Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 12 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:42, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, ychydig ddyddiau'n ôl, roeddem yn nodi Diwrnod Amser i Siarad yma yng Nghymru, gyda'r nod o sicrhau ein bod, fel cenedl, yn siarad am ein hiechyd meddwl, ond yn bwysicach, yn helpu i newid agweddau a chael gwared ar y stigma sy'n dal i fodoli ynghylch iechyd meddwl, ac er ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, yn anffodus nid yw'n ddigon.

Mae'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn rhestru Cymru y tu ôl i holl wledydd eraill y DU mewn perthynas â mesurau llesiant meddyliol. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef salwch meddwl, ond eto mae 90 y cant o bobl wedi cael eu trin yn negyddol oherwydd bod ganddynt broblemau iechyd meddwl. Weinidog, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog agweddau mwy cadarnhaol tuag at faterion iechyd meddwl er mwyn cael mwy ohonom i siarad am ein problemau iechyd meddwl ein hunain er mwyn chwalu rhwystrau?