– Senedd Cymru am 3:43 pm ar 11 Chwefror 2020.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol—ymgynghoriad ar y polisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r iaith Gymraeg mewn teuluoedd. A galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fel arfer, bydd y geiriau cyntaf y bydd y rhan fwyaf ohonon ni yn eu siarad yn ganlyniad gwrando ar ein teuluoedd ni a’u copïo nhw. Drwy siarad Cymraeg gyda’u plant, mae modd i rieni greu arferion iaith sydd yn para am oes. Defnydd iaith rhwng rhieni a’u plant, neu drosglwyddo iaith, fel mae’n cael ei alw, yw un o elfennau pwysicaf cynllunio ieithyddol. Mae yna waith wedi digwydd i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg mewn teuluoedd ers 20 mlynedd a mwy. A nawr mae’n bryd i ni gymryd y cam nesaf fel rhan o’n taith tuag at ddyblu’r defnydd o’r Gymraeg a chyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Mae’r polisi drafft ar drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd yn cynnig yr hyn rydyn ni am ei wneud dros y degawd nesaf. Dwi’n gofyn i bawb sydd am weld cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg gyfrannu i’r ymgynghoriad pwysig yma. Fel sy’n cael ei nodi yn y strategaeth Cymraeg 2050, all Llywodraeth ddim rheoli pa ieithoedd mae teuluoedd yn eu siarad, a byddem ni ddim am wneud hynny chwaith. Ond fe allwn ni wneud mwy i helpu rhieni i siarad mwy o Gymraeg.
Dwi'n cydnabod bod y sefyllfa ieithyddol yn amrywio o deulu i deulu. Yn fy achos i, Cymraeg o'n i'n siarad gyda fy mam, ond Saesneg gyda fy nhad. Cymraeg dwi'n defnyddio gyda fy mhlant i, ac fe wnes i hyd yn oed ei gwneud hi'n amod priodas bod fy ngŵr i yn dysgu Cymraeg. Mae eisiau i chi ymlacio: dim dyna beth dwi'n awgrymu yn y polisi yma.
Yn ein teulu ni, roedd pa iaith y bydden ni'n ei siarad gyda'n plant yn benderfyniad ymwybodol iawn, fel sy'n wir i rai teuluoedd eraill, dwi'n siŵr. Ond dyw hynny ddim yn wir ym mhob achos, o bell ffordd. Mae'r sefyllfa hefyd yn amrywio ar draws Cymru, a rhaid i ni fod yn ymwybodol o hynny. Hyd yn oed yn yr ardaloedd â chanrannau uwch o siaradwyr Cymraeg, mae angen talu sylw gofalus i arferion iaith mewn teuluoedd. Ac mae gwneud hynny'n bwysig er mwyn cynnal cymunedau Cymraeg. Mae cyfrifiad 2011 yn dangos, hyd yn oed mewn cartrefi lle mae dau oedolyn mewn pâr yn siarad Cymraeg, bod tua 20 y cant o blant tair i bedair oed ddim yn siarad Cymraeg. Mewn cartrefi lle mae dau oedolyn ac un ohonyn nhw'n gallu siarad Cymraeg, mae llai na hanner y plant tair i bedair oed yn gallu siarad Cymraeg.
Mae'r polisi drafft hwn yn canolbwyntio ar bedwar amcan: ysbrydoli plant a phobl ifanc i siarad Cymraeg gyda'u plant nhw yn y dyfodol; ailgynnau sgiliau Cymraeg pobl sydd efallai heb ddefnyddio'r Gymraeg ers gadael yr ysgol, neu sydd wedi colli hyder yn eu sgiliau iaith, i siarad Cymraeg gyda'u plant eu hunain; cefnogi ac annog y defnydd o'r Gymraeg mewn teuluoedd lle nad yw pawb yn siarad Cymraeg; a chefnogi teuluoedd Cymraeg eu hiaith i siarad Cymraeg gyda'u plant.
Mae'r camau gweithredu rydyn ni'n eu cynnig yn cynnwys: datblygu cefnogaeth newydd i deuluoedd sy'n seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf ym maes newid ymddygiad; treialu rhaglen defnydd iaith sydd wedi'i haddasu o brosiect llwyddiannus yng Ngwlad y Basg; helpu'r gweithlu addysg i annog disgyblion i siarad mwy o Gymraeg er mwyn creu trosglwyddwyr y dyfodol; a chreu rhwydweithiau i rieni allu cefnogi ei gilydd. Mae'r gwaith hwn yn torri tir newydd, nid yn unig i ni yn Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn rhyngwladol. Er fy mod i am i ni arwain y ffordd, mae rhaid i ni hefyd gydweithio. Mae angen i ni ddysgu o wledydd eraill a sectorau eraill, yn ogystal â rhannu ein canfyddiadau gyda nhw.
