– Senedd Cymru am 4:13 pm ar 12 Chwefror 2020.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): gwasanaethau cyhoeddus ar-lein ac all-lein, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gyflwyno'r cynnig. Rhun.
Cynnig NDM7263 Rhun ap Iorwerth, Angela Burns, Janet Finch-Saunders, Llyr Gruffydd, Siân Gwenllian, Neil Hamilton, Mike Hedges, Vikki Howells, Mark Isherwood, Delyth Jewell, Helen Mary Jones, Dai Lloyd
Cefnogwyd gan Suzy Davies, Huw Irranca-Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod mwy a mwy o wasanaethau ar gael ar-lein yn unig.
2. Yn cydnabod nad oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd.
3. Yn cydnabod nad yw pawb yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r rhyngrwyd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod dewisiadau all-lein ar gael o ran gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, megis gyda'r system adnewyddu tocynnau bws; a
b) trafod gyda banciau, busnesau a sefydliadau eraill i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu hynysu os mai dim ond gwasanaethau ar-lein a gynigir.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Pwyllgor Busnes am ganiatáu i fi gael cyflwyno'r ddadl yma heddiw yma. Diolch hefyd i'r 13 o Aelodau eraill a oedd yn barod i'w chyd-gyflwyno efo fi neu ei chefnogi. Rydw i'n meddwl bod y nifer yna'n dangos bod hwn yn fater sydd wedi taro deuddeg efo aelodaeth y Senedd yma'n gyffredinol.
Nodi ydym ni yn y ddadl yma y nifer cynyddol o wasanaethau sydd ar gael ar-lein yn unig, tra bod llawer o bobl yn dal unai heb fynediad at y rhyngrwyd—neu heb fynediad hawdd, yn sicr—neu sydd ddim yn gyfforddus yn defnyddio'r we am ba bynnag reswm. Ac rydym ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru gamu i mewn i helpu. Nid rhyw agwedd hen ffasiwn ydy hyn. Nid ymwrthod â thechnoleg newydd ydw i; dwi'n gyfforddus iawn, fy hun, yn defnyddio gwasanaethau ar-lein, a fel cymaint o bobl, mae technoleg o'r math yma wedi gwneud fy mywyd i, yn sicr, yn haws mewn llawer ffordd. Ond, fel mae mwy a mwy o wasanaethau yn mynd ar-lein, o wasanaethau bancio, post, adnewyddu tocyn bws, llysoedd, hyd yn oed, mae mwy a mwy o bobl mewn peryg o golli allan, a dwi'n gweld o waith achos yn fy swyddfa i bod hyn yn gallu bod yn boen meddwl go iawn i rai, yn enwedig pobl hŷn.
Mae diffyg mynediad at y rhyngrwyd yn broblem i rai, fel y dywedais i, nid yn unig drwy broblemau band llydan—rydych chi wedi fy nghlywed i'n sôn amdanyn nhw droeon, rydw i'n siŵr, ynghyd â nifer o Aelodau eraill—ond hefyd y ffaith bod yna lawer o bobl, eto pobl hŷn yn bennaf, heb gyfrifiaduron na ffonau clyfar. Mae swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn yn dweud wrthyf fi fod gan bron i 30 y cant o bobl rhwng 50 a 64 oed a 65 i 74 ddim mynediad i'r rhyngrwyd. Mae hynny'n mynd i fyny bron i dros 50 y cant ymhlith pobl dros 75 oed.
Ond nid dim ond mynediad at y rhyngrwyd sydd yn rhwystro pobl, ond y ffaith bod nifer o bobl hŷn ddim yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r rhyngrwyd, hyd yn oed y rhai sydd efallai'n teimlo'n gyfforddus efo e-bost neu Facebook. Efallai eu bod nhw'n dal i fod yn nerfus pan mae'n dod i wneud cais am rywbeth swyddogol fel tocyn bws neu ymdrin â gwasanaethau ariannol ar y we.
Oes, mae yna waith wedi cael ei wneud i gynyddu cynhwysiant digidol, hybu sgiliau pobl yn eu cymunedau ac ati, ond mae yna lawer o bobl hŷn yn enwedig yn mynd ati i ddewis peidio â mynd ar-lein, a dylen nhw ddim colli allan ar gyngor neu wasanaethau hanfodol o'r herwydd. Mae pobl sydd ddim ar-lein hefyd yn aml yn colli allan ar well fargeinion pan fydd hi'n dod i siopa neu wasanaethau fel newid darparwr trydan neu nwy.
Felly, beth all y Llywodraeth ei wneud? Dwi'n galw ar y Llywodraeth i wneud dau beth, mewn difri, i gynorthwyo pobl rhag teimlo'n ynysig a rhag colli allan. Y cyntaf ydy edrych ar y gwasanaethau cyhoeddus y maen nhw eu hunain yn eu cynnig. Yr enghraifft ddiweddaraf, yr amlycaf, ydy penderfyniad Llywodraeth Cymru i wneud y system gais am docynnau bws am ddim yn un ar-lein yn unig, yn enwedig o ystyried pwy oedd y gynulleidfa darged, mi oedd hwn yn ddewis annoeth iawn, dwi'n credu. Mi ddaeth hi'n amlwg iawn yn fuan iawn drwy sgwrsio efo etholwyr fod pobl yn poeni'n fawr am orfod gwneud hyn ar-lein, a llawer ddim yn gwybod lle i ddechrau.
Mi wnaeth fy swyddfa i felly gynnig y byddem ni'n helpu pobl i wneud ceisiadau tocyn bws ar-lein, gan hysbysebu hynny drwy boster yn y ffenest, poster yn y swyddfa bost ac, wrth gwrs, lledaenu'r gair ar lafar. Ers mis Medi, mae fy swyddfa i wedi delio efo dros 300 o geisiadau am gerdyn bws newydd drwy wefan Trafnidiaeth Cymru. Tri chant o bobl oedd un ai ddim yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud y cais eu hunain, neu heb fynediad at ryngrwyd i wneud hynny heblaw drwy ddod at ein swyddfa ni.
Buon ni'n clywed straeon am bobl yn colli cwsg yn poeni sut oedden nhw'n mynd i adnewyddu eu tocyn am eu bod nhw mor ddibynnol ar fysus. Rydyn ni dal rŵan yn cael pobl yn dod atom ni i ddweud eu bod nhw wedi trio gwneud cais ar bapur ond bod yna oedi mawr wedi bod efo hynny, a rhyw deimlad bod y ceisiadau papur wedi mynd i gefn y ciw, a hynny pan oedd y system ar-lein yn 'crash-o' drwy'r amser hyd yn oed ar y dechrau.
Mi oedd etholwyr yn dweud wrthym ni hefyd eu bod nhw'n cael trafferth dod o hyd i gymorth wyneb yn wyneb mewn llefydd eraill er mwyn gwneud ceisiadau. Mi gafodd nifer eu cyfeirio atom ni gan lyfrgelloedd yn Ynys Môn, gan y cyngor ac ati. Mi oedden ni'n hapus iawn i helpu etholwyr, ond mae'n rhaid cwestiynu a oedd y ddarpariaeth yna gan Trafnidiaeth Cymru yn briodol ac a oedd y cymorth roedden nhw'n dweud oedd ar gael i gynorthwyo pobl yn ddigonol.
Mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth ar y tocyn bws i bobl hŷn neu bydden nhw ddim yn cynnig y gwasanaeth am ddim iddyn nhw, ac rydyn ni'n cefnogi hynny, wrth gwrs. Mae o'n bwysig iawn, iawn. Felly doedd o ddim yn gwneud synnwyr wedyn i fi eu bod nhw wedi rhoi'r rhwystr yma i'r broses hollbwysig o adnewyddu tocynnau.
I roi enghraifft arall ichi yn fy etholaeth i sy'n ymwneud â thrafnidiaeth: mi oedd etholwr yn mynd i orsaf rheilffordd ym mis Rhagfyr i ofyn am gopi papur o'r amserlen drenau newydd. Ond yr unig beth oedd ar gael i deithwyr oedd taflen yn cynghori bod yr amserlen yn newid ac i fynd ar y we. Dydy hynny ddim yn dderbyniol.
Felly, mi fuaswn i'n licio ymrwymiad gan y Llywodraeth eu bod nhw'n edrych ar sicrhau bod dewisiadau traddodiadol, dewisiadau all-lein, os liciwch chi, ar gael lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnig ar-lein, ac yn enwedig—does prin angen imi ddweud hyn—pan fydd y gwasanaethau hynny wedi eu targedu at grwpiau fel pobl hŷn neu rai sydd efo anawsterau dysgu sy'n wynebu problemau tebyg.
Yr ail beth dwi'n galw amdano fo ydy i'r Llywodraeth roi pwysau ar drydydd partïon, ar y sector breifat, er enghraifft, i sicrhau nad ydy cwsmeriaid yn cael eu hynysu, ac nad ydy cwsmeriaid yn dod dan anfantais os mai dim ond gwasanaethau ar-lein sy'n cael eu cynnig. Yr enghreifftiau mwyaf amlwg, am wn i, ydy gwasanaethau bancio; dwi'n siŵr bod yna ddim un etholaeth—cywirwch fi os dwi'n anghywir—sydd ddim wedi cael ei heffeithio gan ganghennau banc yn cau. Mae 63 y cant o ganghennau yn Ynys Môn wedi cau ers Ionawr 2015, a dim ond chwe changen ar ôl ar draws yr ynys i gyd. Mi glywch chi fanc yn dweud wrth gau, 'Peidiwch â phoeni—mi all pobl ddefnyddio'r gangen yn y dref nesaf', ond yn cau honno yn ddiweddarach hefyd. Ar ben hynny, mae gennych chi sefyllfa fel gwelsom ni gan Barclays yn dweud, 'Wel, chaiff ein cwsmeriaid ni ddim tynnu arian allan yn y post, chwaith.' Roeddwn yn falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i roi pwysau arnyn nhw i sgrapio'r syniad hwnnw.
Ond mae o'n dangos, onid ydy, ddiffyg ymrwymiad y banciau mawr i feddwl am eu cwsmeriaid, yn enwedig y rhai hŷn, ac yn benodol, byddwn i'n dweud, mewn ardaloedd gwledig? Ydw, dwi yn bancio ar-lein, ac, ydw, dwi yn sylweddoli bod hynny'n cryfhau achos y banciau dros gau. Dydw i ddim yn ddall i newid diwylliant, newid arferion y boblogaeth, a beth ydy sgileffeithiau hynny. Ond mae yna bobl sydd ddim eisiau bancio ar-lein. Dydyn nhw ddim yn ymddiried mewn bancio ar-lein, achos ei fod o'n ormod o newid diwylliant o'r hyn y maen nhw wedi arfer efo fo. Wnawn nhw ddim newid, ac maen nhw'n colli allan.
Dwi'n cofio pan es i i ymweld â chymdeithas adeiladu Yorkshire yn Llangefni pan gyhoeddwyd bod honno yn cau, ac roedd y staff yn eu dagrau yn llythrennol yn disgrifio wrthyf i'r cwsmeriaid hynny a oedd yn dod i mewn i nôl eu harian, ac yn derbyn nid un taliad mewn un amlen, ond 'Dyma chi eich arian rhent, Mrs Jones. Dyma chi eich arian ar gyfer bwyd.' Mae hwnna'n wasanaeth personol y bydd byth yn cael ei ddyblygu ar-lein, ac eithrio digidol, digital exclusion, ydy colli'r math yna o beth. Twf gwasanaethau digidol yn lleihau gwasanaethau traddodiadol a phobl sydd heb fynediad atyn nhw yn cael eu heithrio.
Enghraifft arall yn fy etholaeth yn ddiweddar oedd efo'r gwasanaeth nwy: etholwraig 92 oed yn derbyn llythyr gan British Gas yn gofyn iddi drefnu boiler maintenance check, a'i chynghori i drefnu apwyntiad ar-lein drwy'r ap. Rŵan, mi oedd hi'n poeni'n arw ar y pwynt yma, yn poeni bod yna broblem efo'i boeler hi—ac mae problem efo boeler yn gallu lladd pobl—ac yn poeni bod yna broblem efo'i boeler a hithau'n methu gwneud apwyntiad. Felly, mi ddaeth hi at fy swyddfa i, ac mi wnaethon ni gysylltu efo British Gas i wneud apwyntiad iddi hi. Eu hymateb nhw i ni oedd:
Nid yw ein llythyrau'n darparu rhifau ffôn mwyach ac maent yn cyfeirio cwsmeriaid yn uniongyrchol at ein system archebu ar-lein. Fodd bynnag, mae'r rhifau ffôn i gwsmeriaid gysylltu â ni bob amser yn cael eu darparu ar ein telerau a'n hamodau ni, a adolygir bob tua 18 mis a'u hanfon at bob cwsmer.
Ond mae'n teimlo yn annigonol iawn, rywsut, i fi, i ddisgwyl bod pobl yn cadw gafael ar y terms and conditions pan mai mater bach ydy parhau i roi'r rhifau cyswllt ar yr holl lythyrau. Achos mae'r gwasanaeth hwn yn bodoli.
Felly, dwi'n galw ar y Llywodraeth i drafod efo banciau, busnesau, gwasanaethau a sefydliadau eraill i sicrhau nad ydy pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gadael allan ohoni os mai dim ond gwasanaethau ar-lein sy'n cael eu cynnig. Fel dywedais i, dwi'n ddiolchgar iawn fod yna gymaint wedi cefnogi'r cynnig yma ymlaen llaw, ac mae'n brawf, dwi'n meddwl, fod hwn yn fater o bwys. Dwi'n edrych ymlaen i glywed eich cyfraniadau, nifer ohonoch chi, ac wrth gwrs ymateb y Llywodraeth hefyd.
