Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 12 Chwefror 2020.
Mae ein datganiad ystadegol diweddaraf, ar gyfer y cyfnod 2017-18, yn dangos bod bron i 11,500 o blant wedi cael gwasanaeth cwnsela, sy'n debyg i'r niferoedd yn y blynyddoedd blaenorol. Yn y flwyddyn gyfredol, darparwyd £626,000 yn ychwanegol gennym—na; ie, £626,000—i awdurdodau lleol i gefnogi gwelliannau i'r gwasanaeth fel rhan o'n gwaith ar ddatblygu dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles.