2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 12 Chwefror 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Weinidog, anhwylder metabolig genetig prin iawn yw ffenylcetonwria, a alwn yn PKU oherwydd ei fod yn llawer haws, sy'n effeithio ar oddeutu un o bob 10,000 o bobl yn y DU. Nid yw cleifion sy'n byw gyda PKU yn gallu metaboleiddio ffenylalanin, sef asid amino a welir yn y proteinau yn eich ymennydd. Ac rydych yn cael eich geni gyda'r cyflwr, a chyn gynted ag y cewch eich geni, os na fyddwch yn dechrau rheoli lefelau'r protein, gall arwain at niwed difrifol i'r ymennydd, gan effeithio ar weddill eich bywyd. Un o'r ffyrdd y gellir trin yr anhwylder hwn yw drwy fwyta deiet cyfyngedig iawn. Nawr, mae'r gymdeithas genedlaethol ar gyfer dioddefwyr ffenylcetonwria wedi cyflwyno nifer o argymhellion i helpu i wella bywydau dioddefwyr PKU, ac un ohonynt yw y dylai pawb sydd â PKU gael eu monitro mewn gwasanaeth metabolig, integredig, arbenigol dan arweiniad meddyg a deietegydd profiadol. Felly, Weinidog, tybed a fyddech yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth i fabwysiadu'r argymhelliad hwn, oherwydd, er bod y niferoedd yn fach, mae'n effeithio ar grŵp sylweddol o bobl yng Nghymru, a gall effeithio'n hirdymor ac yn ddifäol iawn ar eu bywydau os nad ydynt yn cael cydbwysedd y deiet yn gywir.
Diolch am gwestiwn yr Aelod, ac rwy'n credu ei bod yn gadarnhaol ein bod yn sôn am rai o'r cyflyrau prinnach sy'n bodoli. Mae nifer o Aelodau ar draws y Siambr wedi dangos diddordeb yn hyn. Gwn fod fy nghyd-Aelod ar y chwith, y Trefnydd, yn ystod ei hamser ar y meinciau cefn, wedi dangos diddordeb arbennig mewn clefydau a chyflyrau prin, ac mewn gwirionedd, ar y mater penodol hwn, gwn fod David Rees, yr Aelod dros Aberafan, a'r Cwnsler Cyffredinol yn ei rôl fel yr Aelod dros Gastell-nedd, wedi cael etholwyr yn mynegi pryderon ynghylch y gallu i ddarparu rhywbeth digonol i'w helpu i wneud dewisiadau.
Ac mae'r pwynt am ddeiet yn un da. Felly, mae her ynglŷn â'r hyn y gallwn, y gallem ac y dylem ei ddarparu, ynghyd â'r gweithlu i wneud hynny, a buddsoddi i sicrhau'r nifer iawn o ddeietegwyr, oherwydd mae'r drefn sy'n rhaid i bobl ei dilyn i ganiatáu iddynt wneud dewisiadau eraill yn eu bywydau yn un eithaf llym. Felly, rwy'n fwy na bodlon i fy swyddogion a'r Llywodraeth, a'r gwasanaeth iechyd yn wir, ymgysylltu â chymdeithas y PKU i siarad am yr hyn sy'n bosibl, ac yn yr un modd, lle mae'n bosibl darparu hynny, ac mae'n ddigon posibl y bydd yn golygu bod angen inni wneud dewisiadau gwahanol ynghylch buddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol.FootnoteLink
Wel, diolch am hynny, oherwydd mae'n ateb eithaf cadarnhaol mewn gwirionedd. Fi yw cadeirydd presennol y grŵp trawsbleidiol ar glefydau prin ac amddifad yma, a chefais sioc mewn gwirionedd pan gyfarfûm â grŵp cyfan o bobl gyda PKU, oherwydd nid dim ond—. Credaf ichi ei galw'n 'drefn eithaf llym'. Dychmygwch dreulio eich bywyd cyfan yn byw ar gawl a diodydd, gyda'r anfantais ychwanegol eu bod, mae'n debyg, yn blasu'n ffiaidd. Cefais gynnig sampl; fe wrthodais mewn gwirionedd, oherwydd gallwn ei arogli cyn i mi fynd yn agos ato. Ac nid yn unig hynny. Roedd y bobl hyn yn dangos i mi, pobl â'r cyflwr, os ydynt yn bwyta darn o gaws—yn llythrennol, unwaith yr wythnos, gallant gael darn o gaws, sydd tua centimedr wrth gentimedr wrth gentimedr. Ac wrth gwrs, mae'n cael effaith enfawr ar eu hiechyd a'u llesiant meddyliol hefyd wrth iddynt dyfu'n hŷn, yn enwedig pobl yn eu harddegau, oedolion ifanc yn mynd allan, yn cael bywyd cymdeithasol, yn dymuno bod yn rhan o gymdeithas normal ac yn methu ymuno â'r peint yn y dafarn, y pizza yn y tecawê lleol, neu beth bynnag y bo.