Rwy'n falch iawn o gefnogi'r ddadl hon, a diolch i Rhun ap Iorwerth am ei chyflwyno. Mae'n fater sy'n bwysig iawn i lawer o fy etholwyr, gan gynnwys pobl rwy'n cymdeithasu â hwy. Mae llawer o bobl nad ydynt ar eu—. Fel fy ngwraig yn fy nghyhuddo o fod ar fy ffôn clyfar drwy'r amser—yn wir, mae yna lawer o bobl nad oes ganddynt ffôn clyfar.
O edrych arno o safbwynt sefydliad, beth sydd o'i le ar ddarparu gwasanaethau ar-lein? Mae'n arbed amser prosesu, mae'n arbed staff, mae'n arbed arian, mae'n gwirio bod pob rhan o'r ffurflen wedi'i llenwi, oherwydd os nad ydych yn llenwi rhan o'r ffurflen mae'n rhoi dot bach coch i chi ac ni fydd yn gadael i chi barhau i'r rhan nesaf. Rwy'n siŵr fod pobl eraill wedi cael y broblem honno, sydd i'w gweld yn fy wynebu gyda'r rhan fwyaf o'r ffurflenni ar-lein rwy'n eu llenwi. Mae'n gwirio bod pob rhan o'r ffurflen wedi'i chwblhau, ond mae hefyd yn sicrhau bod popeth yn ddilys. Felly, rydych yn rhoi eich dyddiad yn y fformat cywir a gallwch groesgyfeirio meysydd allweddol. Mae'n darparu ymateb cyflymach i'r unigolyn. Beth sydd ddim i'w hoffi?
Ond rwy'n credu bod hon yn enghraifft o'r pellter rhwng pobl a llywodraethau a sefydliadau mawr. Ac a gaf fi ddweud rhywbeth a allai godi arswyd ar nifer fawr o bobl sy'n rhedeg sefydliadau mawr ac uwch reolwyr mewn llawer o'r sector cyhoeddus? Mae yna lawer o bobl nad ydynt yn berchen ar ffôn clyfar, iPad na chyfrifiadur. Mae llawer o rai eraill, am lawer o resymau—rhai'n ymwneud ag iechyd—nad ydynt yn hapus i ddefnyddio offer TGCh, hyd yn oed pan fydd wedi'i addasu ar gyfer anabledd. Ac rwy'n gwybod y gallwch gael cyffyrddell i'w roi ar ei ben, ac fe ddywedaf wrthych chi beth—pob lwc os ydych chi'n chwilio am un. Ond nid ydynt yn hapus ac maent yn hoffi—. Mae yna grŵp arall o bobl sy'n hoffi siarad â phobl. Maent yn hoffi mynd ar ffôn a siarad â phobl. Dyna'r ffordd ail orau o gysylltu â rhywun. Y ffordd orau o gysylltu â rhywun mewn gwirionedd yw siarad â hwy wyneb yn wyneb, a arferai fod yn ffordd o ymdrin â sefydliadau sydd ar gael yn fwyfwy anfynych ar hyn o bryd, mae'n ymddangos.
A soniodd Rhun ap Iorwerth am fanciau. Arferai pobl fynd i mewn i'r banc i gael pob math o drafodaethau, ac roedd yn rhan o'u bywydau cymdeithasol hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth—. Unwaith eto, soniasom am ynysu ddoe—rhan o broblem ynysu yw nad yw pobl yn cael y cyfarfodydd cymunedol hyn mewn swyddfeydd post, banciau a lleoedd eraill.
Gadewch i ni edrych ar y cais i adnewyddu pàs bws. Mae staff fy swyddfa a staff llyfrgelloedd lleol wedi treulio llawer iawn o amser yn helpu pobl i wneud cais ar-lein. Rwyf wedi siarad â llawer o bobl hefyd sydd wedi gorfod gofyn i blant, wyrion neu wyresau neu berthnasau eraill i'w helpu neu i'w wneud ar eu rhan.
A gaf fi roi rhywfaint o glod i Lywodraeth Cymru? Mae gan Trafnidiaeth Cymru ffurflen bapur hefyd, ac roedd honno ar gael ar gyfer gwneud cais am y pàs bws newydd. Nid ar-lein yn unig y gellid dod o hyd iddi. Ac a gaf fi ddweud, mae llawer iawn o bethau rwy'n ymdrin â hwy sydd ond i'w cael ar-lein yn unig, neu nid yn unig ar-lein yn unig—'Defnyddiwch yr ap.' Mewn ffordd, mae hynny'n dweud ei fod gan bawb ar eu ffôn. Mae'r system fudd-daliadau bron yn gyfan gwbl ar-lein. Mae'n gyfan gwbl ar-lein—darperir y wybodaeth ar-lein neu mae'n rhaid i geisiadau fod ar-lein. Fan lleiaf, dylai fersiwn bapur o bob ffurflen Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan fod ar gael i bobl os ydynt am ei chael, ac mae llawer o bobl yn teimlo'n llawer hapusach yn llenwi ffurflenni papur.
Dechreuodd Rhun ap Iorwerth siarad amdano—a gaf innau droi hefyd at y sector preifat? Mae budd ariannol i ni os byddwn yn ymdrin â chwmnïau cyfleustodau ar-lein. Maent yn tynnu rhywfaint o arian oddi ar ein biliau am eu cael ar-lein a thalu drwy ddebyd uniongyrchol a'r holl bethau hynny. Wrth gwrs, cawn y budd, ond mae'r gwrthwyneb yn wir—mae cosb ariannol am beidio ag ymdrin â hwy ar-lein. Dyna un arall o'r ffyrdd niferus lle mae'n ddrutach i fod yn dlawd, gan fod y bobl nad ydynt yn ymdrin â chwmnïau ar-lein yn fwy tebygol o fod yn dlawd na phobl sydd â biliau tanwydd dwbl debyd uniongyrchol ar-lein, sef y rhan fwyaf ohonom yma, rwy'n siŵr, ond mae llawer iawn o fy etholwyr heb y pethau hynny ac maent yn talu pris am hynny.
Yn olaf, rwy'n meddwl y dylai fod dewis i gael ffurflen bapur ar gyfer pob proses ar-lein. Bydd rhai pobl am ei wneud ar-lein—mae'n well gennyf fi wneud pethau ar-lein—ond byddai llawer o bobl yn hoffi defnyddio beiro a phapur. Yn wir, byddai unrhyw un sydd wedi gweld fy llawysgrifen yn sylweddoli'n union pam ei bod hi'n well gennyf ei wneud ar-lein, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig i bobl gael y dewis a gadewch inni sicrhau y gall pawb gael dull papur o'i wneud a pheidio â thalu cosb ariannol am wneud hynny.
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Mike, a chydag apiau yn arbennig—os nad oes gennyf bâr o'r rhain gyda mi, waeth i mi beidio â bod ag ap o gwbl.
Mae'n rhaid i mi ddweud, mae bron i chwe blynedd mewn gwirionedd ers i mi gyflwyno dadl fer ar fater tebyg iawn, ac ar ddiwedd hyn, hoffwn glywed gan y Dirprwy Weinidog beth sydd wedi newid yn ei barn hi, yn enwedig ar gwestiwn cyntaf Rhun ap Iorwerth ynglŷn â'r hyn y gall ein Llywodraeth ei wneud o fewn ei phwerau i liniaru penderfyniadau gan rai sefydliadau mawr i roi'r gorau i gyfathrebu â chwsmeriaid drwy'r post, neu godi tâl ar gwsmeriaid, fel y soniodd Mike, am y fraint o dderbyn eu post.