Byddwn ni'n ymgynghori ar y polisi hwn tan 5 Mai ac yn cyhoeddi polisi terfynol nes ymlaen eleni. Mae'n hollbwysig ein bod ni'n clywed amrywiaeth o leisiau ar y cynigion yn y polisi drafft hwn. Dwi'n arbennig o awyddus i glywed barn rhieni sy'n ddihyder yn eu sgiliau Cymraeg er mwyn deall yn well beth fyddai o help iddyn nhw. Dwi am glywed gan rieni a gafodd addysg Gymraeg ond sydd ddim erbyn hyn yn defnyddio'r iaith, neu oedd ddim efallai yn siarad Cymraeg yn gymdeithasol tra eu bod nhw yn yr ysgol. Mae yna rieni hefyd sy'n gallu siarad Cymraeg ond sydd ddim yn ystyried bod siarad Cymraeg gyda'u plant yn opsiwn iddyn nhw. Mae angen i ni gefnogi'r holl rieni hyn i siarad mwy o Gymraeg gyda'u plant nhw.
Mae'n mynd i gymryd amser i ni weld canlyniadau’r gwaith yma. Dwi'n siarad fan hyn am newid ymddygiad o un genhedlaeth i'r nesaf. Ond rhaid i ni hefyd weithredu nawr i helpu teuluoedd i siarad mwy o Gymraeg, a dyna yw nod y polisi yma. Diolch.
Diolch i chi, Weinidog. Gobeithio y byddwch chi'n teimlo'n well cyn bo hir. Rwy'n croesawu hyn, achos rŷn ni i gyd, rwy'n credu, yn gweld pa mor allweddol yw hyn i unrhyw lwyddiant i'r cynllun 2050, ond rwy'n croesawu hefyd y gydnabyddiaeth taw mater personol iawn yw dewis iaith, yn arbennig o fewn y teulu. Roeddwn i yn yr un sefyllfa â chi, Weinidog, ond fi oedd yr un di-Gymraeg. Gwnaethon ni fel teulu benderfynu magu'r plant trwy'r Gymraeg, ond dim amod i siarad Cymraeg ges i cyn fy mhriodas i. Rydym wedi gwneud hynny er gwaetha'r ffaith ein bod ni, fi a fy ngŵr, wedi ei ffeindio bron yn amhosib siarad Cymraeg â’n gilydd, achos roedden ni wedi dechrau trwy'r Saesneg. Jest dim ond un enghraifft yw hynny o pa mor gymhleth yw'r nod yma i'w gyflawni.
Rŷch chi’n sôn am deuluoedd gyda sgiliau Cymraeg neu brawf Cymraeg ond heb hyder neu heb gymhelliad neu ddymuniad i siarad Cymraeg yn y tŷ. Felly, beth dŷch chi wedi darganfod yn barod am pam dyw teuluoedd tebyg ddim yn fodlon trosglwyddo'r iaith yn barod? Pam dim dymuniad? Pam dim cymhelliad? Achos rydw i wedi cael cipolwg ar ddogfen yr ymgynghoriad, ond dydy e ddim yn glir i fi—wel, dydw i ddim yn fodlon derbyn mai colli hyder yw'r unig reswm am y methiant trosglwyddiad ar hyn o bryd.
Beth ydych chi wedi ei ddysgu am lwyddiant neu fethiant, unwaith eto, y rhaglen Twf, er enghraifft? Achos mae e jest yn fy nharo i ei fod yn eithaf rhyfedd i baratoi'r rhaglen yna heb wybod yr atebion i fy nghwestiwn cyntaf i. Achos dwi yn gweld—. Y rheswm am hynny yw, dwi’n derbyn bod yna newidiadau cymdeithasol wedi digwydd, ond wrth gwrs, mae pobl wedi bod yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, a'r bobl yna nawr mewn sefyllfa i gael plant ac efallai gwneud y dewis am ba fath o iaith maen nhw'n mynd i siarad yn y tŷ. Felly, mae yna dipyn bach o disconnect rhwng beth rŷm ni wedi cael yn barod yn yr ysgolion a beth mae rhieni ifanc yn fodlon ei wneud nawr.
