6. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Grant Cymorth Tai

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:12, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am hynny, John Griffiths, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae Pennod 7, sef y bennod ar gomisiynu a chaffael gwasanaethau grantiau cymorth tai, yn adlewyrchu gwaith y pwyllgor ar gaffael a chomisiynu, felly rwy'n falch iawn o'ch clywed yn ei groesawu. Rwy'n credu bod llawer o'r hyn sydd wedi'i nodi yn y bennod hon yn rhywbeth y byddem i gyd yn ei ystyried yn arfer a chaffael moesegol da. Felly, dim ond pwysleisio hynny a wnaf. Er enghraifft, rydym yn falch iawn, yn y canllawiau, o nodi ein hegwyddorion gwaith teg a dweud na ddylai pobl sy'n darparu'r gwasanaethau hyn gael eu gwthio i waith ansicr, annheg oherwydd yr angen i sicrhau'r adnoddau mwyaf, gan fod hynny mewn gwirionedd yn cael effaith hollol groes i'r hyn a ddymunwn. Rwy'n gwybod bod y pwyllgor wedi dod i gasgliadau tebyg.

Hoffwn bwysleisio un peth byr, sef ei fod yn dweud hefyd fod yn rhaid i gynlluniau comisiynu adlewyrchu'r dulliau mwyaf priodol o ddatblygu'r farchnad a chaffael yn yr ardal leol, gan gynnwys gwahanol ffurflenni contract, grantiau neu ddarpariaeth fewnol. Felly, nid ydym ni—. Wrth ddweud canllawiau comisiynu, term cyffredinol yn unig yw hwnnw ynghylch sut y cewch y gwasanaethau hyn yn eu lle; nid yw'n golygu ein bod o reidrwydd yn eu cael drwy un strwythur penodol. Ac ni allaf bwysleisio digon y bydd pob awdurdod lleol yn gwybod beth yw'r ddarpariaeth yn ei ardal, a bydd yn gymysgedd o drefniadau mewnol, y trydydd sector a'r sector preifat. A dylent fod yn sicrhau, drwy'r grant hwn a'r canllawiau hyn, y cyfuniad gorau posib o'r gwasanaethau hynny i ddarparu'r gwasanaeth gorau ar lawr gwlad, yn union fel y gofynnwyd inni gan adroddiad y pwyllgor.

O ran y cwantwm, rwy'n credu, fel y dywedais mewn ymateb i nifer o bobl eraill, wrth gwrs y byddem yn hoffi cael mwy o arian; hoffem gael mwy o arian ar gyfer bron pob gwasanaeth, neu bob gwasanaeth—nid wyf yn gwybod pam yr wyf yn dweud 'bron pob'—pob gwasanaeth yn y Llywodraeth. Rwy'n falch ein bod wedi gallu gwneud yr hyn y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ei wneud, sef diogelu iechyd, a'r ail ddymuniad oedd diogelu llywodraeth leol. Rydym ni newydd gyflawni'r setliad llywodraeth leol gorau ers naw mlynedd, rwy'n falch iawn o hynny, ac, wrth gwrs, mae'r arian hwn yn mynd i awdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaethau hynny. Felly, mae'n rhaid ei weld o fewn y setliad gorau hwnnw.

Ond, yn amlwg, os oes arian ychwanegol o ganlyniad i'r cylch setliad cyllideb terfynol a hefyd oherwydd bod gennym ni'r sefyllfa hon sydd braidd yn anarferol, ddywedwn ni, gyda chyllideb wythnos ar ôl ein cyllideb ni, os yw hynny'n esgor ar unrhyw arian ychwanegol, yna, yn amlwg, mae digartrefedd yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Ond o'm rhan i, i roi hynny yn ei gyd-destun, tai yw'r brif flaenoriaeth, hefyd, oherwydd mae hyn yn fwy na rheng flaen digartrefedd; mae a wnelo hyn ag adeiladu'r tai cymdeithasol angenrheidiol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. Felly nid yw'n ymwneud â'r rheng flaen yn unig. Ac yna, ar y rheng flaen, wrth gwrs rydym ni wedi rhoi £20 miliwn ychwanegol ar ben y grant cymorth tai ar gyfer atal digartrefedd eleni. Byddwch yn gwybod ein bod wedi gwneud hynny mewn ymateb i'r grŵp gweithredu ar dai dros y Nadolig, ac fel y dywedais wrth ymateb i David Rowlands, rydym yn aros am adroddiad nesaf y grŵp gweithredu ar dai.