Mae cael eich biliau, eich datganiadau a gwybodaeth angenrheidiol yn y bôn, drwy'r post, gan ganiatáu ceisiadau papur ar gyfer gwahanol wasanaethau yn hytrach na defnyddio'r we—. Wrth gwrs, gallai fod hyn yn fater syml o ddewis i rai pobl, ond i nifer ryfeddol o fawr o bobl nid yw'n ddewis o gwbl, ac ni ddylid eu cosbi am hynny. Dyna yw safbwynt yr ymgyrch 'Keep Me Posted'—mae'n ymgyrch ledled y DU—sydd wedi bod yn gweithio i dynnu sylw at y gwahaniaethu hwn ers mis Awst 2013. A hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am ddal ati i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am y mater.
Ers 2013, mae nifer yr oedolion yn y DU sydd heb fynediad at y rhyngrwyd wedi gostwng o 9 miliwn o bobl i ychydig dros 5 miliwn o bobl ac yng Nghymru, mae'n debyg, mae bron i 90 y cant o oedolion bellach yn dweud eu bod wedi defnyddio'r rhyngrwyd yn ystod y flwyddyn. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu bod ganddynt eu cyfrifiadur eu hunain, ond mae'n edrych fel ymchwydd, onid yw? Yn sydyn mae'n edrych yn debyg ein bod ni'n genedl sy'n gyfarwydd iawn â defnyddio'r cyfrifiadur. Rwy'n meddwl tybed faint o'r arolwg hwnnw a wnaethpwyd ar y rhyngrwyd, oherwydd mae nifer yr oedolion yn y DU sy'n cyfaddef nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth am y rhyngrwyd i'w ddefnyddio'n hyderus—cwestiwn gwahanol—yn dal i fod yn ystyfnig o uchel ar 16 miliwn. Felly, er bod mwy o bobl yn mynd ar y rhyngrwyd, nid yw'n golygu eu bod yn teimlo'n ddiogel iawn yn ei ddefnyddio. Mae'r ffaith nad yw'r ffigur hwnnw wedi newid mewn chwe blynedd yn siarad cyfrolau, rwy'n credu.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod mwy o bobl hŷn yn defnyddio'r rhyngrwyd. Efallai mai'r rheswm am hynny yw bod nifer ohonom wedi symud o un categori oedran ystadegol i'r llall, gan fynd â'n sgiliau ifanc gyda ni. Eto i gyd, nid yw nifer y bobl dros 75 oed sy'n defnyddio'r rhyngrwyd wedi newid fawr ddim o gwbl, ac os yw fy mhrofiad teuluol fy hun yn brawf o unrhyw beth, gall dementia eich amddifadu o unrhyw sgiliau TG a arferai fod gennych, hyd yn oed yn ei gamau cynnar.
Yr wythnos hon, siaradais â chynrychiolwyr Lloyds Bank, sy'n cau eu cangen yn y Mwmbwls ym mis Mai—ie, un o'r llu, Rhun. Mae 60 y cant o'u cwsmeriaid dros 55 oed. Mae'n nifer eithaf uchel. Bydd llawer ohonynt yn gymwys i gael pàs bws am ddim i gyrraedd y gangen yng nghanol y ddinas, ac wrth gwrs mae'n rhaid iddynt fynd ar-lein i gael y pasys bws hynny. Felly, mae rhai ohonynt, do, wedi ildio ac wedi troi at fancio ar y rhyngrwyd, ond mae 22 y cant—sef bron chwarter—o holl gwsmeriaid y gangen honno dros 75 oed. Felly, dyma'r bobl sy'n cael eu targedu gan sgamwyr. Ac wrth gwrs, nid yw banciau'n tueddu i ddefnyddio e-bost ar gyfer eu cwsmeriaid, ond ceisiwch chi ddweud hynny wrth rywun llawer hŷn sydd naill ai'n newydd i fancio ar-lein neu'n colli eu gallu cyfrifiadurol. Mae dau y cant o'r holl dwyll yn y wlad hon yn digwydd drwy'r post; mae 70 y cant ohono'n digwydd ar-lein. Felly, nid sôn yn unig am wasanaeth i'r rhai sydd heb unrhyw ddewis ond defnyddio papur ydym ni, ond am y rhai sy'n ddiogel ac yn hyderus i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein. Rwy'n credu'n ddiffuant, i rai pobl, fod ymddiried yn y postmon yn dal i fod yn llawer gwell nag ymddiried yn eich cyfrinair.
Hyd yn oed pan fydd gan bobl fynediad at y rhyngrwyd, efallai y bydd yn well ganddynt bapur—rwy'n un ohonynt mewn gwirionedd. Mae rhwng 39 y cant a 42 y cant o bobl yn cyfaddef eu bod yn aml yn anghofio gwirio eu datganiadau ar-lein, yn ei chael hi'n haws cadw golwg ar eu sefyllfa ariannol os oes ganddynt bethau wedi'u hargraffu, ac yn ofni colli taliadau os ydynt yn dibynnu ar wybodaeth ar-lein yn unig. Felly, mae gan bobl lefelau uwch o ddyled os ydynt yn cyflawni eu materion ariannol ar-lein yn unig.
Mae rheolau diwydrwydd dyladwy yn golygu bod pobl yn cael anawsterau wrth geisio profi pwy ydynt. Mae rhai sefydliadau ariannol a hyd yn oed adrannau'r Llywodraeth yn mynnu cael datganiadau gwreiddiol. Wel, weithiau ni fydd gennych ddatganiad gwreiddiol. Byddwn hefyd yn cael problemau gyda diffyg llwybr papur os ydych yn arfer atwrneiaeth neu'n nodi'r asedau yn ystâd rhywun ymadawedig—ac mae gennyf brofiad personol o hyn. Dim cyfrinair? Dim mynediad. Efallai nad ydych yn gwybod bod y cyfrifon hyn yn bodoli hyd yn oed.
Un ystyriaeth derfynol, ac mae hyn ar gyfer busnesau bach: hyd yn oed os oes ganddynt fand eang da—ac fe sonioch chi am hyn mewn gwirionedd Mike—os ydynt yn cyflawni eu materion ariannol ar-lein, efallai y byddant yn dal i gyflogi pobl ag anghenion cymorth, ac weithiau, nid yw'r pecyn hwnnw'n golygu bod pobl yn teimlo'n hyderus yn defnyddio'r rhyngrwyd.
Yng Nghanada, i orffen, rhaid i gwmnïau telathrebu eithrio rhai dros 65 oed, pobl anabl a rhai sydd heb gysylltiad band eang yn y cartref rhag cael eu hamddifadu o gyfathrebiadau drwy'r post. Gall y Ffrancwyr fynnu biliau papur am ddim. Yn Sbaen, gallant gael eu holl filiau drwy'r post am ddim, oni bai eu bod wedi cael cais penodol drwy e-bost, ac ni chodir tâl ar y rhai sydd eisoes yn derbyn neu'n newid i filiau papur.
