Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 11 Chwefror 2020.
Diolch i chi am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod y mwyafrif helaeth o landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru yn bobl berffaith resymol sy'n cael bywyd perffaith resymol mewn trefniant perffaith dda, y naill gyda'r llall. Ac roeddech chi'n sôn am ran o'm hetholaeth i fy hun, ac rydych chi yn llygad eich lle—ychydig iawn o broblemau sydd gennym yr wyf i'n ymwybodol ohonyn nhw gyda'r sector rhentu preifat, mewn tai o ansawdd da, gyda phobl ddymunol yn byw ynddo.
Mae'r Bil hwn yn ymwneud â threfnu'r darpariaethau ar gyfer landlordiaid diegwyddor a thenantiaid twyllodrus. Ac fel rwyf i wedi pwysleisio, os yw eich tenant chi'n camymddwyn, yna nid yw'r Bil hwn yn gwneud dim i ddileu eich hawl chi i droi allan tenant sydd heb dalu ei rent, neu sy'n ymhél ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu sy'n difrodi'r eiddo, neu nifer fawr o bethau eraill. Mae'r llwybrau hynny at adfeddiannu yn bodoli o hyd.
O ran y ffordd yr ydych chi'n disgrifio troi allan heb fai, y pwynt yw'r holl bethau hynny—os ydych chi eisiau cael y tŷ yn ôl oherwydd eich bod chi am ei werthu, neu os ydych chi eisiau cael y tŷ yn ôl oherwydd eich bod chi am fyw ynddo, troi allan heb fai yw hynny, oherwydd ni fydd y tenant wedi gwneud unrhyw beth o'i le. Nid yw'r ffaith eich bod chi'n profi eich achos yn tynnu oddi wrth y ffaith na wnaeth y tenant ddim byd o'i le a'i fod yn cael ei droi allan heb fod yna unrhyw fai arno ef. Felly, nid yw'n bosibl i fod heb unrhyw amgylchiad lle nad yw tenant sydd ei hun yn ymddwyn yn berffaith gywir yn gallu cael ei droi allan, oherwydd, mewn gwirionedd, fe fyddai gan y landlord, mewn amgylchiadau lle gallai fod yn ddigartref, er enghraifft, yr hawl i feddiannu ei eiddo ei hun, ac nid wyf i'n credu y byddai unrhyw un ohonom ni'n wir yn gweld honno'n broblem.
A'r broblem yw'r busnes hwn ynglŷn â chadw'r cydbwysedd cywir rhwng y ddau fater. Un tŷ sydd gan y mwyafrif helaeth o landlordiaid yng Nghymru. Wrth gwrs, mae gennym ni lawer o landlordiaid sydd â mwy nag un tŷ, ond un tŷ'n unig sydd gan y mwyafrif helaeth ohonyn nhw. Ac felly mae angen inni wneud yn siŵr bod y sector rhentu preifat yn addas i'r diben, ar gyfer y rhai sy'n dymuno rhentu'r tŷ hwnnw—rydym ni'n awyddus iawn iddyn nhw allu rhoi eu tai ar rent a chael cyfradd resymol o enillion, a gallu fforddio llety o ansawdd da i'r rhai sydd am rentu—ond hefyd, os byddan nhw'n eu cael eu hunain mewn amgylchiadau lle mae angen y tŷ hwnnw arnyn nhw, neu os bydd eu hamgylchiadau nhw'n newid a bod angen arian am y tŷ arnyn nhw, fe allan nhw wneud hynny, ac nid yw'n eu rhwystro rhag rhoi'r tŷ ar y farchnad, a bod gennym ni gartref gwag arall ar un o'n strydoedd ni, nad oes neb yn ei ddymuno ychwaith. Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud â'r cydbwysedd o ran sut y cawn ni hynny. Ac yn hytrach na chael amgylchiadau cyfreithiol cymhleth lle mae'n rhaid ichi brofi cyfres benodol o amgylchiadau, y gwyddom eu bod nhw'n achosi problemau gwirioneddol mewn awdurdodaethau eraill o ran lefel y prawf a'r hyn y mae'n rhaid ichi ei wneud, rydym ni o'r farn fod hwn yn gyfaddawd gwell.
Mae'r chwe mis yn ymwneud â'r ffordd y mae Deddf 2016 yn gweithio, fel ei bod yn rhoi 12 mis llawn i rywun o ddechrau ei gontract hyd ddiwedd y contract. Felly, mewn gwirionedd, fe gewch chi 12 mis ar eu hyd. Pan ewch chi dros y 12 mis, dyna pryd fydd y chwe mis yn dechrau. Felly, os ydych chi yno ers dwy flynedd yn barod, er enghraifft, fe fydd gennych chi chwe mis ychwanegol. Felly, mae'r cyfan yn ymwneud â sut mae'r contractau safonol newydd yn Neddf 2016 yn gweithredu mewn gwirionedd.