7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd — Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau

– Senedd Cymru am 4:59 pm ar 12 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:59, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Eitem 7 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd: Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.' Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM7267 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd—Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:59, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar lefel y gefnogaeth i rai sy'n cysgu allan sydd â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, neu anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd fel y cyfeirir atynt yn fynych.

Fel pwyllgor, buom yn edrych ar gysgu allan ers gaeaf 2017. Ers inni ddechrau ar y gwaith hwn, rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod wedi gweld newid gwirioneddol yn yr ymdeimlad o gyflymder a brys gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r materion hollbwysig hyn. Mae hyn yn fwyaf amlwg yn y gwaith o sefydlu'r grŵp gweithredu ar ddigartrefedd, a'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y set gyntaf o argymhellion gan y grŵp. Edrychodd y rhain ar y camau tymor byr iawn y gellid eu cymryd i leddfu lefelau o gysgu allan dros y gaeaf. Edrychwn ymlaen at y set olaf o argymhellion gan y grŵp, ac ymateb y Llywodraeth.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 5:00, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym yn obeithiol y bydd rhai o'r camau gweithredu tymor byr, yn enwedig mewn perthynas ag allgymorth grymusol, wedi dechrau helpu i gael rhai pobl oddi ar y strydoedd. Mae hyn yn fwy pwysig byth pan ystyriwn y cyfrif blynyddol o nifer y rhai sy'n cysgu allan a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Fel y nodwyd yn ein hadroddiad gwreiddiol, dim ond ciplun y gall y cyfrif ei roi, ac ni ellir ei ystyried yn ffigur pendant. Fodd bynnag, mae'n rhoi syniad inni o'r niferoedd sy'n cysgu allan. Mae'n destun pryder felly fod y cyfrif ar gyfer 2019 yn dangos cynnydd o 17 y cant yn y niferoedd o'i gymharu â 2018.

Gan symud ymlaen at y gwaith penodol hwn gan y pwyllgor, mae'n deillio o'r ffaith bod y pwyllgor yn cael ei arwain i raddau helaeth gan brofiad bywyd y rhai sy'n cysgu allan. Fel rhan o'n gwaith dilynol ar ein hadroddiad gwreiddiol, buom yn siarad â rhai sy'n cysgu allan ar draws pob ardal yng Nghymru a'r rheini sy'n rhoi cymorth iddynt. Dro ar ôl tro, clywsom am y rhwystrau sy'n wynebu pobl ag anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd. Clywsom nad yw'r gefnogaeth gywir ar gael i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fyddant ei angen. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a oedd yn barod ac yn abl i rannu eu hatgofion a'u profiadau digon anodd yn aml.

Bu cynnydd gofidus yn nifer y bobl ddigartref sy'n marw ar y strydoedd. O'r marwolaethau hyn, achosir dau o bob pump gan wenwyn cyffuriau. Mae hyn yn annerbyniol, a rhoddodd ysgogiad pellach i edrych yn fanylach ar y mater.

Hoffwn ddiolch i'r rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth i ni. Roeddent yn agored ac yn onest yn eu hasesiad o ble roedd y system yn mynd o'i le. Roedd ganddynt hefyd lawer o syniadau am yr hyn y gellid ei wneud yn well. Hoffwn dynnu sylw at ddau o'r pethau a ddywedwyd wrthym. Un ohonynt oedd bod hwn yn fater lle mae'r atebion yn hysbys, a bod angen inni fwrw ati i'w gweithredu. Yn ail, dywedwyd wrthym y gallai fod goblygiadau yn sgil bod yn agored ac yn onest â ni. Nid dyma'r tro cyntaf inni glywed pryderon o'r fath wrth inni ystyried y materion hyn. Felly, buaswn yn falch pe bai'r Gweinidog yn gwneud datganiad clir o gefnogaeth heddiw y dylai sefydliadau allu lleisio pryderon am wasanaethau neu gymorth heb risg o beryglu eu cyllid eu hunain.

Fel yr amlygwn yn ein hadroddiad, ceir llawer o bolisïau, dogfennau strategol a chynlluniau gweithredu ar gyfer y maes hwn. Mae hyn i'w ddisgwyl pan fydd yn torri ar draws cynifer o feysydd polisi gwahanol. Fodd bynnag, mae'n golygu y gall anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd ddisgyn rhwng y bylchau, gan nad oes un unigolyn na sefydliad i sicrhau bod y cyfan yn cael ei dynnu at ei gilydd. Ond rydym yn gweld newid cadarnhaol yn hyn o beth, gyda chamau gweithredu yn y cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau a'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl sy'n ceisio mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau i gael y cymorth cywir i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed.

Yn ymateb Llywodraeth Cymru, maent yn datgan y bydd y prosiect at wraidd y mater ar anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd yn edrych ar sut y gellid dadflocio problemau i sicrhau y gweithredir fframwaith y gwasanaeth yn llawn ar gyfer anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog amlinellu beth yw rhai o'r materion penodol hyn ac a ydynt yn cyd-fynd â chanfyddiadau'r pwyllgor, yn enwedig ar gomisiynu, diwylliant ac arweinyddiaeth.

Clywsom am bocedi o ymarfer da sy'n cynnig cymorth sy'n newid bywydau pobl, ond rydym yn pryderu nad oes gallu i efelychu'r ymarfer da hwnnw ledled Cymru. Clywsom gan y tystion fod natur gystadleuol comisiynu yn aml yn golygu nad yw hyn yn digwydd. Ni all sefydliadau ddysgu gan eraill felly beth sy'n gweithio'n dda neu beidio. Rwy'n falch felly fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 2. Buaswn yn croesawu rhagor o fanylion heddiw am y gwaith ymchwil a gwerthuso a wneir gan y Llywodraeth i gefnogi'r broses o ledaenu ymarfer gorau.