A'r peth brawychus arall a welais oedd bod yn rhaid i'r babanod gael llaeth arbenigol ar ôl cael eu geni, ac yn aml nid yw'r llaeth hwnnw ar gael gan y GIG, mae'n hynod o ddrud ac yn waeth na dim, mae'n anodd iawn ei gael. Nawr, Weinidog, os yw hwn yn rhywbeth angenrheidiol i fywyd a llesiant hirdymor rhywun—. A wnewch chi ofyn i'ch swyddogion edrych ar y sefyllfa o ran y cyflenwad? Oherwydd mae gwrthod y bwyd cywir i faban o'r foment y mae'n cael ei eni, lle mae rhieni'n ei chael hi'n anodd naill ai i fforddio'r llaeth cywir, y llaeth synthetig hwn sy'n cael ei greu, neu'n methu cael gafael arno hyd yn oed—oherwydd ni allwch ei archebu ar Amazon neu beth bynnag—yn wirioneddol frawychus, oherwydd bydd y plentyn ifanc hwnnw'n datblygu lefelau uchel o asidau amino, ac wrth gwrs, yn fwy hirdymor, bydd angen mwy a mwy o gymorth gan y wladwriaeth. Felly, mae angen inni eu cadw mor iach â phosibl. Ac mae yna rywbeth mor annheg hefyd ynglŷn â chael babi bach hollol hyfryd a methu cael y bwyd sydd ei angen arno i gael bywyd cystal ag y gall ei gael.
Rwy'n fwy na pharod i gael y sgwrs rwyf wedi'i chynnig gyda swyddogion yn y gwasanaeth iechyd i gynnwys y mater penodol hwn ynghylch cyflenwad llaeth cynnar hefyd. Ac rwy'n credu bod yna rywbeth am—. Croeso i'r Aelod ddewis a hoffai ysgrifennu ataf yn rhinwedd ei swydd fel llefarydd ei phlaid, neu yn rhinwedd ei rôl fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol. Rwy'n hapus i ymgysylltu y naill ffordd neu'r llall, ond buaswn eisiau gallu rhannu gwybodaeth, oherwydd gwn fod gan Aelodau eraill yn y lle hwn, ar draws y pleidiau, ddiddordeb yn y mater hefyd.
