Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 11 Chwefror 2020.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Nawr, mae 'Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2019' yn rhoi pwyslais i ni ar greu Cymru fwy ffyniannus, mwy cyfartal a mwy gwyrdd, ac er y bu rhywfaint o gynnydd ym mhob un o'r meysydd hyn, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn amau'n fawr bod canlyniadau rhai o weithredoedd Llywodraeth Cymru yn dangos bod Cymru ymhell o'r fan lle dylem ni fod. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, er mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddatgan argyfwng newid hinsawdd, mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd yn y maes hwn.
Cafodd y safbwynt hwn, yn wir, ei adleisio gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad, a ddywedodd yn ddiweddar er bod y Gweinidog wedi dweud wrth y pwyllgor y byddai cyllideb 2020-21 yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gefnogi ei datganiad o argyfwng hinsawdd â chamau gweithredu ac arian cysylltiedig, ni allai'r realiti fod ymhellach o'r gwir. Yn wir, dywedodd y Pwyllgor, ac rwy'n dyfynnu:
'Ar y sail hon, roeddem yn disgwyl cyllideb drawsnewidiol a radical. Nid ydym wedi gweld tystiolaeth o hyn. Rydym yn siomedig i ddod i'r casgliad bod y gyllideb ddrafft hon yn “fusnes fel arfer”.'
Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i dynnu sylw yn yr adroddiad blynyddol at ei chyflawniadau ym maes trafnidiaeth, ac er efallai fod y Llywodraeth o'r farn bod y gwaith uwchraddio sy'n parhau ar ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465 yn rhywbeth i'w ddathlu, nid yw hynny'n wir o gwbl. Mae'n ffaith ddiymwad bod swm anferth o arian wedi ei wario ac yn parhau i gael ei wario ar y rhan hon o ffordd, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyfiawnhau'r gwerth am arian i'r trethdalwr hyd yn hyn, nac ychwaith wedi ymdrin â'r effaith rwystredig y mae'r oedi wedi ei chael ar drigolion lleol.
Nawr, mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd o ansawdd uchel ac yn hawdd cael gafael arnyn nhw, ac eto dim ond trwy edrych ar gyflwr presennol y gwasanaethau sy'n cael eu darparu yn y gogledd drwy fwrdd iechyd sydd wedi bod o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru am bron i bum mlynedd y byddwch yn gweld bod pethau ymhell o fod yn berffaith. Dim ond 66.8 y cant o gleifion sy'n cael eu hasesu o fewn y cyfnod pedair awr hollbwysig. Mae diffygion difrifol o ran darparu gwasanaethau iechyd meddwl, ac mae'r bwrdd iechyd ar fin nodi diffyg o £35 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Ac eto nid oes unrhyw beth yn y ddogfen hon sy'n cydnabod yr heriau hynny nac yn egluro beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud ynglyn â nhw.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir bod iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol drwy amlygu'r ffaith bod timau iechyd meddwl amenedigol wedi eu sefydlu ym mhob bwrdd iechyd. Fodd bynnag, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, yn Lloegr y mae'r unig gymorth iechyd meddwl i gleifion mewnol sydd ar gael i famau yng Nghymru, felly heb uned mamau a babanod yma, mae menywod yng Nghymru a chanddyn nhw broblemau iechyd meddwl acíwt naill ai'n cael eu derbyn i gyfleusterau seiciatrig heb eu plentyn, neu'n cael eu hanfon i unedau sydd milltiroedd i ffwrdd. Mae Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad wedi dweud yn gywir bod angen newid y sefyllfa ar frys, ac felly mae'n annheg i Lywodraeth Cymru ddweud ei bod yn rhoi blaenoriaeth i gymorth iechyd meddwl pan nad yw camau gweithredu y mae angen taer amdanynt ar waith.
Llywydd, mae rhai llwyddiannau wedi eu cyflawni eleni wrth gwrs. Er enghraifft, rwy'n falch o ddarllen bod cyfradd cyflogaeth pobl anabl yng Nghymru wedi cynyddu i 49.2 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2019, a bod y bwlch rhwng cyfradd cyflogaeth pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru wedi lleihau o fwy na dau bwynt canran yn yr un cyfnod, ac mae hynny'n newyddion da.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod cyfraddau treth incwm Cymru wedi eu cyflwyno ers mis Ebrill 2019, gan roi cyfle i ni ddweud ein dweud ynghylch cyfran o'r dreth incwm sydd i gael ei thalu yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod unrhyw sôn o gwbl yn yr adran ar drethiant yn y ddogfen ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu ei phwerau codi treth yn fwy—dim byd am y cynlluniau ar gyfer treth tir wag, y dreth gofal cymdeithasol, na'r dreth twristiaeth leol. Wrth gwrs, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn anghytuno'n llwyr ag agwedd Llywodraeth Cymru at drethiant, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau economi treth isel i Gymru.
Llywydd, wrth droi yn awr at raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, byddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn gwneud pob dim a allwn i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio mor effeithiol â phosibl, ac yn darparu gwerth am arian. Mae'r Cynulliad hwn yn benodol, fodd bynnag, wedi tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud mwy i gefnogi ymgyrchoedd deddfwriaethol gan bleidiau eraill, ac ni fydd yn syndod i'r Aelodau fy mod i'n gresynu'n fawr at y ffaith na chafodd fy Mil awtistiaeth ei ddwyn ymlaen. Yn yr un modd, rwyf hefyd wedi galw, ers sawl blwyddyn bellach, am ddeddfwriaeth i warchod cofebion rhyfel Cymru, ac, er gwaethaf geiriau cynnes gan nifer o Weinidogion, prin iawn sydd wedi ei wneud mewn gwirionedd. Fodd bynnag, rwyf yn derbyn bod deddfwriaeth bwysig yn digwydd dros y 12 mis nesaf. Er enghraifft, mae'r Bil anifeiliaid gwyllt a syrcasau ar ei hynt drwy'r Cynulliad, a fydd yn gam ymlaen angenrheidiol a phwysig ar gyfer agenda lles anifeiliaid Cymru.
Felly, i gloi, Llywydd, er bod y bwriad i greu Cymru fwy ffyniannus, mwy cyfartal a mwy gwyrdd yn glodwiw, mae gan Lywodraeth Cymru ffordd bell i fynd o hyd, a bydd fy nghyd-Aelodau a minnau yn parhau i ymgysylltu yn adeiladol â'r Llywodraeth, pan fo'n bosibl, i weld Cymru yn ffynnu ar gyfer y dyfodol. Diolch.