4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Ymgynghoriad ar bolisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg mewn teuluoedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:43, 11 Chwefror 2020

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fel arfer, bydd y geiriau cyntaf y bydd y rhan fwyaf ohonon ni yn eu siarad yn ganlyniad gwrando ar ein teuluoedd ni a’u copïo nhw. Drwy siarad Cymraeg gyda’u plant, mae modd i rieni greu arferion iaith sydd yn para am oes. Defnydd iaith rhwng rhieni a’u plant, neu drosglwyddo iaith, fel mae’n cael ei alw, yw un o elfennau pwysicaf cynllunio ieithyddol. Mae yna waith wedi digwydd i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg mewn teuluoedd ers 20 mlynedd a mwy. A nawr mae’n bryd i ni gymryd y cam nesaf fel rhan o’n taith tuag at ddyblu’r defnydd o’r Gymraeg a chyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Mae’r polisi drafft ar drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd yn cynnig yr hyn rydyn ni am ei wneud dros y degawd nesaf. Dwi’n gofyn i bawb sydd am weld cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg gyfrannu i’r ymgynghoriad pwysig yma. Fel sy’n cael ei nodi yn y strategaeth Cymraeg 2050, all Llywodraeth ddim rheoli pa ieithoedd mae teuluoedd yn eu siarad, a byddem ni ddim am wneud hynny chwaith. Ond fe allwn ni wneud mwy i helpu rhieni i siarad mwy o Gymraeg. 

Dwi'n cydnabod bod y sefyllfa ieithyddol yn amrywio o deulu i deulu. Yn fy achos i, Cymraeg o'n i'n siarad gyda fy mam, ond Saesneg gyda fy nhad. Cymraeg dwi'n defnyddio gyda fy mhlant i, ac fe wnes i hyd yn oed ei gwneud hi'n amod priodas bod fy ngŵr i yn dysgu Cymraeg. Mae eisiau i chi ymlacio: dim dyna beth dwi'n awgrymu yn y polisi yma. 

Yn ein teulu ni, roedd pa iaith y bydden ni'n ei siarad gyda'n plant yn benderfyniad ymwybodol iawn, fel sy'n wir i rai teuluoedd eraill, dwi'n siŵr. Ond dyw hynny ddim yn wir ym mhob achos, o bell ffordd. Mae'r sefyllfa hefyd yn amrywio ar draws Cymru, a rhaid i ni fod yn ymwybodol o hynny. Hyd yn oed yn yr ardaloedd â chanrannau uwch o siaradwyr Cymraeg, mae angen talu sylw gofalus i arferion iaith mewn teuluoedd. Ac mae gwneud hynny'n bwysig er mwyn cynnal cymunedau Cymraeg. Mae cyfrifiad 2011 yn dangos, hyd yn oed mewn cartrefi lle mae dau oedolyn mewn pâr yn siarad Cymraeg, bod tua 20 y cant o blant tair i bedair oed ddim yn siarad Cymraeg. Mewn cartrefi lle mae dau oedolyn ac un ohonyn nhw'n gallu siarad Cymraeg, mae llai na hanner y plant tair i bedair oed yn gallu siarad Cymraeg.

Mae'r polisi drafft hwn yn canolbwyntio ar bedwar amcan: ysbrydoli plant a phobl ifanc i siarad Cymraeg gyda'u plant nhw yn y dyfodol; ailgynnau sgiliau Cymraeg pobl sydd efallai heb ddefnyddio'r Gymraeg ers gadael yr ysgol, neu sydd wedi colli hyder yn eu sgiliau iaith, i siarad Cymraeg gyda'u plant eu hunain; cefnogi ac annog y defnydd o'r Gymraeg mewn teuluoedd lle nad yw pawb yn siarad Cymraeg; a chefnogi teuluoedd Cymraeg eu hiaith i siarad Cymraeg gyda'u plant.

Mae'r camau gweithredu rydyn ni'n eu cynnig yn cynnwys: datblygu cefnogaeth newydd i deuluoedd sy'n seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf ym maes newid ymddygiad; treialu rhaglen defnydd iaith sydd wedi'i haddasu o brosiect llwyddiannus yng Ngwlad y Basg; helpu'r gweithlu addysg i annog disgyblion i siarad mwy o Gymraeg er mwyn creu trosglwyddwyr y dyfodol; a chreu rhwydweithiau i rieni allu cefnogi ei gilydd. Mae'r gwaith hwn yn torri tir newydd, nid yn unig i ni yn Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn rhyngwladol. Er fy mod i am i ni arwain y ffordd, mae rhaid i ni hefyd gydweithio. Mae angen i ni ddysgu o wledydd eraill a sectorau eraill, yn ogystal â rhannu ein canfyddiadau gyda nhw.

Byddwn ni'n ymgynghori ar y polisi hwn tan 5 Mai ac yn cyhoeddi polisi terfynol nes ymlaen eleni. Mae'n hollbwysig ein bod ni'n clywed amrywiaeth o leisiau ar y cynigion yn y polisi drafft hwn. Dwi'n arbennig o awyddus i glywed barn rhieni sy'n ddihyder yn eu sgiliau Cymraeg er mwyn deall yn well beth fyddai o help iddyn nhw. Dwi am glywed gan rieni a gafodd addysg Gymraeg ond sydd ddim erbyn hyn yn defnyddio'r iaith, neu oedd ddim efallai yn siarad Cymraeg yn gymdeithasol tra eu bod nhw yn yr ysgol. Mae yna rieni hefyd sy'n gallu siarad Cymraeg ond sydd ddim yn ystyried bod siarad Cymraeg gyda'u plant yn opsiwn iddyn nhw. Mae angen i ni gefnogi'r holl rieni hyn i siarad mwy o Gymraeg gyda'u plant nhw.

Mae'n mynd i gymryd amser i ni weld canlyniadau’r gwaith yma. Dwi'n siarad fan hyn am newid ymddygiad o un genhedlaeth i'r nesaf. Ond rhaid i ni hefyd weithredu nawr i helpu teuluoedd i siarad mwy o Gymraeg, a dyna yw nod y polisi yma. Diolch.