Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 12 Chwefror 2020.
Diolch, Lywydd. Y mis diwethaf, bu penaethiaid yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei chynigion cyllidebol drafft ar gyfer addysg. Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru nad yw'r gwariant arfaethedig ar addysg a nodwyd hyd yma yn dod yn agos at unioni'r niwed a wnaed gan flynyddoedd o danariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae ysgolion mewn diffyg ariannol, yn ei chael hi'n anodd cadw staff cymorth ac athrawon da, a gallent wynebu anawsterau wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Weinidog, pam eich bod wedi gwrthod ymrwymo i wario mwy o arian yn uniongyrchol ar ysgolion, ac a wnewch chi gytuno i glustnodi'r cyllid canlyniadol sy'n deillio o gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynglŷn â gwariant ychwanegol ar ysgolion cynradd yn Lloegr ar gyfer addysg yng Nghymru?