Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 12 Chwefror 2020.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes yn adolygu mynediad at ystod o'u rhaglenni sgrinio er mwyn ceisio deall y grwpiau sy'n manteisio leiaf ar brofion a deall yr hyn y gallant ei wneud ynglŷn â'r ffordd y darperir y rhaglen, ond mae ganddynt ddiddordeb mawr hefyd yn y treialon hunan-sgrinio sy'n cael eu cynnal yng ngogledd a dwyrain Llundain. Bydd yn arbennig o ddiddorol gweld a yw hynny'n gwneud gwahaniaeth i'r bobl a wahoddir i gymryd rhan neu sydd o leiaf chwe mis yn hwyr yn cael prawf. Felly, mae amryw o gamau'n cael eu cymryd, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU. Ond yng Nghymru, mae gennym stori dda i'w hadrodd am effeithiolrwydd ein rhaglen sgrinio, ac yn benodol, ni yw'r unig wlad yn y DU o hyd i gyflwyno profion feirws papiloma sylfaenol risg uchel fel dull sgrinio sylfaenol. Mae'n brawf mwy cywir a mwy sensitif a fydd yn atal mwy o ganserau. Felly, rydym yn edrych, ac rydym yn parhau i edrych, am feysydd ar gyfer gwella yn hytrach na dim ond gwneud yr hyn rydym wedi'i wneud yn y gorffennol.