7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd — Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 12 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:31, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am yr holl waith caled ac am roi cyfle i mi ymateb i'r ddadl bwysig hon yn y Siambr heddiw. Hoffwn innau hefyd gofnodi fy niolch, a diolch y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i bawb a gyfrannodd at waith y pwyllgor, ond yn enwedig y rhai â phrofiad bywyd a roddodd o'u hamser i ymgysylltu â'r pwyllgor a'r rhai sy'n cynorthwyo pobl sy'n cysgu allan yn ddyddiol am rannu eu barn a'u profiadau gyda'r pwyllgor. Mae wedi bod mor werthfawr wrth lunio'r argymhellion pwysig iawn a wnaeth y pwyllgor.

Fel rydym wedi trafod droeon, yn y Siambr hon ac mewn sesiynau pwyllgor, mae cysgu ar y stryd yn parhau i fod yn broblem endemig ledled Cymru. Mae'r Aelodau, wrth gwrs, yn ymwybodol fod y cyfrif cenedlaethol o'r nifer sy'n cysgu ar y stryd ar gyfer 2019 wedi ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf a bod llawer o awdurdodau lleol wedi cofnodi cynnydd dros gyfnod o bythefnos yn ogystal â chynnydd ar noson y cyfrif. Fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, mae hyn yn hynod o siomedig, ond nid yw'n syndod, gwaetha'r modd.

Er mai dim ond darlun cyffredinol iawn y gall y data a gofnodwyd ei ddarparu, gallwn weld drosom ein hunain ar lawer gormod o strydoedd mewn ardaloedd gwledig a threfol ledled Cymru fod cysgu ar y stryd yn parhau i fod yn broblem barhaus a chynyddol. Cyflwynais i'r Siambr hon ym mis Hydref y llynedd fy nghydnabyddiaeth o'r angen i edrych o'r newydd ar sut i gyrraedd y nod o roi terfyn ar ddigartrefedd yn ei holl ffurfiau, gan gynnwys rhoi terfyn ar unrhyw angen i unrhyw un gysgu ar y strydoedd. Dyma'n union pam y gwnaethom gyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd y llynedd a sefydlu'r grŵp gweithredu arbenigol ar ddigartrefedd i weithio'n gyflym i roi cyngor ar y ffordd orau o gyflawni'r nod hwn. Dyna'n union pam ein bod wedi diogelu cyllidebau digartrefedd, gan gynnwys y £126 miliwn hanfodol sy'n mynd i mewn i'r grant cymorth tai. Ddirprwy Lywydd, ddoe ddiwethaf yn y Siambr, cyflwynais y canllawiau newydd ar y grant cymorth tai, sy'n mynd i'r afael â llawer o'r blaenoriaethau comisiynu y mae Aelodau wedi'u nodi heddiw ynghylch y ffordd y comisiynir gwasanaethau, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn ateb rhai o'r pryderon y mae pobl wedi'u mynegi yn y Siambr heddiw.  

Rwyf am ddweud un peth am gomisiynu hirdymor er hynny: rwy'n cytuno'n llwyr â hynny—credaf fod David a Mark Isherwood wedi sôn amdano—ond gallent wneud ffafr fawr â ni drwy ein cynorthwyo i gael Llywodraeth y DU i roi mwy na chyllideb un flwyddyn inni, oherwydd yn amlwg mae'n anodd iawn inni gomisiynu dros gyfnod hwy na blwyddyn pan fydd ein cyllideb ein hunain ar sail flynyddol. Felly, rwy'n credu y byddem yn gwerthfawrogi rhywfaint o waith trawsbleidiol yn perswadio Llywodraeth y DU i'n helpu gyda hynny, gan ein bod yn derbyn yn llwyr y byddai comisiynu mwy hirdymor yn fuddiol yn hyn o beth ac mewn llawer o sectorau eraill.

Mae gwaith y pwyllgor yn archwilio cysgu allan a'r berthynas gymhleth rhwng camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl ac anghenion tai yn darparu sylfaen dystiolaeth ddefnyddiol i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Cysgu allan, fel y gwyddom i gyd, yw'r math mwyaf difrifol o ddigartrefedd, ac yn ogystal â chefnogi'r rhai sy'n wynebu'r argyfwng i ddod oddi ar y strydoedd ac i lety addas, rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn ymyrraeth gynnar ac atal i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol digartrefedd. Mae hyn yn cynnwys parhau i fuddsoddi a gwella gwasanaethau iechyd. Er enghraifft, gwyddom fod gwella iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn effeithio'n uniongyrchol ar nifer y bobl ifanc sy'n mynd yn ddigartref. Mae'n werth nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag unrhyw ran arall o'r GIG. Mae ein cyhoeddiad diweddar yn y gyllideb ddrafft i ymrwymo £20 miliwn pellach i wasanaethau iechyd meddwl, gan godi'r arian a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl i £712 miliwn, yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wella'r gwasanaethau hyn.  

Mewn ymateb i'r rhai a oedd yn sôn am broblemau camddefnyddio sylweddau haen 4 a phroblemau eraill—nodaf ein bod yn tendro ar hyn o bryd am gontract ar gyfer fframwaith adsefydlu preswyl camddefnyddio sylweddau i Gymru gyfan a fydd yn darparu rhestr newydd o ddarparwyr gwasanaethau preswyl ar gyfer adsefydlu a dadwenwyno. Yn ogystal, rydym wedi ysgrifennu at yr holl gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol i'w hatgoffa am eu cyfrifoldebau mewn perthynas ag asesiadau gofal cymdeithasol a chyllid ar gyfer adsefydlu preswyl cyn cyflwyno'r fframwaith newydd, ac i sicrhau y darperir digon o arian nid yn unig o wasanaethau camddefnyddio sylweddau wedi'u comisiynu ond o ffynonellau ehangach ar draws y gwasanaeth cyhoeddus.  

