Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 11 Chwefror 2020.
Diolch i chi, Weinidog. Gobeithio y byddwch chi'n teimlo'n well cyn bo hir. Rwy'n croesawu hyn, achos rŷn ni i gyd, rwy'n credu, yn gweld pa mor allweddol yw hyn i unrhyw lwyddiant i'r cynllun 2050, ond rwy'n croesawu hefyd y gydnabyddiaeth taw mater personol iawn yw dewis iaith, yn arbennig o fewn y teulu. Roeddwn i yn yr un sefyllfa â chi, Weinidog, ond fi oedd yr un di-Gymraeg. Gwnaethon ni fel teulu benderfynu magu'r plant trwy'r Gymraeg, ond dim amod i siarad Cymraeg ges i cyn fy mhriodas i. Rydym wedi gwneud hynny er gwaetha'r ffaith ein bod ni, fi a fy ngŵr, wedi ei ffeindio bron yn amhosib siarad Cymraeg â’n gilydd, achos roedden ni wedi dechrau trwy'r Saesneg. Jest dim ond un enghraifft yw hynny o pa mor gymhleth yw'r nod yma i'w gyflawni.
Rŷch chi’n sôn am deuluoedd gyda sgiliau Cymraeg neu brawf Cymraeg ond heb hyder neu heb gymhelliad neu ddymuniad i siarad Cymraeg yn y tŷ. Felly, beth dŷch chi wedi darganfod yn barod am pam dyw teuluoedd tebyg ddim yn fodlon trosglwyddo'r iaith yn barod? Pam dim dymuniad? Pam dim cymhelliad? Achos rydw i wedi cael cipolwg ar ddogfen yr ymgynghoriad, ond dydy e ddim yn glir i fi—wel, dydw i ddim yn fodlon derbyn mai colli hyder yw'r unig reswm am y methiant trosglwyddiad ar hyn o bryd.
Beth ydych chi wedi ei ddysgu am lwyddiant neu fethiant, unwaith eto, y rhaglen Twf, er enghraifft? Achos mae e jest yn fy nharo i ei fod yn eithaf rhyfedd i baratoi'r rhaglen yna heb wybod yr atebion i fy nghwestiwn cyntaf i. Achos dwi yn gweld—. Y rheswm am hynny yw, dwi’n derbyn bod yna newidiadau cymdeithasol wedi digwydd, ond wrth gwrs, mae pobl wedi bod yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, a'r bobl yna nawr mewn sefyllfa i gael plant ac efallai gwneud y dewis am ba fath o iaith maen nhw'n mynd i siarad yn y tŷ. Felly, mae yna dipyn bach o disconnect rhwng beth rŷm ni wedi cael yn barod yn yr ysgolion a beth mae rhieni ifanc yn fodlon ei wneud nawr.
Gan ddweud hynny, rwy'n gweld yr egwyddorion y tu ôl i'r awgrymiadau yn y ddogfen yna, ac rwy'n nodi penderfyniadau plant eu hunain am yr iaith, yn arbennig plant hŷn sydd wedi cael eu magu trwy'r Gymraeg ond efallai yn dewis siarad mwy o Saesneg pan eu bod nhw'n dechrau bod yn teenagers ac yn y blaen. Hoffwn i wybod beth yw'r cynnig presennol iddyn nhw? Sut mae plant o'r oedran yna'n ffitio mewn i unrhyw brofiad yng Ngwlad y Basg, er enghraifft? Achos rŷch chi'n sôn am Wlad y Basg yn y ddogfen, ond dydw i ddim wedi clywed lot am y manylion perthnasol i bobl ifanc hŷn.
A jest i ddod i ben: yr arian. Faint o arian mae hyn yn mynd i gostio? Pwy ydych chi'n meddwl ar hyn o bryd sy'n mynd i fod yn gyfrifol am weithredu unrhyw raglen sy'n dod mas o'r ymgynghoriad? Ac am faint o amser mae hynny'n mynd i barhau? Diolch.