Iawn. Felly, hoffwn i chi gyflawni un wyrth arall, ac mae'n ymwneud â chyffur o'r enw Kuvan. Nawr, mae Kuvan, i bobl gyda PKU fel Orkambi i bobl â chyflyrau eraill. Nawr, rydym wedi bod yn aros ers 12 mlynedd i'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal fynd i'r afael o ddifrif â Kuvan. Yn gynharach y mis hwn, galwodd Jeremy Hunt, y cyn Ysgrifennydd iechyd, ar Matt Hancock, deilydd presennol y swydd, i ddefnyddio'r un swyn i sicrhau mynediad at Kuvan ag y defnyddiodd i roi sêl bendith i Orkambi ar gyfer ffeibrosis systig. Ac mae dioddefwr PKU yn Lloegr ar hyn o bryd wedi cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae'n gostus, ond byddai'n gwneud gwahaniaeth dramatig i fywydau'r dyrnaid bach o bobl sydd â'r cyflwr ofnadwy hwn. Weinidog, rydych bob amser yn dweud eich bod eisiau i'r GIG yng Nghymru ddilyn llwybr gwahanol, rydych yn ymdrechu i geisio bod yn llawer mwy cynhwysol, ac yn eich barn chi, yn decach. A wnewch chi wneud ymdrech go iawn ar hyn, ac a fyddech yn ystyried ceisio ei symud fel y gellir rhoi'r cyffur hwn, sydd ar gael yn holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd heblaw am Wlad Pwyl—rwyf am ddiystyru Gwlad Pwyl—a'r DU, ar bresgripsiwn i gleifion yma yng Nghymru? Niferoedd bach—ond ni allwn anwybyddu'r cyflyrau a'r clefydau prin ac amddifad oherwydd nad oes llu o bobl sydd eu hangen. Ac rydych wedi'i brofi gydag Orkambi; gadewch i ni wneud yr un peth gyda Kuvan, os gwelwch yn dda.
Wel, rwy'n gwybod am Kuvan yn fras—mae'n fater rwyf wedi'i weld mewn rhywfaint o'r ohebiaeth rwyf wedi'i chael—ond nid wyf yn credu y gallwn ymrwymo i benderfynu ar ganlyniad. Fodd bynnag, os yw'r gweithgynhyrchwyr eisiau cyflwyno arfarniad drwy ein proses arfarnu ein hunain—Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru—maent yn rhydd i wneud hynny. Rwy'n credu bod yr her sy'n ymwneud â Jeremy Hunt yn galw ar Matt Hancock i wneud rhywbeth yn dweud rhywbeth wrthoch chi am y perygl o gael cyn Weinidogion ar feinciau cefn. Ond llwyddwyd i gael Orkambi, nid drwy swyn, ond drwy sgwrs galed, fasnachol, oherwydd nid oedd gweithgynhyrchwyr y cyffur hwnnw'n barod i symud cyn yr ymgyrch hir, niweidiol ac annymunol iawn a gafwyd—ymgyrch a niweidiodd nifer o deuluoedd yn y broses yn fy marn i—i newid y cynnig roeddent yn barod i'w wneud i'r gwasanaeth iechyd gwladol mewn gwirionedd.
Ac nid mewn perthynas ag un math penodol o feddyginiaeth yn unig y mae hon yn broblem. Mae'n eithaf cyffredin, nid yn unig ar gyfer triniaethau newydd at gyflyrau mwy cyffredin, os mynnwch, ond yn sicr at gyflyrau mwy anghyffredin hefyd. Ac mewn gwirionedd, yn y gronfa triniaethau newydd, lle rydym yn dathlu tair blynedd o wneud gwahaniaeth go iawn, mae llawer o'r triniaethau a gyflwynir yn rhai ar gyfer cyflyrau prin—cyflyrau prin sydd bellach yn cael eu cefnogi oherwydd bod arfarniad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Ac yn aml, mae'n ymwneud â'r gost gychwynnol honno i fyrddau iechyd, lle ceir her y mae'r gronfa triniaethau newydd yn helpu gyda hi i sicrhau bod y driniaeth ar gael yn fwy eang o fewn y gwasanaeth. A byddwn yn wynebu'r her hon yn y dyfodol gyda therapïau uwch hefyd. Felly, rwy'n fwy na hapus os yw'r Aelod eisiau ysgrifennu ataf, a byddaf yn onest ynglŷn â lle rydym arni yn y broses arfarnu a'r pethau y gallwn eu gwneud ac rydym yn barod i'w gwneud yma yng Nghymru. Ac rwy'n fwy na bodlon cynnal y lefel honno o onestrwydd gyda hi, o fewn y Siambr a thu hwnt.
Llefarydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Ai polisi Llywodraeth Cymru o hyd yw y dylai fod gan Gymru lai o adrannau damweiniau ac achosion brys, fel y gellir canolbwyntio staff ar lai o safleoedd—ie neu na?
