Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 12 Chwefror 2020.
Weinidog, yn fy etholaeth i—mae’n debyg fy mod yn datgan buddiant, yn gyntaf oll, fel un o ymddiriedolwyr Eye to Eye, sy'n darparu peth o'r gwasanaeth cwnsela ieuenctid yn fy etholaeth—mae’r gwaith a wneir yn ymateb i'r ffaith bod cymaint o faterion yn codi ymhlith pobl ifanc. A chredaf fod y gwasanaeth cwnsela a'r gwaith a wneir yn ailbwysleisio i bob un ohonom pa mor bwysig yw'r gwaith hwnnw. Ond tybed: ledled Cymru, pa waith sy'n mynd rhagddo i goladu'r ystadegau cyffredinol ar gyfer Cymru gyfan i gael darlun o'r hyn sy'n digwydd ledled Cymru mewn perthynas â'r gwasanaeth hynod bwysig hwn?