt yr agwedd erchyll hon ar fywyd i lawer o bobl yng Nghymru?
Diolchaf i'r Aelod am ei arwydd o gefnogaeth drawsbleidiol yn y fan yma i'r camau sy'n sail i'r Ddeddf, a phopeth y mae'r gwasanaethau cyhoeddus yn ceisio ei wneud. Bu 18 mis ers cyflawni'r gwaith maes a oedd yn sail i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ac rwy'n credu bod cyfres o bethau wedi eu rhoi ar waith ers hynny. Cyfeiriodd adroddiad blynyddol y cynghorwyr cenedlaethol at fomentwm gwirioneddol dros y cyfnod hwnnw. Nid oedd yr un o'r argymhellion yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru; roedden nhw i gyd yn gamau i ddarparwyr gwasanaethau eu cymryd. Ond hoffwn i roi sicrwydd iddo, ac i bobl yng Nghymru sydd â diddordeb yn hyn, ein bod ni'n parhau, fel Llywodraeth, i fuddsoddi yn y maes hwn refeniw ychwanegol, cyfalaf ychwanegol yn y gyllideb ddrafft gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ac ymateb iddo gyda'r brys y mae'r agenda hon wir yn ei haeddu.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, neithiwr, ychydig filltiroedd i'r de-ddwyrain o'r fan hon, pleidleisiodd cynghorwyr o 18 i 17 i atal maes awyr Bryste rhag ehangu ymhellach gan eu bod nhw'n dweud y byddai'n gwaethygu'r argyfwng hinsawdd. Gyda maes awyr Bryste ar fin cyrraedd ei derfyn o 10 miliwn o deithwyr y flwyddyn nesaf, a yw'r Prif Weinidog yn croesawu'r cyfle hwn i faes awyr Caerdydd ehangu ei deithiau awyr a gwasanaethu teithwyr a fyddai wedi mynd i Fryste fel arall?
Nid ychwanegu at y newid yn yr hinsawdd trwy gael mwy o awyrennau yn yr awyr yw'r cyfle yr wyf i wedi ei weld erioed i faes awyr Caerdydd, Llywydd, ond dargyfeirio teithwyr i Gaerdydd sy'n gorfod teithio y tu hwnt i Gymru ar hyn o bryd, gan ychwanegu at yr ôl-troed carbon wrth iddyn nhw wneud hynny. Ceir cyfleoedd gwirioneddol, os gwnaiff Llywodraeth y DU weithio gyda ni ar yr agenda hon, i alluogi pobl sy'n teithio i Fryste ar hyn o bryd, ond hefyd ymhellach i ffwrdd ar gyfer gwasanaethau teithiau hir o Birmingham neu Fanceinion neu Heathrow, gael y gwasanaethau hynny yma yng Nghymru, nid i ychwanegu at y newid yn yr hinsawdd, ond i atal y teithiau sydd, ar hyn o bryd, yn ychwanegu at y carbon yr ydym ni i gyd yn ei gynhyrchu.
Clywaf yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud mewn ymateb, ond o ran y newid yn yr hinsawdd, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi dweud
Nid yw'n ymddangos bod y camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd ar hyn o bryd yn cyfateb i ddatganiad o argyfwng hinsawdd.
Efallai y bydd rhai trethdalwyr yn croesawu hynny o ystyried faint o arian yr ydych chi wedi ei roi i faes awyr Caerdydd; os bydd maes awyr Caerdydd yn ehangu i dderbyn teithiau awyr y mae Bryste yn eu gwahardd, efallai y gall Llywodraeth Cymru, ar ryw adeg, weld enillion o'i harian. Ac os nad yw'r teithiau awyr hynny'n mynd o Fryste, siawns nad yw'n fater o bobl a fyddai fel arall wedi mynd i Fryste, gan gynnwys o orllewin Lloegr a thu hwnt, a allai deithio i Gaerdydd yn lle hynny, gyda'r allyriadau carbon deuocsid y mae hynny'n ei awgrymu, i ddefnyddio teithiau awyr y gallem ni eu cynnig yng Nghaerdydd.
Rydych chi hefyd wedi addo grantiau o £18.8 miliwn i Aston Martin i adeiladu SUVs sy'n defnyddio llawer o betrol ger y maes awyr yn Sain Tathan. Fe wnaethoch hyd yn oed ddathlu'r cyhoeddiad o 4,000 o DBXs petrol y flwyddyn, drwy esgus bod yn James Bond mewn fideo. Sut mae hynny'n cyd-fynd â'ch blaenoriaethau o ran y newid yn yr hinsawdd?
Yn y cyfamser, rydych chi wedi cyhoeddi £140 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer y newid yn yr hinsawdd, ac eto nid oes gennych chi unrhyw gynlluniau i newid yr £1 biliwn o gyllid refeniw blynyddol a awgrymir y byddai ei angen arnoch i fodloni eich targedau newid hinsawdd. Yn wir, mae'r gyllideb ddrafft yn darparu ar gyfer torri cymhorthdal bysiau y flwyddyn nesaf mewn termau real. Prif Weinidog, gan fod gweithredu effeithiol mor ddrud, a wnewch chi barhau i flaenoriaethu geiriau dros weithredu o ran y newid yn yr hinsawdd?
Wel, Llywydd, oni bai am y ffaith bod dychan mor amlwg wedi marw, efallai y byddech chi'n meddwl bod yr Aelod wedi cael dargyfeiriad hiwmor. Nid oes angen i ni ar yr ochr hon i'r Siambr gymryd gwersi ar y newid yn yr hinsawdd gan blaid sy'n llawn gwadwyr newid yn yr hinsawdd, y mae eu gafael ar ddifrifoldeb y broblem sy'n wynebu'r byd mor anghydnaws â difrifoldeb y mater hwnnw. Mae'r Llywodraeth hon yn gwbl ymrwymedig i chwarae ein rhan i sicrhau ein bod ni'n cymryd y camau y gallwn ni eu cymryd i roi'r blaned hon i'r rhai a ddaw ar ein holau mewn cyflwr na fyddai'n gwneud i ni deimlo cywilydd o'r ffordd yr ydym ni wedi cyflawni ein cyfrifoldebau yn y cyfnod byr y maen nhw'n gorwedd yn ein dwylo. Dyna fyddwn ni'n ei wneud, ac nid wyf i'n credu y byddwn ni'n dod o hyd i lawer o wersi gan ei blaid ef wrth wneud hynny.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ55097] yn ôl. Cwestiwn 4, Joyce Watson.