Gan ddweud hynny, rwy'n gweld yr egwyddorion y tu ôl i'r awgrymiadau yn y ddogfen yna, ac rwy'n nodi penderfyniadau plant eu hunain am yr iaith, yn arbennig plant hŷn sydd wedi cael eu magu trwy'r Gymraeg ond efallai yn dewis siarad mwy o Saesneg pan eu bod nhw'n dechrau bod yn teenagers ac yn y blaen. Hoffwn i wybod beth yw'r cynnig presennol iddyn nhw? Sut mae plant o'r oedran yna'n ffitio mewn i unrhyw brofiad yng Ngwlad y Basg, er enghraifft? Achos rŷch chi'n sôn am Wlad y Basg yn y ddogfen, ond dydw i ddim wedi clywed lot am y manylion perthnasol i bobl ifanc hŷn.
A jest i ddod i ben: yr arian. Faint o arian mae hyn yn mynd i gostio? Pwy ydych chi'n meddwl ar hyn o bryd sy'n mynd i fod yn gyfrifol am weithredu unrhyw raglen sy'n dod mas o'r ymgynghoriad? Ac am faint o amser mae hynny'n mynd i barhau? Diolch.
Diolch yn fawr, ac rŷch chi'n eithaf reit, beth dŷn ni ddim yn trio gwneud fan hyn yw rheoli ymddygiad y tu fewn i'r teulu. Rŷm ni'n deall ein bod ni mewn maes eithaf sensitif fan hyn. Felly, beth rŷm ni'n trio gwneud yw argymell, helpu pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain, a gwneud yn siŵr bod yr adnoddau a'r gwerthusiad gyda nhw ynglŷn â beth sy'n gweithio, a'n bod ni'n helpu i wneud hynny. Ac mae lot o waith ymchwil wedi cael ei wneud yn y maes yma, ond beth sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n rhannu'r gwaith yna a'n bod ni'n gwneud tamaid bach mwy o'r nudge theory yma gyda'r bobl yma. Rŷm ni'n gwybod, i raddau, rhai pethau sy'n gweithio, ond a oes yna fwy gallwn ni ei wneud?
Dyna pam mae'n hollbwysig—. Roeddech chi'n sôn ei bod hi'n anodd newid iaith unwaith rŷch chi wedi arfer, a dwi'n meddwl bod hwnna'n wir. Dyna pam mae mor bwysig ein bod ni'n dechrau cyn bod plant yn cael eu geni. Dyna pam ni'n cydweithio eisoes gyda'r bydwragedd. Ac mae'r ffordd yna o weithredu, dwi'n meddwl, wedi mynd â ni i ffordd eithaf pell yn barod. Ond yn amlwg, mae yna cohort dŷn ni ddim wedi cyrraedd fan hyn, ac mae’n bwysig ein bod ni'n edrych ar hyn.
So, pam nad yw pobl yn trosglwyddo? Wel, dyna un o'r pethau rŷm ni'n trio'i ddarganfod yma. Wrth gwrs, roeddech chi'n sôn bod diffyg hyder yn rhan ohoni, ac efallai yn arbennig os nad ydyn nhw wedi cael eu magu trwy'r Gymraeg ond wedi'i dysgu hi yn yr ysgol. Mae'n ddiddorol, efallai bod yr eirfa ar gyfer plant bach, bach ddim gyda nhw. So, ydyn nhw'n gwybod sut i ganu i'r plant pan fo nhw'n ifanc iawn ac ati? Dyna'r math o beth mae'n rhaid i ni sicrhau: ein bod ni'n rhoi darpariaeth iddyn nhw o'r pethau yna.
Y peth arall yw, o'r ymchwil rŷn ni wedi'i weld, bod yna ddim, yn aml, penderfyniad ymwybodol ynglŷn â pha iaith ŷch chi'n ei siarad. Un o'r pethau rydym ni trio gwneud yw cael pobl i feddwl amdano. Beth sy'n ddiddorol o'r ymchwil yw eu bod nhw yn siarad am ba ysgol mae eu plant nhw'n mynd i, so maen nhw'n mynd i'w anfon nhw i ysgol Gymraeg, ond dŷn nhw ddim yn cael y drafodaeth ynglŷn â pha iaith maen nhw'n ei siarad yn y cartref.
Ac rydych chi'n eithaf reit, mae gwaith wedi'i wneud yn y maes yma dros y blynyddoedd. Roedd Twf, ac wedyn mae hwnna wedi trawsnewid i mewn i Cymraeg i Blant. Un o'r pethau dŷn ni wedi gwneud drwy gynllunio'r polisi newydd yma yw gwneud gwerthusiad o Cymraeg i Blant i weld beth sydd wedi gweithio, ac mae hwnna wedi bwydo i mewn i'r rhaglen yma. Beth rydym ni'n gobeithio ei wneud fan hyn yw rhoi lot mwy o ffocws ar y ffaith mai beth rŷn ni eisiau ei weld yw trosglwyddo mewn teulu, a'i fod e wedi sefydlu yn lleoliad y teulu yn hytrach na rhywbeth i gael pobl i mewn i ysgolion. So, mae'r ffocws yn ymwybodol iawn ar deuluoedd.
O ran faint o amser mae hwn yn mynd i gymryd, wel, rŷn ni'n gweld mai efallai tua 10 mlynedd bydd y ffocws ar gyfer hyn. Wrth gwrs, o ran yr arian, mae Cymraeg i Blant eisoes yn derbyn tua £750,000 eleni. Beth fuaswn i'n ei ddisgwyl, fel canlyniad i'r ymgynghoriad yma, fyddai ceisiadau am fwy o arian yn y maes yma. Felly, bydd yn rhaid i ni weld beth sy'n dod nôl a pha brosiectau sydd ddim yn cael eu hariannu nawr efallai bydd angen i ni eu hariannu yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn am y datganiad. Dwi'n cytuno'n llwyr efo'r hyn rydych chi'n ei ddweud, sef bod trosglwyddo iaith yn un o elfennau pwysicaf cynllunio ieithyddol. Ym mis Mawrth 2017, gwnes i a Plaid Cymru gyhoeddi hwn, sef 'Cyrraedd y Miliwn', wedi'i gomisiynu gan Iaith, y ganolfan cynllunio iaith, un o brif asiantaethau polisi a chynllunio iaith annibynnol Cymru. Bwriad y ddogfen yma oedd amlinellu rhai o'r prif flaenoriaethau strategol sydd angen eu mabwysiadu ar gyfer tyfu'r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050. Mi oedd yna dipyn o sylw yn y ddogfen yma i drosglwyddo iaith, i'r elfen yna, achos ein bod ni'n teimlo ei fod o mor bwysig. Roeddem ni yn dweud yn hwn:
'Er mwyn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer y Gymraeg' bod angen gosod
'targed cenedlaethol cychwynnol' a'r hyn roeddem ni'n awgrymu oedd
'sicrhau bod 35% o blant 3-4 oed yn siarad Cymraeg o ganlyniad i drosglwyddo iaith mewn teuluoedd a chymdeithasoli iaith yn y gymdogaeth. O ran niferoedd gallai hynny olygu sicrhau bod dros 25,000 o blant, yn flynyddol, yn cael eu magu i siarad Cymraeg erbyn eu bod yn 3-4 oed. Byddai hynny hefyd yn golygu ymdrechion arwyddocaol i gynyddu'n sylweddol y nifer a'r canrannau sy'n cael eu cymdeithasoli i siarad Cymraeg ar aelwydydd lle mai ond un oedolyn sy'n siarad Cymraeg, ynghyd â'r aelwydydd hynny lle nad oes yr un oedolyn yn siarad Cymraeg.'
Felly, hoffwn i wybod: a fydd eich polisi newydd chi yn gosod rhyw fath o darged fel yna, ac a ydych chi'n cytuno efo'r targed 35 y cant yma? Mae'n dogfen ni dal yn fyw, mae hi'n dal yn hollol berthnasol. Roeddem ni yn mynd ymlaen i gynnig nifer o gamau ynglŷn â sut i wneud hyn. Does gen i ddim amser i fynd i mewn i hwnna'r prynhawn yma yn anffodus.
Rydych chi'n dweud hefyd yn y datganiad fod y gwaith yma neu'r polisi drafft yma yn torri tir newydd. Ond â phob parch, rydych chi'n gwrthddweud eich hun, achos rydych chi'n dweud hefyd, a rydw i'n dyfynnu:
'Mae yna waith wedi digwydd i gefnogi'r defnydd o’r Gymraeg mewn teuluoedd ers 20 mlynedd a mwy.'
Oes, yn wir. Fel roedd Suzy'n sôn, y mudiad Twf. Dwi'n ymwybodol iawn o'r gwaith gwbl arloesol wnaeth y mudiad hwnnw, a chynllun Llywodraeth Cymru oedd o. Am unwaith, rydw i'n canmol i'r cymylau y Llywodraeth am ddod â'r cynllun yma ymlaen. Roedd hwn yn annog rhieni i siarad Cymraeg efo'u babanod a phlant ifanc, a'u cynulleidfa darged nhw oedd teuluoedd o ieithoedd cymysg lle dim ond un rhiant oedd yn siarad Cymraeg. Dwi'n cofio gweld Twf ar waith pan oedd fy mhlant i'n ifanc—bydwragedd ac yn y blaen yn gweithio efo teuluoedd lle nad oedd un o'r rhieni siarad Cymraeg. Felly, mae hwn yn dipyn bach o déjà vu i ddarllen eich datganiad chi heddiw yma. Ydych chi'n cytuno mai camgymeriad mawr oedd dirwyn y cynllun Twf i ben? Dwi'n gwybod bod Cymraeg i Blant wedi dod yn ei le fo, ond roedd cyllideb honno £200,000 yn llai na chyllideb Twf, ac yn fy marn i, beth bynnag, mi oedd newid hynny i gyd yn gam mawr yn ôl o ran cynllunio ieithyddol.
