Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 12 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydym ni'n ymwybodol bod recriwtio a chadw athrawon yn her yng Nghymru, ac mewn gwledydd eraill hefyd, yn wir, a bod yna nifer o resymau am hyn, a bod angen taclo'r broblem mewn sawl ffordd. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru'n dangos bod 40 y cant yn llai na'r targed sydd wedi ei osod ar gyfer hyfforddeion ar gyfer y sector uwchradd, er enghraifft, ac mae adroddiadau diweddaraf y Cyngor Gweithlu Addysg yn dangos bod yna fwy o gymorthyddion nag o athrawon yn ein hysgolion ni erbyn hyn. Rŵan, dwi'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol iawn o'r broblem yma, sydd wedi cael ei gwyntyllu dros y blynyddoedd, yn wir, yn y Siambr yma. Pa mor ffyddiog ydych chi y gwelwn ni'r sefyllfa yma yn gwella dros y blynyddoedd nesaf?