Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 12 Chwefror 2020.
Lywydd, mae'r Aelod yn iawn: mae hwn yn fater sy’n ymwneud â hawliau. Mae'n ymwneud â hawliau plant, ac mae gan bob plentyn hawl i gael addysg a fydd yn eu cadw'n ddiogel rhag niwed, a fydd yn eu hamddiffyn ac yn darparu'r wybodaeth a’r sgiliau y maent eu hangen i ddod yn unigolion iach, hyderus. Ac mae'r agwedd honno at hawliau plant yn ganolog i fy mhenderfyniad.
Rydym newydd glywed gan Aelod arall am bwysigrwydd rheolaeth orfodol a sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn gwybod beth ydyw, a beth i'w wneud os yw'n digwydd iddynt hwy. Enghreifftiau fel hynny sy'n golygu bod rhaid inni sicrhau bod gan bob plentyn hawl i gael y gwersi hyn wrth symud ymlaen.