Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 12 Chwefror 2020.
Ie, rydych yn iawn, mae'r pwynt olaf hwnnw'n un pwysig: mae'r rhaglen sgrinio hon yn achub bywydau. Rydym wedi gwrando ar y dystiolaeth ynglŷn â phwy i'w dargedu o fewn y rhaglen, yn ogystal â'r realiti mai canser ceg y groth yw'r math mwyaf cyffredin o ganser mewn menywod o dan 35 oed. Felly, mae'n ymwneud â'r Llywodraeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r ymgyrch y maent yn ei chynnal, mae hefyd yn ymwneud ag ymgyrchoedd y mae grwpiau eraill yn eu cynnal. Nod ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, #LoveYourCervix, a lansiwyd ym mis Mawrth, yw annog pobl i fanteisio ar y cynllun a lleihau'r embaras a all fod yn rhwystr i rai pobl rhag cael eu sgrinio, ac i atgoffa y gall prawf syml olygu'r gwahaniaeth rhwng bod ag ymwybyddiaeth gynnar o her neu'r realiti y gall peidio â sgrinio arwain at golli bywydau hefyd.