Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 12 Chwefror 2020.
Ie, rwy'n credu mai dyna'r neges a ddylai fynd, ac sy'n mynd allan mewn gwirionedd: fod modd gwneud ceisiadau ar bapur.
Y peth arall gyda hyn i gyd wrth gwrs—rwy'n credu ein bod wedi trafod cryn dipyn ar y pàs bws—yw ei fod wedi dangos pa mor boblogaidd yw'r pàs bws a pha mor bwysig ydyw i bobl hŷn. Gwn fod ceisiadau'r pàs bws wedi achosi pryder, ac yn sicr nid ydym am i hynny ddigwydd. Y llynedd, dyrannwyd £20,000 o arian ychwanegol i'r comisiynydd pobl hŷn i gefnogi ei gwaith i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredydau pensiwn. Gwnaed hyn drwy gyfrwng papur mewn gwirionedd. Cynhyrchodd y comisiynydd daflen a anfonwyd at bobl hŷn mewn llythyrau yn eu hatgoffa i adnewyddu eu pàs bws. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn achub ar gyfleoedd fel hynny.
Hoffwn rannu enghraifft arall o sut rydym wedi cyrraedd pobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd. Yn ddiweddar, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol i gynyddu'r defnydd o wybodaeth a chymorth hanfodol am hawliau mewn perthynas â'r dreth gyngor. Rydym yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol, y trydydd sector, a MoneySavingExpert.com, gwefan defnyddwyr fwyaf y DU, i ddatblygu cyngor syml a chyson. Gosodwyd posteri mewn lleoliadau perthnasol, dosbarthwyd taflenni copi caled i awdurdodau lleol, a chafodd slipiau printiedig eu cynnwys gyda chyngor ar ddyledion yn llythyrau atgoffa'r dreth gyngor, hysbysiadau terfynol a gwysion. Mae'r modelau hyn wedi llwyddo i gyrraedd pobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd, ac wrth symud ymlaen byddwn yn dysgu o'r llwyddiannau hyn.
Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn nodi—ac rwy'n credu bod y pwyntiau wedi cael eu gwneud yn dda yma heddiw—fod llawer o rwystrau i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, yn enwedig i'r rheini ar incwm isel, pobl hŷn a phobl anabl. Gall rhwystrau gynnwys diffyg sgiliau, hyder, mynediad a symudedd. Rwyf hefyd wedi siarad â phobl hŷn sy'n poeni y byddant yn cael eu targedu gan sgamwyr ar-lein, ac rwy'n gwybod bod Suzy wedi sôn yn ei chyfraniad am dwyll ar-lein, a bod pobl yn ymddiried yn y postmon yn fwy na'r cyfrinair, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Soniodd hefyd am yr hyn y maent yn ei wneud yng Nghanada a Ffrainc, a chredaf y byddai'n fuddiol iawn inni edrych yn drylwyr ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill ar y mater hwn. Felly, credaf fod hynny eto'n rhywbeth y gallai'r strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ei ystyried.
Ond er ein bod yn cydnabod nad yw pawb yn gyfforddus gyda'r rhyngrwyd, rydym eisiau cefnogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â sut i gymryd rhan yn ddiogel mewn byd sy'n gynyddol ddigidol. Felly, rydym am annog pobl i ddefnyddio'r rhyngrwyd, oherwydd gwyddom fod manteision i wneud hynny, ond rhaid inni ddarparu ar gyfer pobl nad ydynt am ddefnyddio'r rhyngrwyd neu nad ydynt yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd. Felly, rydym yn gwneud ymdrechion i annog defnydd o'r rhyngrwyd: mae menter arwyr digidol Cymunedau Digidol Cymru wedi hyfforddi dros 5,000 o wirfoddolwyr ifanc i helpu pobl hŷn mewn ysbytai a chartrefi gofal i fynd ar-lein, a phrosiect arloesol arall yw cynllun benthyca tabled y Fro, sy'n caniatáu i drigolion ar draws Bro Morgannwg fenthyg iPads sy'n rhoi mynediad diogel at y rhyngrwyd o lyfrgelloedd lleol bron yr un mor hawdd ag y byddent yn benthyca llyfr.
I rai, nid dewis yw allgáu digidol ond canlyniad signal band eang gwael, sydd hefyd wedi'i grybwyll yma heddiw. Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pawb sy'n dymuno gwneud hynny yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd. Hyd yma, mae Cyflymu Cymru wedi darparu mynediad band eang ffeibr cyflym i fwy na 733,000 o safleoedd ledled Cymru. Rydym hefyd wedi buddsoddi mwy na £200 miliwn i gamu i mewn am fod y farchnad wedi methu cysylltu 95 y cant o'r eiddo yng Nghymru, gan gynnwys nifer mewn ardaloedd gwledig.
Credaf mai egwyddor allweddol hyn oll yw y dylem gynllunio gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer anghenion y defnyddiwr terfynol, ac fel arfer bydd hyn yn golygu gwasanaeth sy'n gweithio'n ddigidol ond sydd hefyd yn diwallu anghenion defnyddwyr terfynol sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, a dyna beth y mae Llywodraeth Cymru am ei wneud.
Hoffwn orffen drwy roi sylw i'r cynnig y dylai Llywodraeth Cymru siarad â banciau, busnesau a sefydliadau eraill i wneud yn siŵr nad yw cwsmeriaid yn cael eu hynysu os mai dim ond gwasanaethau ar-lein a gynigir. Hoffwn dynnu sylw at ein cymorth i undebau credyd, sy'n galluogi rhai dinasyddion yng Nghymru i allu cael benthyciadau fforddiadwy ac arbedion, er bod banciau mawr yn gadael strydoedd mawr Cymru. Mae undebau credyd yn sicrhau bod pobl yn gallu trafod eu gofynion wyneb yn wyneb a chael mynediad at y cynhyrchion mwyaf addas i'w hanghenion.
Mae hefyd yn braf nodi—gallaf weld bod fy amser yn dod i ben—y llynedd, cynyddodd nifer y swyddfeydd post gwledig yng Nghymru o 619 i 636. Wrth gwrs, ni all swyddfeydd post lleol gymryd lle banciau, ond gallant gynnig gwasanaethau bancio sylfaenol wyneb yn wyneb i'w cwsmeriaid. Diolch, Ddirprwy Lywydd.