Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 12 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae rhai o'r ysgolion yn fy rhanbarth, yn gwbl briodol, yn defnyddio rhan o'u grant datblygu disgyblion i helpu i gefnogi gwasanaethau cwnsela ysgolion ar y safle i ddisgyblion. Pa adborth a gawsoch gan ysgolion nad ydynt yn cael lefelau uchel o grant datblygu disgyblion, ac sydd wedi cael toriadau i'w cyllid craidd, ynghylch yr anawsterau y gallant eu hwynebu wrth gynnig cwnsela ar y safle?