4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Ymgynghoriad ar bolisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg mewn teuluoedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:56, 11 Chwefror 2020

Diolch yn fawr iawn am y datganiad. Dwi'n cytuno'n llwyr efo'r hyn rydych chi'n ei ddweud, sef bod trosglwyddo iaith yn un o elfennau pwysicaf cynllunio ieithyddol. Ym mis Mawrth 2017, gwnes i a Plaid Cymru gyhoeddi hwn, sef 'Cyrraedd y Miliwn', wedi'i gomisiynu gan Iaith, y ganolfan cynllunio iaith, un o brif asiantaethau polisi a chynllunio iaith annibynnol Cymru. Bwriad y ddogfen yma oedd amlinellu rhai o'r prif flaenoriaethau strategol sydd angen eu mabwysiadu ar gyfer tyfu'r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050. Mi oedd yna dipyn o sylw yn y ddogfen yma i drosglwyddo iaith, i'r elfen yna, achos ein bod ni'n teimlo ei fod o mor bwysig. Roeddem ni yn dweud yn hwn:

'Er mwyn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer y Gymraeg' bod angen gosod

'targed cenedlaethol cychwynnol' a'r hyn roeddem ni'n awgrymu oedd

'sicrhau bod 35% o blant 3-4 oed yn siarad Cymraeg o ganlyniad i drosglwyddo iaith mewn teuluoedd a chymdeithasoli iaith yn y gymdogaeth. O ran niferoedd gallai hynny olygu sicrhau bod dros 25,000 o blant, yn flynyddol, yn cael eu magu i siarad Cymraeg erbyn eu bod yn 3-4 oed. Byddai hynny hefyd yn golygu ymdrechion arwyddocaol i gynyddu'n sylweddol y nifer a'r canrannau sy'n cael eu cymdeithasoli i siarad Cymraeg ar aelwydydd lle mai ond un oedolyn sy'n siarad Cymraeg, ynghyd â'r aelwydydd hynny lle nad oes yr un oedolyn yn siarad Cymraeg.'

Felly, hoffwn i wybod: a fydd eich polisi newydd chi yn gosod rhyw fath o darged fel yna, ac a ydych chi'n cytuno efo'r targed 35 y cant yma? Mae'n dogfen ni dal yn fyw, mae hi'n dal yn hollol berthnasol. Roeddem ni yn mynd ymlaen i gynnig nifer o gamau ynglŷn â sut i wneud hyn. Does gen i ddim amser i fynd i mewn i hwnna'r prynhawn yma yn anffodus.

Rydych chi'n dweud hefyd yn y datganiad fod y gwaith yma neu'r polisi drafft yma yn torri tir newydd. Ond â phob parch, rydych chi'n gwrthddweud eich hun, achos rydych chi'n dweud hefyd, a rydw i'n dyfynnu:

'Mae yna waith wedi digwydd i gefnogi'r defnydd o’r Gymraeg mewn teuluoedd ers 20 mlynedd a mwy.'

Oes, yn wir. Fel roedd Suzy'n sôn, y mudiad Twf. Dwi'n ymwybodol iawn o'r gwaith gwbl arloesol wnaeth y mudiad hwnnw, a chynllun Llywodraeth Cymru oedd o. Am unwaith, rydw i'n canmol i'r cymylau y Llywodraeth am ddod â'r cynllun yma ymlaen. Roedd hwn yn annog rhieni i siarad Cymraeg efo'u babanod a phlant ifanc, a'u cynulleidfa darged nhw oedd teuluoedd o ieithoedd cymysg lle dim ond un rhiant oedd yn siarad Cymraeg. Dwi'n cofio gweld Twf ar waith pan oedd fy mhlant i'n ifanc—bydwragedd ac yn y blaen yn gweithio efo teuluoedd lle nad oedd un o'r rhieni siarad Cymraeg. Felly, mae hwn yn dipyn bach o déjà vu i ddarllen eich datganiad chi heddiw yma. Ydych chi'n cytuno mai camgymeriad mawr oedd dirwyn y cynllun Twf i ben? Dwi'n gwybod bod Cymraeg i Blant wedi dod yn ei le fo, ond roedd cyllideb honno £200,000 yn llai na chyllideb Twf, ac yn fy marn i, beth bynnag, mi oedd newid hynny i gyd yn gam mawr yn ôl o ran cynllunio ieithyddol.

Yn olaf, hoffwn i ddeall beth fydd perthynas eich polisi newydd chi efo fframwaith siarter iaith fydd yn y cwricwlwm addysg newydd. Achos dyma chi ddull arloesol arall sydd yn annog plant mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad i siarad Cymraeg y tu allan i'r dosbarth, ac felly, yn amlwg, gallai'r plant hynny wedyn fynd ymlaen i fod yn rhieni sydd yn siarad Cymraeg efo'u plant eu hunain. I mi, mae parhad y siarter iaith yn hanfodol. Mae yna oedi mawr efo'r gwaith gwerthuso, ac yn ôl beth dwi'n ei ddeall, bydd y canllawiau ar gyfer gweithredu'r siarter o fewn y cwricwlwm newydd ddim yn cael eu cyhoeddi tan dymor yr haf, tra bod yna ganllawiau ar gyfer yr holl feysydd eraill ynglŷn â'r cwricwlwm wedi cael eu cyhoeddi yn barod. I mi, mae hyn yn arwydd efallai nad ydy hyn ddim yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, ac mewn ffordd, mae o'n mynd yn erbyn yr hyn dŷch chi'n ceisio ei wneud.

I gloi, dwi yn falch iawn y byddwch chi'n rhoi'r sylw penodol i'r agwedd yma, achos fel dwi wedi egluro, dwi yn credu ei fod o'n hollbwysig wrth inni gyrraedd at y filiwn o siaradwyr Cymraeg. Diolch.