Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 12 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr, Lywydd. Cynigiaf y gwelliant hwn gyda chefnogaeth fy nghyd-Aelodau Dawn Bowden, AC Merthyr Tudful a Rhymni, Vikki Howells, AC Cwm Cynon, a Huw Irranca-Davies, Aelod Cynulliad Ogwr. Rwy'n falch o gael cefnogaeth undebau llafur Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sydd y tu ôl i'r gwelliant hwn.
Lywydd, dywedodd Aneurin Bevan fod
Cymdeithas yn dod yn fwy iachus, yn fwy tangnefeddus, ac yn iachach yn ysbrydol, os yw'n gwybod bod ei dinasyddion yn ymwybodol nid yn unig y gallant hwy, ond y gall eu holl gymheiriaid, fanteisio ar y gorau y gall sgiliau meddygol ei ddarparu pan fyddant yn sâl.
Dyna hanfod y gwelliant hwn. Mae sefydlu'r GIG yn un o lwyddiannau mwyaf Llafur. Yn wir, mae'n un o lwyddiannau mwyaf y Cymoedd, gan fod ei egwyddorion sylfaenol yn seiliedig ar werthoedd ein cymunedau yn y Cymoedd. Yng Nghymru, rydym yn amddiffyn y GIG, ei egwyddorion, ei bobl a'i gyllid, rhag grymoedd preifateiddio a chyni. Ond nid yw hynny'n ddigon. Cryfder mawr y GIG yw ei fod yn eiddo i bobl Cymru, a gwarcheidwaid gwaddol Nye Bevan a'r GIG yn unig ydym ni. I'r graddau hynny, rydym yn atebol i'r bobl sydd wedi ein hethol i Senedd Cymru.
Mae gwasanaeth damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn wasanaeth hanfodol a hollbwysig i bobl etholaeth Pontypridd rwy’n eu cynrychioli, ac i'r rheini yng nghymoedd y Rhondda, Cwm Cynon, Merthyr Tudful ac Ogwr. Mae'n wasanaeth bywyd neu farwolaeth ac mae'n wasanaeth nad oes yr un ohonom yn dymuno’i ddefnyddio ond un y cawn gysur o wybod ei fod yno i ni pan fydd ei angen arnom.
Mae'n amlwg i ni fod cleddyf Damocles wedi bygwth yr adran damweiniau ac achosion brys ers chwe blynedd ac wedi tanseilio gallu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fwyfwy i recriwtio'r meddygon ymgynghorol angenrheidiol. Yr wythnos diwethaf, roedd un o fy nghymheiriaid yn San Steffan, Alex Davies-Jones, a minnau'n annerch cyfarfod cyhoeddus llawn dop yn Llantrisant. Roedd miloedd yn rhagor yn gwylio ar-lein, ac roedd yn amlwg o gyfraniad y bwrdd iechyd mai recriwtio sydd wrth wraidd yr argyfwng hwn. Yn wir, roedd llawer yn pendroni a fyddai angen adolygiad pe bai strategaeth recriwtio’r bwrdd iechyd wedi bod yn fwy effeithiol. Felly, er ei bod yn iawn fod y bwrdd iechyd yn wynebu'r argyfwng cynyddol hwn, mae’n rhaid i'w fan cychwyn ymwneud â sut y gellir sicrhau gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn awr ac yn y dyfodol, yn hytrach na beth yw'r ffordd leiaf poenus o gau'r adran.
Mae pum ffaith allweddol yn dod i'r amlwg. Mae rhaglen de Cymru wedi dyddio’n aruthrol ac yn fwyfwy amherthnasol i anghenion pobl Rhondda Cynon Taf. Nid oes gan Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful nac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr gapasiti i amsugno'r ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys a ddarperir ar hyn o bryd yn Llantrisant yn ddiogel. Ceir cynnydd enfawr yn nifer y tai a phoblogaeth yn ardal Taf Elái na chafodd ei ystyried, ac a fydd yn gwaethygu'r sefyllfa hon yn y dyfodol. Nid yw cau'r adran ac agor uned mân anafiadau yn ei lle yn ymarferol. Ac argyfwng recriwtio’r bwrdd iechyd yw’r mater sylfaenol, nid lleoliad yr ysbyty, na’i staff, na’i gyllid.
Yr unig opsiynau hyfyw, yn fy marn i, yw diystyru'r opsiwn o gau adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg; fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn adfer yr opsiwn o gadw uned damweiniau ac achosion brys 24 awr wedi’i staffio’n llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg; cyflwyno cynigion ychwanegol ar gyfer ehangu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau ac ymestyn oriau agor unedau mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Cwm Cynon i leddfu'r pwysau ar y tair adran achosion brys; a rhoi ymgyrch recriwtio drylwyr, gynhwysfawr ar waith ar draws y tri ysbyty.
Dywedodd Nye Bevan y geiriau enwog hefyd:
Bydd y GIG yn para cyhyd â bod pobl ar ôl gyda'r ffydd i ymladd drosto.
A chredaf, wrth gynnig y gwelliant hwn, y gallaf roi sicrwydd i’r Aelodau fod gan bobl Cymoedd de Cymru, a gyfrannodd gymaint at sefydlu’r GIG, y ffydd i ymladd dros y GIG a chadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Diolch, Lywydd.