Rwy'n sylweddoli nad yw'r holl ddulliau yn ein dwylo ni yma, ond mae'r Cynulliad—rwyf am orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd—yn falch o'i ddeddfau seiliedig ar hawliau ac mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno'i chontract economaidd gyda diben cymdeithasol yn ganolog iddo. Felly, beth am sicrhau bod dewis papur yn rhan o'r contract hwnnw? Diolch.
Efallai y dylwn ddechrau drwy gydnabod y gwaith aruthrol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i sicrhau bod bron pob un ohonom yng Nghymru yn gallu cael mynediad at gyfleusterau rhyngrwyd ac i sicrhau'r Gweinidog nad yw hyn mewn unrhyw fodd yn gondemniad o'ch ymdrechion yn y maes.
I bob un ohonom, mae'r newid ym myd cyfathrebu wedi newid ein ffordd o fyw am byth. I'r rhan fwyaf ohonom, mae wedi bod yn newid real a chadarnhaol. Gallwn gyfathrebu'n gyflym, boed drwy lais, testun neu gyfryngau cymdeithasol, a'r norm bellach yw cerdded i mewn i ystafell a gweld pawb yn syllu ar sgrin ddigidol.
Mae byd masnach wedi mynd ati'n gyflym i ymelwa ar y datblygiadau arloesol hyn, a hynny'n aml ar draul pob un ohonom. Mae pethau fel cau banciau'r stryd fawr a oedd unwaith mor gyfarwydd, a thwf enfawr siopa ar-lein, gan arwain at golli siopau ar y stryd fawr, i gyd yn cyfrannu at newid cywair a phanorama ein strydoedd mawr. Ond i rai, yn aml y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, mae'r twf cynyddol hwn mewn gwasanaethau ar-lein yn effeithio llawer mwy ar eu bywydau. Yn bell o gynnig mwy o fynediad, mae'n aml yn golygu mynediad cyfyngedig neu ddim mynediad o gwbl hyd yn oed.
Mae effaith y diffyg mynediad hwn i'w theimlo fwyaf yn yr angen i gysylltu ag awdurdodau neu fusnesau perthnasol. Gallai'r rheidrwydd i gael mynediad fod ar gyfer pethau mor hanfodol â budd-daliadau, ymholiadau treth, cyfleustodau ynni—hyd yn oed mynediad at feddygfeydd a cheisiadau am swyddi. Gwneir defnydd cynyddol o gyfathrebu digidol ar gyfer hysbysiadau awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae ysgolion hefyd yn defnyddio'r rhyngrwyd i hwyluso gwaith cartref, ac ati. Mae hyn yn effeithio ar blant o deuluoedd tlotach, lle mae'n bosibl y bydd rhaid rhannu dyfeisiau digidol neu'n waeth byth, nad ydynt ar gael o gwbl.
Felly, ynysu digidol yw pan fydd pobl mewn sefyllfa lle na allant gael mynediad at y rhyngrwyd neu gyfryngau digidol a dyfeisiau mor hawdd â phobl eraill, neu ddim o gwbl hyd yn oed. Ceir llawer o ffactorau a all effeithio ar yr anallu hwn i gysylltu. Efallai na allant fforddio'r dyfeisiau angenrheidiol, megis cyfrifiaduron, gliniaduron, ffonau clyfar hyd yn oed, ac yn hollbwysig, gall hefyd fod yn ddiffyg dealltwriaeth ynglŷn â sut i ddefnyddio dyfeisiau o'r fath.
Nid yw dros draean o'r bobl yng Nghymru sy'n 50 oed neu'n hŷn yn defnyddio gwasanaethau ar-lein o gwbl. Fel y crybwyllwyd gan Mike Hedges, mae pobl nad ydynt yn defnyddio technoleg ddigidol, yn enwedig yr henoed, yn colli cyfle yn gynyddol i gael budd-daliadau ac arbedion ariannol o ganlyniad i'r ffaith eu bod yn parhau i ddefnyddio dulliau traddodiadol o fancio a masnachu. Mae ymchwil yn awgrymu bod pobl hŷn yn talu pris uchel am beidio â defnyddio gwasanaethau digidol. Cyfrifwyd bod aelwydydd all-lein yn colli hyd at £560 y flwyddyn o arbedion drwy beidio â siopa a thalu biliau ar-lein.
Gwelwn yn awr fod nifer o gwmnïau'n cael gwared yn raddol ar lythyrau, rhifau ffôn a hyd yn oed yn rhoi'r gorau i bresenoldeb mewn adeiladau ffisegol, gan symud yn gyfan gwbl at wasanaethau a rhyngweithio â chwsmeriaid yn ddigidol yn unig. Mae'r mathau hyn o ddatblygiadau yn ynysu'r rhai yr ystyriwn eu bod yn agored i niwed, yn enwedig yr henoed, sy'n gyfarwydd â chyfathrebu wyneb yn wyneb, ac sy'n well ganddynt gyfathrebu felly, lle mae empathi a dealltwriaeth yn fwy tebygol o fod yn amlwg.
Mae ynysu digidol o'r fath yn broblem y mae elusennau digartrefedd yn ei gweld yn dod yn fwy cyffredin wrth i fwy a mwy o wasanaethau hanfodol symud ar-lein. Mae'n wir fod awdurdodau'n ymdrechu i fynd i'r afael â rhywfaint o'r ynysu. Mae gan rai hosteli llety dros dro ystafelloedd TGCh ynddynt, ond gyda llawer o'r rhai sy'n defnyddio'r hosteli hyn heb ddigon o ddealltwriaeth sut i ddefnyddio'r offer, mae'n dal i'w gadael wedi'u hynysu'n ddigidol. Yn amlwg, ceir problem hyfforddi sy'n galw am sylw, nid yn unig mewn hosteli o bosibl ond yn y boblogaeth agored i niwed yn gyffredinol. Nid yw cau llawer o'n llyfrgelloedd, a fu gynt yn bileri i'n haddysg a'n dysg, yn helpu i unioni'r diffyg hyfforddiant digidol hwn.
A gaf fi orffen drwy ddweud bod y ddadl hon heddiw yn un eithriadol o bwysig, gan ei bod yn mynd i'r afael â phroblem gynyddol ac un sy'n effeithio ar gyfran sylweddol o boblogaeth Cymru? A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl hon gerbron y Siambr heddiw? Mae'n un rwyf i a fy nghyd-Aelodau'n hapus i'w chefnogi.
Fel y nododd y comisiynydd pobl hŷn yn ei hadroddiad 'Cyflwr y Genedl':
'Mae’r defnydd cynyddol a wneir o dechnoleg ddigidol yn golygu bod y ffordd yr ydym yn manteisio ar wasanaethau a gwybodaeth, a’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu, wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.'
