Cyfraddau Sgrinio Ceg y Groth

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 12 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:54, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae ffigurau a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo yn dangos bod y lefelau sy'n manteisio ar brawf sgrinio ceg y groth yng Nghymru ychydig dros 73 y cant. Mae hyn ymhell o dan y targed o 80 y cant a osodwyd gan eich Llywodraeth. Fodd bynnag, mae eu hymchwil yn dangos bod 63 y cant o fenywod sydd ag anableddau corfforol wedi methu mynychu profion ceg y groth. Pa gamau rydych yn eu cymryd, Weinidog, i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn ym maes sgrinio ceg y groth i sicrhau bod menywod ag anableddau yn gallu manteisio ar y prawf hwn a allai achub bywydau yng Nghymru?