Cydnabyddir yn eang y cysylltiadau rhwng camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl a phroblemau gyda llety, ac mae'r naill a'r llall yn cael eu cydnabod fel achos a chanlyniad posibl i'w gilydd. Rhaid i'n hymateb ganolbwyntio ar anghenion yr unigolyn, a chytunaf yn llwyr â'r pwyllgor ynghylch yr angen am wasanaeth integredig a dull amlasiantaethol i gynorthwyo pobl yn y modd mwyaf effeithiol. Rydym wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth ers cryn amser i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar y cyd. Mae gan y cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau a gyhoeddwyd ar gyfer 2019-22 a'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl 2019-22 gamau penodol i fynd i'r afael â llawer o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor ynghylch cysgu allan a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Mae cydweithio agos yn digwydd ar draws adrannau i sicrhau bod y camau yn y cynlluniau hyn yn cefnogi'r strategaeth ar gyfer atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd.  

Mae iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd yn flaenoriaeth yn y ddau gynllun cyflawni, ac fel y soniodd Mark Isherwood, rwy'n credu ein bod wedi sefydlu'r grŵp at wraidd y mater i archwilio'r rhwystrau rhag gallu ymateb yn fwy effeithiol i broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd, am fy mod yn ymwybodol iawn fod llawer o heriau o hyd. Mae'r grŵp yn cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr, gan gynnwys arbenigwyr polisi, comisiynwyr ac ymarferwyr, yn cynnwys iechyd a thai, i gefnogi'r gwaith. Rwy'n hapus iawn i adrodd yn ôl i'r pwyllgor pan fyddwn wedi cael y gwaith hwnnw gan y grŵp.  

Ac yn ogystal, mae gwaith yn mynd rhagddo fel rhan o'r cytundeb partneriaeth ar gyfer iechyd yn y carchardai, sy'n cynnwys ffocws penodol ar gamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl, a gwella'r broses o drosglwyddo gofal ar ôl rhyddhau o'r carchar. Cefnogir y cytundeb partneriaeth drwy fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1 filiwn ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd sylfaenol yn y carchardai. Fel y nodwyd yn y cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl a'r cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi £1.3 miliwn mewn gwasanaethau newydd i bobl ag anghenion tai ac anghenion cymhleth, gan ganolbwyntio ar gefnogi Tai yn Gyntaf. Mae'r cyllid hwn wedi'i anelu'n benodol at ddatblygu gwasanaethau integredig, gan weithio gyda'r rhai anoddaf eu cyrraedd a gwella mynediad at gymorth a thriniaeth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.  

Tynnodd y pwyllgor sylw'n briodol at botensial Tai yn Gyntaf, nid yn unig o ran helpu pobl i gael llety, ond hefyd o ran darparu'r sefydlogrwydd a all ei gwneud yn llawer haws i rywun fynd i'r afael â phroblemau eraill, fel camddefnyddio sylweddau neu salwch meddwl. Nodais yn flaenorol fod angen i Tai yn Gyntaf fod yn rhan o ddull ehangach o ailgartrefu'n gyflym, fel y bwriadwyd iddo fod ar gyfer y rhai sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth—yr union unigolion y mae'r adroddiad pwyllgor hwn yn canolbwyntio fwyaf arnynt. Mae wedi gweithio ledled y byd ac mae'n gweithio yma yng Nghymru. Mae'r ddau gyntaf a aeth i mewn i brosiect Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd yn dal mewn llety ddwy flynedd ar ôl ymuno â'r prosiect ar ddiwedd 2017. Roedd gan y ddau unigolyn hanes o gysgu ar y stryd dros nifer o flynyddoedd cyn iddynt ymuno â'r prosiect hwnnw.  

Mae ein holl dystiolaeth yn dangos bod Tai yn Gyntaf yn cymryd amser. Mae angen amser ar weithwyr cymorth i feithrin perthynas â phobl sy'n aml wedi cael eu siomi gan y system ac sydd wedi ymddieithrio o gymdeithas, i feithrin digon o ymddiriedaeth ynddynt i gytuno i ymuno â'r prosiect hyd yn oed. Mae angen amser arnynt i sicrhau bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud, megis y math o ddeiliadaeth, math o eiddo a'i leoliad, i weithio gyda chymdeithasau tai a landlordiaid preifat i ddod o hyd i'r eiddo hwnnw. Ac yn hollbwysig, mae angen i'r gweithiwr cymorth fuddsoddi amser ar ôl i rywun fynd i'r llety i'w helpu i wynebu heriau bywyd a sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu mewn unrhyw lety.

Mae'r prosiectau rydym yn buddsoddi ynddynt yn llwyddo ac rydym yn cydnabod bod gwasanaethau iechyd yn elfen gwbl hanfodol o sicrhau eu llwyddiant. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd 40 o bobl yn dal i fod mewn llety yn un o'r saith prosiect Tai yn Gyntaf a ariannwn yn uniongyrchol. Roedd 21 arall mewn llety dros dro yn aros i ddod o hyd i eiddo addas, sy'n 61 o bobl, ac roedd gan bob un ohonynt hanes o gysgu ar y stryd a phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau—neu'r ddau'n cyd-ddigwydd yn amlach na pheidio—pobl a fyddai fel arall yn debygol o fod yn cysgu allan heno.  

Fel Llywodraeth, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn parhau i ddatblygu'r ymateb cyflawn gan y gwasanaethau cyhoeddus sydd ei angen i gyflawni'r nod o ddod â digartrefedd i ben ac i gydnabod rolau allweddol y maes iechyd a'r maes tai yn arwain y gwaith pwysig hwn. Diolch.