Fodd bynnag, nid oes gan bawb fynediad at y rhyngrwyd. Mae argaeledd band eang cyflym iawn yn 77 y cant mewn ardaloedd gwledig. Mae gan tua 87 y cant o fusnesau yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn, ac eto dim ond 93 y cant o'r holl safleoedd yng Nghymru sy'n gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 95 y cant. Mae Ofcom yn amcangyfrif mai tua 156,000 yw nifer y safleoedd sydd heb fynediad at fand eang cyflym iawn yng Nghymru ar hyn o bryd. O gofio'r ffigur hwnnw a'r ffaith nad yw BT Openreach ond yn bwriadu darparu mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy i 26,000 o adeiladau erbyn mis Mawrth 2021, mae'n amlwg y bydd llawer, gan gynnwys fy etholwyr yng nghwm Crafnant, yn dal i gael eu llethu gan ddiffyg mynediad at ryngrwyd dibynadwy. Yr un mor broblemus yw'r ffaith bod y defnydd o'r rhyngrwyd yn parhau i fod yn isel iawn ymysg ein cenedlaethau hŷn. Nid yw traean o bobl hŷn yn gwneud defnydd personol o'r rhyngrwyd. Mae'r ffigur hyd yn oed yn uwch ar gyfer pobl dros 75 oed—sef 60 y cant.
Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith i geisio mynd i'r afael â phroblem cynhwysiant digidol. Er enghraifft, pennwyd nod yn y fframwaith strategol a'r cynllun cyflenwi ar gyfer cynhwysiant digidol ym mis Mawrth 2016 i leihau allgáu digidol ymysg oedolion 16 oed a hŷn, er mwyn i fwy o bobl elwa o fod ar-lein a defnyddio technolegau digidol. Fodd bynnag, yn ôl yr adroddiad cynnydd a rhagolwg 2018 ar gynhwysiant digidol, dim ond 77 y cant o breswylwyr tai cymdeithasol sydd â mynediad at y rhyngrwyd, dim ond 51 y cant o aelwydydd pensiynwyr sengl sy'n debygol o fod â mynediad at y rhyngrwyd, ac mae 25 y cant o bobl anabl wedi'u hallgáu'n ddigidol.
Rwy'n falch fod yr adroddiad yn tynnu sylw at yr angen i weithio gyda phob sector i fynd i'r afael ag allgáu digidol. Mae'n cydnabod bod cwmnïau telathrebu megis EE, Three, O2, BT a Virgin, a chwmnïau cyfleustodau megis Nwy Prydain, Dŵr Cymru, ac E.ON, gwasanaethau ariannol fel NatWest, Lloyds, Principality, Santander a Barclays, a chwmnïau yswiriant megis Aviva, Admiral ac Endsleigh—i mi gael eu henwi—yn gynyddol yn ceisio cael eu cwsmeriaid i reoli eu cyfrifon ar-lein. Gwnaethpwyd addewid, fodd bynnag, i annog y sector preifat i geisio arwain drwy esiampl ac i ystyried eu cwsmeriaid sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Felly, buaswn yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha gynnydd a wnaethpwyd drwy ymyriadau Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion ar y mater hyd yma.
Credaf y dylid diwygio'r nod er mwyn cynnwys y gofyniad i drafod gyda banciau, busnesau a sefydliadau eraill yr angen i sicrhau bod dewisiadau amgen yn lle gwasanaethau ar-lein yn cael eu cynnig. Yn wir, gellid cefnogi hyn drwy ei ychwanegu fel seithfed adduned i'r siarter cynhwysiant digidol. Ni all yr un ohonom anwybyddu'r ffaith bod angen dewisiadau amgen yn lle gwasanaethau ar-lein. Canfu'r comisiynydd pobl hŷn fod cartrefi all-lein yn colli arbedion o hyd at £560 y flwyddyn drwy siopa a thalu biliau ar-lein. Felly, mae bod all-lein yn costio ffortiwn i'n hetholwyr. Yn ôl arolwg cenedlaethol Cymru, dim ond 79 y cant o bobl sy'n prynu nwyddau neu wasanaethau ar-lein. Mae'n rhaid i ni weithredu i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod mor fforddiadwy a hygyrch all-lein hefyd.
Mae ein cyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, wedi tynnu sylw at enghraifft y system adnewyddu pasys bws. Hoffwn ychwanegu at y rhestr drwy gynnwys ffurflenni cais am y bathodyn glas. Rwyf wedi cael llawer o etholwyr na allant hyd yn oed ddod o hyd i'r rhain heb fynd ar-lein neu ddefnyddio cyfrifiadur, ac maent yn dod i fy swyddfa er mwyn inni helpu, ond dylent allu cael y bathodyn glas heb orfod mynd i'r eithafion hynny.
Yn ddiamau, mae angen inni helpu mwy o bobl i fynd ar-lein a gwneud mwy i hybu argaeledd band eang cyflym iawn. Ond rydym am gael Cymru deg hefyd, felly rwy'n cefnogi'r cynnig hwn yn gryf heddiw a hoffwn ddiolch i Rhun am roi cychwyn arno yn y lle cyntaf. Ac erfyniaf ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau fel yr awgrymwyd yma heddiw i sicrhau, wrth inni ddal i fyny ag oes ddigidol technoleg, y byddwn bob amser yn sicrhau bod ffyrdd traddodiadol o gael gafael ar wybodaeth, cyngor, cymorth a gwasanaethau yn parhau ar waith. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle yn y ddadl bwysig hon heddiw i dynnu sylw at sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws adrannau i geisio sicrhau y gall pawb gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, p'un a ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd ai peidio. Cydnabyddwn fod mwy o wasanaethau, fel y dywedodd Rhun wrth gyflwyno'r ddadl, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn symud ar-lein a bod pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol mewn perygl o gael eu gadael ar ôl mewn cymdeithas. Fel y dywedodd Mike Hedges, nid oes gan bawb ffôn clyfar ac wrth gwrs, fel y dywedwyd hefyd, mae rhai pobl yn hoffi siarad â phobl. Gall pobl nad ydynt yn defnyddio technoleg ddigidol fethu cael gwasanaethau hanfodol, cyfleoedd swyddi a gwelliannau i'w hiechyd. Er mwyn bod yn Gymru deg, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn ei haraith, rhaid inni sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau cyhoeddus i bawb.
Pobl hŷn yw'r ddemograffeg fwyaf o bobl nad ydynt ar-lein. Fodd bynnag, mae grwpiau eraill mewn cymdeithas wedi cael eu crybwyll yma heddiw hefyd: soniwyd am bobl anabl; soniodd David Rowlands am bobl ddigartref. Ond yn sicr, pobl hŷn yw'r grŵp mwyaf. Mae 22 y cant o'r rhai dros 50 oed a—ffigur sydd eisoes wedi'i ddefnyddio—51 y cant o'r rhai sydd dros 75 oed wedi'u hallgáu'n ddigidol.
Yn dilyn cytundeb y Cabinet yr wythnos diwethaf, byddwn yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ddechrau'r gwanwyn. Rwy'n meddwl y gallai'r strategaeth honno ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ddatblygu llawer o'r materion a llawer o'r argymhellion sydd wedi codi yn y ddadl hon heddiw. Y strategaeth hon yw ymateb Llywodraeth Cymru i oblygiadau ehangach newid demograffig i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, ond hefyd i'r bobl hynaf heddiw. Bydd llwyddiant y strategaeth hon yn dibynnu ar weithredu trawslywodraethol ar ystod o faterion pwysig, a fydd yn cynnwys cynhwysiant digidol wrth gwrs.