Mae'n bolisi gan Lywodraeth Cymru y dylid darparu gofal mor agos i gartref â phosibl. Ac mae cydnabyddiaeth y bydd hynny, yn achos rhai gwasanaethau, yn golygu llai o ganolfannau arbenigol. Ond o ran unrhyw bwynt penodol ynglŷn â faint o adrannau achosion brys a allai neu a ddylai fod, nid oes gan Lywodraeth Cymru ffigur hud mewn golwg ynglŷn â nifer yr adrannau a allai neu a ddylai fod. Mae'r rhain yn gwestiynau anodd, sy'n dibynnu ar angen y boblogaeth, yn ogystal ag ar ein gallu i recriwtio'r niferoedd cywir o staff i ddarparu'r gwasanaeth cywir y mae pobl yn ei ddisgwyl, a hynny'n briodol.
A ydych yn cytuno â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe, sef mai meddygon a ddylai wneud y penderfyniad ynghylch dyfodol yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg?
Wel, mae'r penderfyniad a wnaed am ddyfodol Ysbyty Brenhinol Morgannwg, y byddwn yn ei drafod yn nes ymlaen heddiw, yn un lle mae gan y bwrdd iechyd gyfrifoldeb i wneud dewis. Mae angen iddynt wrando ar eu gweithlu meddygol ac ymgysylltu â hwy i ddeall yr hyn y mae meddygon yn ei ddweud am ddiogelwch y gwasanaeth hwnnw. Mae honno'n her yn y tymor byr ac yn y tymor hwy. Ond mae ganddynt gyfrifoldeb hefyd wrth gwrs i wrando ar y cyhoedd. Ac nid yw hynny'n ymwneud yn unig â niferoedd y bobl sy'n gysylltiedig â hyn ac sy'n wirioneddol bryderus am ddyfodol gwasanaethau. Mae'n rhaid iddynt allu gwrando ar y pryderon hynny, yr ofnau hynny—oherwydd, mewn gwirionedd, efallai na fydd y bwrdd iechyd eu hunain yn gwybod popeth am yr effaith uniongyrchol ar y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, yr heriau ynghylch mynediad, ynghylch tegwch—a gallu gwrando ar yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddweud ac ymateb i hynny wrth ddarparu unrhyw ateb ar gyfer y dyfodol. Ac wrth gwrs, rwy'n disgwyl i aelodau'r cyhoedd, a'u cynrychiolwyr etholedig hefyd, ofyn y cwestiynau hynny. Ac rwy'n disgwyl i'r cwestiynau hynny gael eu hateb, mewn ffordd sy'n wirioneddol agored a thryloyw, am unrhyw ddewis y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud o ran darparu'r math o wasanaeth diogel o ansawdd uchel y mae gan bobl ym mhob rhan o Gymru hawl i'w ddisgwyl.
Rwy'n cytuno â chi y dylid gwrando ar y cyhoedd. Mae'n drueni mawr na wrandawyd ar y 60,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar raglen de Cymru yn ôl yn 2014.
Weinidog, gallaf ddatgelu, y prynhawn yma, fod y mwyafrif llethol o'r meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, wedi cytuno yn ystod y ddwy awr ddiwethaf, mewn cyfarfod, y dylid parhau i ddarparu gwasanaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Nawr, rydych chi a'r Prif Weinidog wedi dweud bod angen i'r penderfyniad hwn gael ei arwain gan feddygon. Yng ngoleuni barn y meddygon hynny, a wnewch chi ymrwymo yn awr i adfer yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a gwarantu ei dyfodol hirdymor?
Wel, mewn gwirionedd, mae'r bwrdd iechyd ei hun wedi egluro yn y datganiad a wnaethant ddoe nad oes ganddynt ateb terfynol i'r hyn a ddylai ddigwydd. Fodd bynnag, mae ganddynt her anochel ynghylch diogelwch y gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol, a hynny am fod y meddyg ymgynghorol parhaol olaf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gadael ar ddiwedd mis Mawrth. Nawr, ni allwch anwybyddu realiti'r hyn y mae hynny'n ei olygu i ddiogelwch y gwasanaeth yn y dyfodol. Ac i'r holl bobl sydd, yn ddealladwy—yn y Siambr hon a thu allan—eisiau gweld adran ddamweiniau ac achosion brys 24 awr dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn parhau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, rhaid gosod hynny yn erbyn realiti eu gallu neu eu hanallu i recriwtio staff i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw'n ddiogel ac yn effeithiol—
Mae angen i chi newid rhaglen de Cymru i gael gobaith o recriwtio.
