1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Chwefror 2020.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol llong ymchwil y Prince Madog? OAQ55105
Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn. Llywydd, mae gan Lywodraeth Cymru gontract gyda Phrifysgol Bangor i ddarparu gwasanaethau arolygon môr tan 2021. Fe wnaeth y contract hwn helpu i sicrhau dyfodol llong ymchwil y Prince Madog yng Nghymru.
A dwi yn ddiolchgar iawn am ymateb y Llywodraeth pan wnes i dynnu sylw Gweinidogion at y peryg y gallai capasiti y Prince Madog i wneud gwaith ymchwil morol gael ei golli oherwydd y pryderon am ddyfodol y llong, sydd â'i chartref, wrth gwrs, ym Mhorthaethwy, yn fy etholaeth i. Mae'r cytundeb 100 niwrnod o waith yna yn sicr wedi bod yn allweddol o ran sicrhau dyfodol y llong yn y byrdymor, ond mi hoffwn i dynnu sylw'r Prif Weinidog at y ffaith bod 2021 ddim yn bell iawn i ffwrdd erbyn hyn, a bod angen rŵan i weithio i sicrhau dyfodol hirdymor.
Mi hoffwn i wneud apêl yn fan hyn am addewid gan y Llywodraeth i ymrwymo rŵan i drafodaethau ynglŷn ag ymestyn y cytundeb, a all wneud gwaith ymchwil ecolegol, ynni, bwyd allweddol am flynyddoedd i ddod, achos mae'r cloc yn tician ac mae yna rôl allweddol i'r Llywodraeth yn sicrhau'r dyfodol hirdymor yna.
Llywydd, diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn yna a diolch am y wybodaeth roddodd e i ni yn ôl yn 2019 am ddyfodol y Prince Madog. Ges i gyfle i ymweld â'r llong nôl fis Awst diwethaf am y trydydd tro, dwi'n meddwl, ac i gwrdd â phobl sy'n gweithio yn y maes yna. Maen nhw mor frwdfrydig ac maen nhw mor awyddus i gario ymlaen i wneud y gwaith maen nhw'n ei wneud.
Mae'r contract sydd gyda ni ar hyn o bryd—ni jest yn chwarter cyntaf y contract. Dwi'n clywed beth mae Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud: mae'r cloc yn mynd ymlaen, a dwi'n siŵr bydd pobl yn y brifysgol yn cydnabod y ffaith ein bod ni wedi gweithio yn agosach gyda nhw. Rydyn ni eisiau cario ymlaen i wneud hynny, ac rydyn ni eisiau cynllunio gyda nhw ar gyfer gwasanaeth sy'n mynd i'n helpu ni yng Nghymru tuag at 2021, a thu hwnt i hynny hefyd.
Diolch i'r Prif Weinidog.