Ein gweledigaeth yw Cymru sy'n ystyriol o oedran ac sy'n helpu pobl o bob oed i fyw a heneiddio'n dda; Cymru lle gall unigolion fod yn gyfrifol am eu hiechyd a'u lles eu hunain, gan deimlo'n hyderus ar yr un pryd y bydd cymorth ar gael ac yn hawdd dod o hyd iddo os oes angen. Rydym eisoes yn rhoi camau ar waith i gyflawni'r weledigaeth hon. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau £8 miliwn o gyllid grant i'r gronfa gynghori sengl eleni. Bydd gwasanaethau a ariennir yn estyn yn ddwfn i mewn i gymunedau i ymgysylltu ag aelwydydd sy'n tueddu i beidio â defnyddio gwasanaethau cynghori traddodiadol. Darperir y gwasanaethau hefyd o leoliadau sy'n ganolog i gymunedau lleol, megis meddygfeydd, fel y gall pobl gael cyngor wyneb yn wyneb drwy'r arian hwnnw ar gyfer gwasanaethau cynghori.
Rwy'n falch iawn fod y cynnig heddiw yn sôn am waith Trafnidiaeth Cymru i gynnig dewisiadau amgen yn lle gwasanaethau ar-lein i bobl sy'n adnewyddu eu pasys bws. Er bod y rhai sy'n gwneud cais yn cael eu hannog i ddefnyddio'r porth ar-lein am ei fod yn haws ac yn gyflymach, fel y mae llawer o bobl wedi dweud yma heddiw, mae'n bosibl gwneud ceisiadau ar bapur hefyd, fel y dywedodd Mike Hedges, rwy'n credu, ac mae cymorth wyneb yn wyneb ar gael. Adroddwyd bod dros 25,000 o geisiadau papur wedi dod i law. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol fod llawer o bobl wedi meddwl bod yn rhaid iddynt ei wneud ar-lein yn unig, ac yn sicr daeth llawer o bobl i fy nghymorthfeydd cyngor lle gwnaethom ni, yn ogystal â llawer o rai eraill yn yr ystafell hon, eu helpu i lenwi'r ceisiadau ar-lein. [Torri ar draws.]
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Diolch yn fawr iawn. Onid yw'r ffaith eich bod yn ein hatgoffa eto fod ei wneud ar bapur yn arafach ac yn fwy problemus eto yn arwydd o'r neges sy'n mynd allan at bobl? Yn hytrach na dweud wrth bobl, 'Gwrandewch, rydym yn credu bod ar-lein yn gweithio'n dda iawn, ond mae croeso i chi ddefnyddio papur os ydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus yn gwneud hynny.'
Ie, rwy'n credu mai dyna'r neges a ddylai fynd, ac sy'n mynd allan mewn gwirionedd: fod modd gwneud ceisiadau ar bapur.
Y peth arall gyda hyn i gyd wrth gwrs—rwy'n credu ein bod wedi trafod cryn dipyn ar y pàs bws—yw ei fod wedi dangos pa mor boblogaidd yw'r pàs bws a pha mor bwysig ydyw i bobl hŷn. Gwn fod ceisiadau'r pàs bws wedi achosi pryder, ac yn sicr nid ydym am i hynny ddigwydd. Y llynedd, dyrannwyd £20,000 o arian ychwanegol i'r comisiynydd pobl hŷn i gefnogi ei gwaith i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredydau pensiwn. Gwnaed hyn drwy gyfrwng papur mewn gwirionedd. Cynhyrchodd y comisiynydd daflen a anfonwyd at bobl hŷn mewn llythyrau yn eu hatgoffa i adnewyddu eu pàs bws. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn achub ar gyfleoedd fel hynny.
Hoffwn rannu enghraifft arall o sut rydym wedi cyrraedd pobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd. Yn ddiweddar, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol i gynyddu'r defnydd o wybodaeth a chymorth hanfodol am hawliau mewn perthynas â'r dreth gyngor. Rydym yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol, y trydydd sector, a MoneySavingExpert.com, gwefan defnyddwyr fwyaf y DU, i ddatblygu cyngor syml a chyson. Gosodwyd posteri mewn lleoliadau perthnasol, dosbarthwyd taflenni copi caled i awdurdodau lleol, a chafodd slipiau printiedig eu cynnwys gyda chyngor ar ddyledion yn llythyrau atgoffa'r dreth gyngor, hysbysiadau terfynol a gwysion. Mae'r modelau hyn wedi llwyddo i gyrraedd pobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd, ac wrth symud ymlaen byddwn yn dysgu o'r llwyddiannau hyn.
Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn nodi—ac rwy'n credu bod y pwyntiau wedi cael eu gwneud yn dda yma heddiw—fod llawer o rwystrau i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, yn enwedig i'r rheini ar incwm isel, pobl hŷn a phobl anabl. Gall rhwystrau gynnwys diffyg sgiliau, hyder, mynediad a symudedd. Rwyf hefyd wedi siarad â phobl hŷn sy'n poeni y byddant yn cael eu targedu gan sgamwyr ar-lein, ac rwy'n gwybod bod Suzy wedi sôn yn ei chyfraniad am dwyll ar-lein, a bod pobl yn ymddiried yn y postmon yn fwy na'r cyfrinair, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Soniodd hefyd am yr hyn y maent yn ei wneud yng Nghanada a Ffrainc, a chredaf y byddai'n fuddiol iawn inni edrych yn drylwyr ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill ar y mater hwn. Felly, credaf fod hynny eto'n rhywbeth y gallai'r strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ei ystyried.
Ond er ein bod yn cydnabod nad yw pawb yn gyfforddus gyda'r rhyngrwyd, rydym eisiau cefnogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â sut i gymryd rhan yn ddiogel mewn byd sy'n gynyddol ddigidol. Felly, rydym am annog pobl i ddefnyddio'r rhyngrwyd, oherwydd gwyddom fod manteision i wneud hynny, ond rhaid inni ddarparu ar gyfer pobl nad ydynt am ddefnyddio'r rhyngrwyd neu nad ydynt yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd. Felly, rydym yn gwneud ymdrechion i annog defnydd o'r rhyngrwyd: mae menter arwyr digidol Cymunedau Digidol Cymru wedi hyfforddi dros 5,000 o wirfoddolwyr ifanc i helpu pobl hŷn mewn ysbytai a chartrefi gofal i fynd ar-lein, a phrosiect arloesol arall yw cynllun benthyca tabled y Fro, sy'n caniatáu i drigolion ar draws Bro Morgannwg fenthyg iPads sy'n rhoi mynediad diogel at y rhyngrwyd o lyfrgelloedd lleol bron yr un mor hawdd ag y byddent yn benthyca llyfr.
