Recriwtio a Hyfforddi Deintyddion

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 12 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:58, 12 Chwefror 2020

Diolch am yr ymateb yna. Y gwir amdani ydy mai diffyg deintyddion ydy'r broblem fwyaf rydym ni'n ei wynebu, dwi'n meddwl, yn hytrach na diffyg arian, yn y cyd-destun yma, o ran darparu gwasanaethau deintyddol yn y gogledd. Dydyn ni ddim wedi bod yn hyfforddi digon o ddeintyddion yng Nghymru, ac mae rhy ychydig o'r deintyddion sydd yn cael eu hyfforddi yn dod o Gymru ac yn bwriadu aros yma.

Mae'r rhain yn swnio'n ddadleuon cyfarwydd iawn, wrth gwrs, achos dyma'r union ddadleuon roeddem ni'n eu cyflwyno dros gyfnod llawer rhy hir o ran yr angen i gael hyfforddi meddygon yn y gogledd. Mi gymerodd yn rhy hir. Rŵan bod yr hyfforddi meddygon yna yn digwydd, mae pobl yn gweld y posibiliadau ac yn sôn yn barod am sefydlu ysgol feddygol lawn, a hefyd yn edrych ymlaen at gael uned hyfforddi deintyddion ym Mangor hefyd i gyd-fynd â'r ysgol feddygol.

Mae hyn yn rhywbeth dwi'n ei groesawu'n fawr. Gofyn ydw i am ymrwymiad gennych chi fel Llywodraeth i sicrhau na fydd yna unrhyw rwystrau o flaen sicrhau bod yr uned yma'n gallu digwydd, a digwydd yn fuan, er mwyn gwneud yn siŵr bod y broblem yma o weithlu deintyddol yn gallu cael pob siawns o gael ei datrys.