1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Chwefror 2020.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais a cham-drin domestig? OAQ55083
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Daeth adroddiad blynyddol y cynghorwyr cenedlaethol ar drais a cham-drin domestig i'r casgliad bod llawer mwy i'w wneud o hyd i wella bywydau'r rhai sydd mewn perygl, ond bod y Ddeddf a roddwyd ar y llyfr statud gan y Senedd hon yn un o gyflawniadau mwyaf datganoli ac yn arwain gweddill y Deyrnas Unedig.
Ydw, rwy'n cytuno â hynny, ond ddydd Iau diwethaf roeddwn i'n bresennol yn lansiad ymgyrch Cam-drin Rhywiol yw Hyn Llywodraeth Cymru a New Pathways, pryd y lansiodd Jane Hutt, y Gweinidog â chyfrifoldeb, yr ymgyrch honno mewn gwirionedd. Ac roedd yn wych bod mewn ystafell lle'r oedd pawb wedi ymrwymo i gydweithio er mwyn rhoi terfyn ar y tawelwch ynghylch cam-drin rhywiol o ddynion, menywod a phlant, waeth beth fo'u hoed. Hoffwn i ddiolch yn bersonol i'r goroeswyr a fu'n ddigon dewr i rannu eu straeon â ni yn y digwyddiad hwnnw. Nod yr ymgyrch honno yw helpu pobl i adnabod arwyddion cam-drin rhywiol a'u hannog i geisio'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw os ydyn nhw'n dioddef unrhyw fath o gamdriniaeth. Prif Weinidog, pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r sefydliadau hynny a fydd yn cynorthwyo goroeswyr a allai ddewis, o ganlyniad i'r sesiwn ragorol honno ddydd Iau diwethaf, dod ymlaen nawr a cheisio cymorth?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Joyce Watson am hynna ac am y ffordd gyson, dros gynifer o flynyddoedd, y mae hi ei hun wedi siarad am y materion hyn yma yn y Siambr? Ac mae hi'n iawn: mae'n codi gwyleidd-dra gwirioneddol bod mewn digwyddiad pan fo goroeswyr trais a cham-drin domestig a mathau eraill o gam-drin yn y cartref yn adrodd eu hanesion, ac yn gwneud hynny oherwydd eu penderfyniad i annog pobl eraill i fod yn ddigon dewr i wneud hynny hefyd, ac mae'r dull 'gofyn a gweithredu' y cyfeiriais ato yn fy ateb i Paul Davies yn rhan bwysig iawn o hynny.
I ailadrodd ychydig o'r pethau a ddywedais yn gynharach, Llywydd: mae Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i'r adnoddau i hyfforddi 167,500 o weithwyr yn y technegau sy'n ofynnol o dan y Ddeddf. Rydym ni'n ariannu llinell gymorth Byw Heb Ofn gyda £455,000 bob blwyddyn. Yn y chwarter hyd at fis Rhagfyr, derbyniodd y llinell gymorth honno dros 8,000 o alwadau, sydd, rwy'n credu, yn rhyw adlewyrchiad o leiaf o'r llwyddiant a gafodd ymgyrchoedd y llynedd, a gwnaeth gweithwyr ar y llinell gymorth eu hunain bron i 2,000 o alwadau fel camau dilynol ar faterion yr oedd pobl a ffoniodd y llinell gymorth wedi eu codi gyda nhw, i gael y cymorth y cyfeiriodd Paul Davies ato yn gynharach iddyn nhw.
Yn y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn darparu dros £200,000 i wasanaeth trais rhywiol Cymru, gan gynnwys hyfforddiant arbenigol i staff a chymorth uniongyrchol i ddioddefwyr trais rhywiol, i wneud yn siŵr bod y bobl a ddaeth i'r digwyddiad y cyfeiriodd Joyce Watson ato—ac sy'n ein helpu ni i wneud yn siŵr bod llais goroeswyr yno bob amser, gan lunio'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud, i wneud yn siŵr bod hynny'n parhau i gael ei gefnogi yma yng Nghymru.
Rydym ni wedi clywed cyfeiriad at adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru o fis Tachwedd diwethaf ar gynnydd o ran gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a dynnodd sylw at fylchau mewn ymgysylltiad â gwasanaethau arbenigol a goroeswyr yng ngweithrediad y Ddeddf. Yn ôl arolwg troseddu Cymru a Lloegr hyd at fis Mawrth y llynedd—a bydd ffigurau newydd fis nesaf—amcangyfrifir bod 1.6 miliwn o fenywod a 786,000 o ddynion wedi dioddef cael eu cam-drin yn emosiynol, yn ariannol ac yn gorfforol, neu'n gymysgedd o'r tri, mewn cyd-destun domestig. Ac, wrth gwrs, roedd mwyafrif llethol o ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin gan bartner neu gyn-bartner yn fenywod, ac mae Cymorth i Fenywod Cymru hefyd wedi nodi bod eu haelodau sy'n gweithio gyda goroeswyr trais rhywiol wedi dweud wrthyn nhw nad yw goroeswyr cam-drin rhywiol yn cael y flaenoriaeth gyfatebol gan gomisiynwyr a gwasanaethau cyhoeddus fel goroeswyr cam-drin domestig. Felly, sut yr ydych chi'n ymateb i'w galwadau hwy, ac i alwadau arbenigwyr eraill yn y maes hwn, i'r diffyg hwnnw gael sylw fel bod y gwaith o gomisiynu'r grant cymorth tai, er enghraifft, yn cwmpasu pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn hytrach na'r rhagdybiaeth ddiofyn sy'n canolbwyntio ar gam-drin domestig?
Wel, Llywydd, rwyf i wedi amlinellu cyfres o ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r adroddiad hwnnw ac yn cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Awgrymaf i'r Aelod mai ffordd arall y gallai ef a'i blaid helpu yn yr agenda hon fyddai cefnogi adroddiad comisiwn Thomas ar gyfiawnder yng Nghymru yr wythnos diwethaf. Oherwydd mae rhai o'r bylchau sy'n ymddangos mewn gwasanaethau cyhoeddus wrth ymateb i fenywod sy'n hysbysu am drais rhywiol yn y ffordd y mae'r heddlu a'r system cyfiawnder troseddol yn ymateb i'r cwynion hynny, ac mae adroddiad comisiwn Thomas yn amlygu hynny ac yn awgrymu y byddem ni'n gallu sicrhau bod cyfres fwy cydlynol o wasanaethau ar gael pe byddai'r penderfyniadau hynny yn y fan yma yn nwylo'r Senedd etholedig hon. Rwyf i'n cytuno â hynny, a byddai wedi bod o gymorth pe byddai ei blaid ef wedi cytuno â hynny yr wythnos diwethaf hefyd.