Yn olaf, hoffwn i ddeall beth fydd perthynas eich polisi newydd chi efo fframwaith siarter iaith fydd yn y cwricwlwm addysg newydd. Achos dyma chi ddull arloesol arall sydd yn annog plant mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad i siarad Cymraeg y tu allan i'r dosbarth, ac felly, yn amlwg, gallai'r plant hynny wedyn fynd ymlaen i fod yn rhieni sydd yn siarad Cymraeg efo'u plant eu hunain. I mi, mae parhad y siarter iaith yn hanfodol. Mae yna oedi mawr efo'r gwaith gwerthuso, ac yn ôl beth dwi'n ei ddeall, bydd y canllawiau ar gyfer gweithredu'r siarter o fewn y cwricwlwm newydd ddim yn cael eu cyhoeddi tan dymor yr haf, tra bod yna ganllawiau ar gyfer yr holl feysydd eraill ynglŷn â'r cwricwlwm wedi cael eu cyhoeddi yn barod. I mi, mae hyn yn arwydd efallai nad ydy hyn ddim yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, ac mewn ffordd, mae o'n mynd yn erbyn yr hyn dŷch chi'n ceisio ei wneud.
I gloi, dwi yn falch iawn y byddwch chi'n rhoi'r sylw penodol i'r agwedd yma, achos fel dwi wedi egluro, dwi yn credu ei fod o'n hollbwysig wrth inni gyrraedd at y filiwn o siaradwyr Cymraeg. Diolch.
Diolch yn fawr, Siân. Gaf i ddweud, byddwn i â diddordeb mawr i weld copi o'r adroddiad yna, a gweld sut mae hwnna'n gallu plethu i mewn, neu beth allem ni ddysgu o hwnnw? Dwi'n meddwl bod gosod targedau yn bwysig ond yn anodd, so mae'n rhaid inni eu cael nhw yn y lle iawn. Ond yn sicr, o ran cyrraedd y filiwn, mae trosglwyddo'r iaith yn rhan o beth yw'n disgwyliadau ni, ac felly, mae'r targed yna'n barod; mae e yna eisoes. Ond beth sydd ei angen yw sicrhau bod yna ffyrdd o weithredu i sicrhau ein bod ni yn cyrraedd y targed yna.
Dwi yn meddwl bod yna wahaniaeth rhwng beth oedd yn digwydd o'r blaen gyda Twf, a wnaeth symud wedyn i Gymraeg i Blant. Roedd Twf dim ond ar gael mewn rhai ardaloedd, ac un o'r pethau sy'n bwysig yw bod hwn yn cael ei ledu ar draws y wlad, ond hefyd mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod ei fod yn mynd i fod yn wahanol o un ardal i'r llall hefyd.
Y peth arall sy'n wahanol gyda hwn, ac rŷch chi'n eithaf reit, mae'r siarter iaith—. Dŷn ni ddim jest yn sôn am drosglwyddo iaith nawr, ond cael plant sydd mewn ysgolion heddiw ac sy'n dod o gartrefi di-Gymraeg—sut allan nhw fod yn rhieni siarad Cymraeg; sut allan nhw fod yn drosglwyddwyr iaith? Ac rŷch chi'n eithaf reit bod yn rhaid inni weld sut mae'r siarter yn gallu asio gyda hwnna. Mae hwnna'n rhywbeth y byddaf i'n sicr yn bwydo nôl, a gweld sut rŷm ni'n gallu plethu hwnna i mewn. Ond fe wnewch chi weld o beth rŷm ni wedi cyhoeddi heddiw, bod ceisio cael plant sydd mewn ysgolion heddiw i drawsnewid a sicrhau eu bod nhw'n rhannu'r Gymraeg gyda'u plant nhw yn rhan hanfodol o'r strategaeth.
Doeddwn i ddim yn ymwybodol am yr amseru gyda'r canllawiau, ond fe wnaf i fynd i ffwrdd a gwneud tipyn bach mwy o ymchwil ar yr amseru. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Gweinidog.