A'r broblem—y broblem sy'n ein hwynebu ni i gyd yw, os na allwn recriwtio'r nifer iawn o feddygon ymgynghorol parhaol i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw, ni fyddwn yn gallu gwneud hynny. Ac nid yw'n fater o ddweud yn syml mai rhaglen de Cymru sydd ar fai. Nid yw hynny'n datrys y broblem. Ni fyddai ond yn osgoi'r broblem rydym yn ei hwynebu, ac mewn gwirionedd, rydym i gyd yn gwybod, os ydych yn anwybyddu pryderon diogelwch mewn perthynas â staff, mewn perthynas â'r bobl sy'n darparu'r gofal hwnnw—os ydych yn methu mynd i'r afael â'r her honno—fe fyddwch yn darparu gwasanaeth anniogel yn y pen draw, bydd niwed yn cael ei achosi, a bydd pobl yn dweud, a hynny'n gwbl briodol, 'Pam na wnaethoch chi rywbeth yn ei gylch? Pam na wnaeth y bwrdd iechyd rywbeth yn ei gylch?'
Ac nid yw'n gwestiwn o faint o ymdrech a wneir i recriwtio. Mae meddygaeth frys yn faes ymarfer sy'n brin o staff. Mae yna heriau ar draws y Deyrnas Unedig. Nid yw hon yn sefyllfa sy'n unigryw i un rhan o Gymru. Ac rwy'n deall pam fod gan bobl deimladau cryf, ac nid wyf yn gofyn i bobl roi eu teimladau o'r neilltu nac osgoi'r heriau sy'n bodoli. Ond rwyf eisiau inni gael dadl onest am yr heriau gwirioneddol rydym yn eu hwynebu a pheidio â cheisio esgus i ni'n hunain nac i neb arall fod yna ateb hawdd—sef na fyddai'r holl heriau'n bodoli pe bai pobl ond yn ymdrechu'n galetach.
Llefarydd Plaid Brexit, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ychydig ddyddiau'n ôl, roeddem yn nodi Diwrnod Amser i Siarad yma yng Nghymru, gyda'r nod o sicrhau ein bod, fel cenedl, yn siarad am ein hiechyd meddwl, ond yn bwysicach, yn helpu i newid agweddau a chael gwared ar y stigma sy'n dal i fodoli ynghylch iechyd meddwl, ac er ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, yn anffodus nid yw'n ddigon.
Mae'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn rhestru Cymru y tu ôl i holl wledydd eraill y DU mewn perthynas â mesurau llesiant meddyliol. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef salwch meddwl, ond eto mae 90 y cant o bobl wedi cael eu trin yn negyddol oherwydd bod ganddynt broblemau iechyd meddwl. Weinidog, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog agweddau mwy cadarnhaol tuag at faterion iechyd meddwl er mwyn cael mwy ohonom i siarad am ein problemau iechyd meddwl ein hunain er mwyn chwalu rhwystrau?
Wel, fel y gwyddoch, rydym yn parhau i ariannu ymgyrch Amser i Newid Cymru yn rhannol. Mae'r ymgyrch honno wedi gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd o ran perswadio pobl i siarad yn fwy agored ac i ddeall heriau iechyd meddwl yn well, oherwydd mae bron bob un ohonom, os nad ydym wedi wynebu her iechyd meddwl ein hunain, yn adnabod rhywun sydd wedi gwneud hynny. Nid yw hon yn her nac yn broblem anghyffredin. Felly, mae'n ymwneud â mwy nag ariannu'r ymgyrch; mae'n ymwneud â'r ffordd rydym yn gwneud dewisiadau a'r ffordd rydym yn ymddwyn.