I rai, nid dewis yw allgáu digidol ond canlyniad signal band eang gwael, sydd hefyd wedi'i grybwyll yma heddiw. Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pawb sy'n dymuno gwneud hynny yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd. Hyd yma, mae Cyflymu Cymru wedi darparu mynediad band eang ffeibr cyflym i fwy na 733,000 o safleoedd ledled Cymru. Rydym hefyd wedi buddsoddi mwy na £200 miliwn i gamu i mewn am fod y farchnad wedi methu cysylltu 95 y cant o'r eiddo yng Nghymru, gan gynnwys nifer mewn ardaloedd gwledig.
Credaf mai egwyddor allweddol hyn oll yw y dylem gynllunio gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer anghenion y defnyddiwr terfynol, ac fel arfer bydd hyn yn golygu gwasanaeth sy'n gweithio'n ddigidol ond sydd hefyd yn diwallu anghenion defnyddwyr terfynol sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, a dyna beth y mae Llywodraeth Cymru am ei wneud.
Hoffwn orffen drwy roi sylw i'r cynnig y dylai Llywodraeth Cymru siarad â banciau, busnesau a sefydliadau eraill i wneud yn siŵr nad yw cwsmeriaid yn cael eu hynysu os mai dim ond gwasanaethau ar-lein a gynigir. Hoffwn dynnu sylw at ein cymorth i undebau credyd, sy'n galluogi rhai dinasyddion yng Nghymru i allu cael benthyciadau fforddiadwy ac arbedion, er bod banciau mawr yn gadael strydoedd mawr Cymru. Mae undebau credyd yn sicrhau bod pobl yn gallu trafod eu gofynion wyneb yn wyneb a chael mynediad at y cynhyrchion mwyaf addas i'w hanghenion.
Mae hefyd yn braf nodi—gallaf weld bod fy amser yn dod i ben—y llynedd, cynyddodd nifer y swyddfeydd post gwledig yng Nghymru o 619 i 636. Wrth gwrs, ni all swyddfeydd post lleol gymryd lle banciau, ond gallant gynnig gwasanaethau bancio sylfaenol wyneb yn wyneb i'w cwsmeriaid. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma'r prynhawn yma. Mae yna gytundeb, onid oes, bod yna fater yn fan hyn sydd wirioneddol yn rhywbeth sydd angen ei gymryd o ddifrif?
Rwy'n hoffi'r pwynt a wnaeth Mike Hedges: mae rhai pobl yn hoffi siarad â rhywun. Ac mae'n wir. Roeddem yn y Siambr hon ddoe yn sôn am unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae cael cysylltiad â phobl yn bwysig tu hwnt. Hefyd, dywedais fy mod yn gyfforddus iawn gyda bancio ar-lein. Er hynny, nid wyf yn meddwl y buaswn yn trefnu morgais ar-lein. I mi, mae hynny'n mynd ychydig bach yn rhy bell; hoffwn allu edrych i lygaid rhywun wrth drefnu morgais. Felly, mae yna adegau pan fyddwch o ddifrif eisiau cael cyswllt wyneb yn wyneb.
Gwnaeth Suzy Davies bwynt da iawn fod niferoedd y bobl hŷn sy'n defnyddio gwasanaethau ar-lein yn cynyddu, ac awgrymodd efallai mai'r rheswm am hynny yw bod pobl sydd wedi bod yn defnyddio gwasanaethau ar-lein ers amser hir yn cyrraedd y grŵp oedran hwnnw. Mae'n wir. Ond mae pwynt difrifol yn hynny—fe ddaw amser pan fydd pawb, neu'r mwyafrif llethol o bobl, yn gymharol gyfforddus â defnyddio gwasanaethau ar-lein, gan mai dyna y maent wedi'i wneud erioed—bydd rhywbeth arall erbyn hynny. A fyddaf fi, pan fyddaf yn 80 oed, yn gyfforddus yn defnyddio gwasanaethau hologram neu beth bynnag a fydd ar gael bryd hynny? Gallai'r dechnoleg a'r cyd-destun newid, ond bydd y broblem a'r pwynt yn aros yr un fath, yn yr ystyr fod yn rhaid i chi ystyried anghenion gwahanol pobl a'r cyfraddau amrywiol lle mae pobl yn barod ac yn gallu symud ymlaen â newid technolegol.
Roedd disgrifiad David Rowlands o gerdded i mewn i ystafell a gweld pawb yn syllu ar sgrin ddigidol—. Roeddwn yn meddwl eich bod yn disgrifio Siambr y Senedd am eiliad, David [Chwerthin.] Ond eto, mae yna gymhariaeth yno, onid oes? Mae hon yn Siambr fodern, Siambr ifanc, lle gwnaethom roi technoleg ddigidol i mewn, ond rhaid inni wneud yn siŵr fod—. Mae yna bobl eraill sy'n meddwl efallai ein bod wedi mynd yn rhy bell o ran gallu bod ar-lein yma.
Diolch hefyd i Janet Finch-Saunders am ei chyfraniad. Ac i'r Dirprwy Weinidog, nid wyf yn amau o gwbl fod Llywodraeth Cymru yn ddiffuant ac yn cytuno â'r egwyddorion a gyflwynwn yma heddiw. A yw'r Llywodraeth yn mynd yn ddigon pell yn ei gweithredoedd yw'r cwestiwn.
Diolch am dderbyn yr ymyriad ar basys bws am ddim Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n anghytuno â'ch honiad fod digon o gymorth wyneb yn wyneb wedi'i gynnig. Y rheswm pam y daeth pobl yn eu cannoedd drwy ddrws fy swyddfa oedd oherwydd eu bod yn teimlo nad oedd digon o gymorth wyneb yn wyneb na chymorth arall yn hytrach na mynd ar-lein wedi'i roi. Unwaith eto, mae diffyg cydraddoldeb ar y gorau, neu bu diffyg cydraddoldeb rhwng gallu pobl i wneud cais am y pàs bws hwnnw ar-lein a'i wneud ar bapur.
Mae'n debyg na cheir ymarfer mor fawr â hwnnw a fydd yn profi'r system yn yr un ffordd, ond yn sicr rwy'n gobeithio bod y pwynt wedi cael ei wneud heddiw, o ran rhoi pwysau ar drydydd partïon neu weithredu eich hunain, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddangos—. A byddwn yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif os byddwch yn baglu eto neu os credwn nad yw pethau'n symud yn eu blaenau'n ddigon cyflym. Ond rwy'n hyderus fod y pwynt wedi'i wneud yn gadarn heddiw gan bawb a gymerodd ran, ac unwaith eto, diolch i'r rhai a gefnogodd hyn heddiw.
Mae technoleg yn rhuthro yn ei blaen. Yn amlwg, daw llawer iawn o les yn sgil technoleg sy'n newid ac yn datblygu, ond mae rhai risgiau hefyd. Un o'r risgiau yw bod pobl, o bryd i'w gilydd, yn cael eu gadael ar ôl. Ni allwn adael i hynny ddigwydd. Felly, fel y dywedais, hyderaf fod ein neges wedi'i chlywed yma heddiw, a byddwn yn cadw llygad barcud ar gamau gweithredu mwy cadarn gan y Llywodraeth yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, diolch. Gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.