Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 12 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:38, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n bolisi gan Lywodraeth Cymru y dylid darparu gofal mor agos i gartref â phosibl. Ac mae cydnabyddiaeth y bydd hynny, yn achos rhai gwasanaethau, yn golygu llai o ganolfannau arbenigol. Ond o ran unrhyw bwynt penodol ynglŷn â faint o adrannau achosion brys a allai neu a ddylai fod, nid oes gan Lywodraeth Cymru ffigur hud mewn golwg ynglŷn â nifer yr adrannau a allai neu a ddylai fod. Mae'r rhain yn gwestiynau anodd, sy'n dibynnu ar angen y boblogaeth, yn ogystal ag ar ein gallu i recriwtio'r niferoedd cywir o staff i ddarparu'r gwasanaeth cywir y mae pobl yn ei ddisgwyl, a hynny'n briodol.