Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 12 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle yn y ddadl bwysig hon heddiw i dynnu sylw at sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws adrannau i geisio sicrhau y gall pawb gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, p'un a ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd ai peidio. Cydnabyddwn fod mwy o wasanaethau, fel y dywedodd Rhun wrth gyflwyno'r ddadl, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn symud ar-lein a bod pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol mewn perygl o gael eu gadael ar ôl mewn cymdeithas. Fel y dywedodd Mike Hedges, nid oes gan bawb ffôn clyfar ac wrth gwrs, fel y dywedwyd hefyd, mae rhai pobl yn hoffi siarad â phobl. Gall pobl nad ydynt yn defnyddio technoleg ddigidol fethu cael gwasanaethau hanfodol, cyfleoedd swyddi a gwelliannau i'w hiechyd. Er mwyn bod yn Gymru deg, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn ei haraith, rhaid inni sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau cyhoeddus i bawb.
Pobl hŷn yw'r ddemograffeg fwyaf o bobl nad ydynt ar-lein. Fodd bynnag, mae grwpiau eraill mewn cymdeithas wedi cael eu crybwyll yma heddiw hefyd: soniwyd am bobl anabl; soniodd David Rowlands am bobl ddigartref. Ond yn sicr, pobl hŷn yw'r grŵp mwyaf. Mae 22 y cant o'r rhai dros 50 oed a—ffigur sydd eisoes wedi'i ddefnyddio—51 y cant o'r rhai sydd dros 75 oed wedi'u hallgáu'n ddigidol.
Yn dilyn cytundeb y Cabinet yr wythnos diwethaf, byddwn yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ddechrau'r gwanwyn. Rwy'n meddwl y gallai'r strategaeth honno ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ddatblygu llawer o'r materion a llawer o'r argymhellion sydd wedi codi yn y ddadl hon heddiw. Y strategaeth hon yw ymateb Llywodraeth Cymru i oblygiadau ehangach newid demograffig i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, ond hefyd i'r bobl hynaf heddiw. Bydd llwyddiant y strategaeth hon yn dibynnu ar weithredu trawslywodraethol ar ystod o faterion pwysig, a fydd yn cynnwys cynhwysiant digidol wrth gwrs.
Ein gweledigaeth yw Cymru sy'n ystyriol o oedran ac sy'n helpu pobl o bob oed i fyw a heneiddio'n dda; Cymru lle gall unigolion fod yn gyfrifol am eu hiechyd a'u lles eu hunain, gan deimlo'n hyderus ar yr un pryd y bydd cymorth ar gael ac yn hawdd dod o hyd iddo os oes angen. Rydym eisoes yn rhoi camau ar waith i gyflawni'r weledigaeth hon. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau £8 miliwn o gyllid grant i'r gronfa gynghori sengl eleni. Bydd gwasanaethau a ariennir yn estyn yn ddwfn i mewn i gymunedau i ymgysylltu ag aelwydydd sy'n tueddu i beidio â defnyddio gwasanaethau cynghori traddodiadol. Darperir y gwasanaethau hefyd o leoliadau sy'n ganolog i gymunedau lleol, megis meddygfeydd, fel y gall pobl gael cyngor wyneb yn wyneb drwy'r arian hwnnw ar gyfer gwasanaethau cynghori.
Rwy'n falch iawn fod y cynnig heddiw yn sôn am waith Trafnidiaeth Cymru i gynnig dewisiadau amgen yn lle gwasanaethau ar-lein i bobl sy'n adnewyddu eu pasys bws. Er bod y rhai sy'n gwneud cais yn cael eu hannog i ddefnyddio'r porth ar-lein am ei fod yn haws ac yn gyflymach, fel y mae llawer o bobl wedi dweud yma heddiw, mae'n bosibl gwneud ceisiadau ar bapur hefyd, fel y dywedodd Mike Hedges, rwy'n credu, ac mae cymorth wyneb yn wyneb ar gael. Adroddwyd bod dros 25,000 o geisiadau papur wedi dod i law. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol fod llawer o bobl wedi meddwl bod yn rhaid iddynt ei wneud ar-lein yn unig, ac yn sicr daeth llawer o bobl i fy nghymorthfeydd cyngor lle gwnaethom ni, yn ogystal â llawer o rai eraill yn yr ystafell hon, eu helpu i lenwi'r ceisiadau ar-lein. [Torri ar draws.]