Cyfraddau Sgrinio Ceg y Groth

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 12 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 2:56, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Y llynedd, gwahoddwyd 260,247 o unigolion rhwng 25 a 64 oed i gael eu sgrinio, ac fe gafodd 173,547 o unigolion eu sgrinio yn 2018-19. Weinidog, gwahoddwyd y mwyafrif o fenywod Cymru gan y rhaglen sgrinio i wneud apwyntiad sgrinio, ac mae'r ffigurau hyn yn dangos bod gwasanaeth iechyd gwladol Cymru yn datblygu mewn maes hanfodol ar gyfer iechyd menywod. Ond pa gamau pellach y gellir eu cymryd i gynyddu ymhellach y ganran hanfodol sy'n cael eu sgrinio ac i gynyddu nifer y menywod yng Nghymru sy'n manteisio ar wahoddiadau sgrinio, sydd, fel y gwyddom, yn achub bywydau?