Addysgu Perthynas

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 12 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:12, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, heblaw am yr ystodau oedran statudol a nodir mewn perthynas â phump i 16 oed a'r gwahanol oedrannau y bydd plant yn cael addysg rhyw, addysg cydberthynas, rwy'n credu eich bod wedi eich cofnodi'n dweud o'r blaen y rhoddir rhywfaint o sylw i bwynt datblygiadol plant o fewn y cylch hwnnw. Felly, efallai fod yna ffordd, neu gyfaddawd yma hefyd, lle rydych chi ar y naill law yn darparu'r addysg y credwch chi fod ganddynt hawl iddi i blant, ond ar yr un pryd, fod barn rhieni a phwynt datblygiadol plentyn unigol hefyd yn cael eu hystyried i sicrhau nad yw plant yn cael addysg sy'n amhriodol iddynt, ar adeg benodol.