Ac yn wir, yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, siaradodd Aelodau o bob plaid yn y Siambr, ar yr adeg honno, am eu heriau eu hunain. Ac rwy'n credu bod honno'n foment wirioneddol bwysig i'r lle hwn, y ffaith bod cynrychiolwyr etholedig wedi siarad yn agored am yr her sy'n eu hwynebu, a'u bod wedi mynd ymlaen i gyflawni er gwaethaf hynny. Ac mae yna her yma ynglŷn â chydnabod nad yw cael cyflwr iechyd meddwl yn golygu bod angen i weddill eich bywyd ddod i stop. Nid ydym yn dweud hynny pan fydd pobl yn wynebu heriau iechyd corfforol chwaith, ac mae'n ymwneud â sgwrs lawer mwy agored a chydymdeimladol. Ond newid diwylliannol yw hwn. Mae'r Llywodraeth yn rhan o arwain y newid hwnnw, ond yn sicr nid yw'r atebion i gyd yn ein dwylo ni.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Pan ddaw'n fater o newid agweddau at broblemau iechyd meddwl, mae'n rhaid inni arwain drwy esiampl, ac rydym yn sicr wedi gosod esiampl yma yn y Cynulliad, gydag Aelodau'n siarad yn rhydd ac yn agored am eu problemau iechyd eu hunain. Yn anffodus, nid yw'r enghraifft gadarnhaol rydym wedi'i gosod yn treiddio i'r sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd. Yn ddiweddar, bu'n rhaid i mi gynrychioli etholwr oedrannus a oedd yn wynebu cael ei droi allan gan ei gymdeithas dai oherwydd problemau glanweithdra yn ei gartref. Roedd yn rhaid i fy staff nodi bod gan y gŵr bonheddig hwn broblemau iechyd meddwl difrifol, ynghyd â phroblemau iechyd corfforol eraill, ac nad oedd yn cael unrhyw gymorth. Yn yr achos hwn, diolch byth, ni chafodd y tenant ei droi allan ac mae bellach yn cael y cymorth roedd ei angen. Fodd bynnag, pe na baem wedi ymyrryd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai'r gŵr oedrannus hwn yn cysgu ar y stryd, yn ddigartref. Gwyddom fod problemau iechyd meddwl yn gyffredin ymhlith ein poblogaeth ddigartref. Weinidog, pa ganllawiau y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi i lywodraeth leol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl a sicrhau bod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cael y cymorth y maent ei angen, a bod staff yn cael yr hyfforddiant y maent hwythau hefyd ei angen? Diolch.
Nid un ateb sydd i hyn, oherwydd mewn gwirionedd rydym yn gwybod, ar draws awdurdodau lleol a phartneriaid cymdeithasau tai, fod yna lefel gynyddol o ymwybyddiaeth am heriau iechyd meddwl a straen y mae pobl yn eu hwynebu am amryw o resymau. Mae'n ymwneud â mwy na'r heriau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu, er enghraifft, am newidiadau yn y system budd-daliadau; pryder gwirioneddol. Mae pryderon ariannol yn aml yn arwain at heriau iechyd meddwl. Mae'n ymwneud â mwy na'r boblogaeth ddigartref yn unig; mae pobl sy'n byw mewn cartrefi ac sydd â swyddi hefyd yn wynebu rhai o'r un heriau.
Felly, nid oes un ffordd berffaith o edrych ar y sefyllfa, ond rwy'n credu y byddwch yn gweld bod gan gymdeithasau tai yn arbennig ymgyrch genedlaethol sydd wedi'i strwythuro'n dda lle maent yn ceisio codi ymwybyddiaeth ymysg eu haelodau eu hunain a'r sector landlordiaid yn ehangach am yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae'n sgwrs genedlaethol, mae'n digwydd yma yn y Cynulliad, mewn gwasanaethau cyhoeddus, ond hefyd mewn gweithleoedd. Oherwydd rwy'n credu bod angen inni dderbyn, er cymaint rydym eisiau ei gyflawni, fod angen inni sefyll ochr yn ochr â'r cyhoedd i wneud y math o wahaniaeth y mae'r Aelod yn cyfeirio ato.