Mae cysylltiad agos rhwng rhannu ymarfer da a diwylliant ac arweinyddiaeth. Dywedodd Dr Sankey o'r Gydweithfa Gofal Cymunedol wrthym am y seilos y mae wedi ceisio eu chwalu i ddod â'r holl wasanaethau cymorth o dan yr un to. Ond mae hyn wedi bod yn heriol ac yn anodd. Eto i gyd, mae gwaith Dr Sankey a'r modelau Tai yn Gyntaf yn dangos i ni y gall gwasanaethau weithio gyda'i gilydd i ddarparu cefnogaeth integredig a chydlynol. A dyma'r math o gefnogaeth sy'n helpu i ddarparu'r cymorth sy'n newid bywydau'n barhaol, yn dod â phobl oddi ar y strydoedd ac yn eu galluogi i reoli eu camddefnydd o sylweddau a'u cyflyrau iechyd meddwl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad 4 mewn egwyddor, argymhelliad a oedd yn galw arnynt i arwain y gwaith o gyflwyno'r newid diwylliant sy'n angenrheidiol. Yn eu hymateb, maent yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i awdurdodau lleol gamu ymlaen i ddarparu'r arweinyddiaeth strategol hon. Rydym braidd yn bryderus y gallai hyn olygu bod darpariaeth dameidiog yn parhau, gydag integreiddio'n amrywio o un awdurdod lleol i'r llall. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sicrhau nad yw hyn yn digwydd?

Rydym hefyd yn nodi'r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar y grant cymorth tai yn eu hymateb, a byddwn yn parhau i alw am gynyddu'r cyllid pwysig hwn yng nghyllideb 2020-21.

Ddirprwy Lywydd, wrth gloi, gobeithiwn y byddwn yn dechrau gweld y newidiadau angenrheidiol sy'n golygu ein bod yn gweld llawer llai o bobl ar ein strydoedd, a bod y rhai sydd yno'n cael cymorth yn gyflym ac yn amserol. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed barn Aelodau eraill, ac at ymateb y Gweinidog wrth gwrs. Diolch yn fawr.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:07, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y dywed ein hadroddiad:

'Mater a oedd yn cael ei godi dro ar ôl tro oedd yr anhawster i bobl sy’n cysgu ar y stryd gael mynediad at wasanaethau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl integredig' ac

'mae gennym bryderon ynghylch lefel y gefnogaeth integredig i bobl sy’n cysgu ar y stryd ac sydd ag anhwylderau sy’n cyd-ddigwydd.'

Er i ni nodi:

'Efallai y bydd rhai pocedi bach o wasanaethau integredig fel gwaith y Gydweithfa Gofal Cymunedol yn Wrecsam', y cyfeiriwyd ato gan y Cadeirydd,

'ymddengys mai eithriad yw’r rhain ac nid y norm.'

Wrth ein briffio ar ei hymchwil i angen blaenoriaethol a chysgu allan, dywedodd Dr Helen Taylor o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wrthym na fyddai gwneud rhywun yn flaenoriaeth ynddo'i hun yn mynd i'r afael â'r problemau yr oeddent yn eu dioddef. Dywedodd na fyddai'n datrys y problemau—rhoi rhywle iddynt fyw a rhoi cymorth iddynt; mae'n rhaid iddynt fod eisiau ei wneud. Rhaid ichi roi'r cyfle hwnnw iddynt. Dywedodd Dr Taylor wrthym hefyd fod llawer yn sôn am eu profiad mewn ysgolion, nad oeddent yn gwybod sut i ymdrin â'u cyflyrau a'u hymddygiad.

Wrth dderbyn ein hargymhelliad cyntaf, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi

'sefydlu ymchwiliad at wraidd Camddefnyddio Sylweddau/Iechyd Meddwl i ystyried cynnydd o ran datblygu gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd, a'r heriau sy'n parhau.' 

Efallai y gallai ddweud wrthym mewn iaith glir beth y mae hynny'n ei olygu, sut a phryd y bydd hwn yn adrodd, pa bryd y gwneir pethau'n wahanol, a sut y caiff perfformiad ei fonitro.  

Mewn egwyddor yn unig y mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ein hargymhelliad 4 sy'n galw arni i fabwysiadu

'rôl arweiniol wrth weithio gyda sefydliadau ar draws sectorau i fwrw ymlaen â’r newid diwylliannol angenrheidiol', ac mae'n osgoi ein datganiad y dylai

'ddiweddaru’r Pwyllgor ar y camau y mae wedi’u cymryd a’r amserlenni ar gyfer camau yn y dyfodol i gyflawni’r argymhelliad hwn ar ôl chwech, naw a deuddeg mis.'

Ac fe fuom yn meddwl yn hir ac yn galed am hynny, ac roedd hwnnw'n argymhelliad pwysig inni. Mae'n dweud, yn lle hynny:

'Rhoi'r Grant Cymorth Tai ar waith fydd y prif fecanwaith a fydd yn ein helpu i gyflawni'r amcan hwn.'

Er gwaethaf hyn, fel y clywsom, fe fu Llywodraeth Cymru yn anghyfrifol gyda'r grant hwn yn ei chyllideb ddrafft drwy roi setliad arian gwastad iddo—toriad mewn termau real—gyda Cymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth i Fenywod Cymru yn rhybuddio bod gwasanaethau sy'n atal digartrefedd a chefnogi byw'n annibynnol bellach wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol. Fel y dywedodd darparwr gwasanaeth byw â chymorth yng ngogledd Cymru wrthyf, ac fe'i dywedaf eto, y canlyniadau fydd mwy o bwysau ar y GIG, adrannau damweiniau ac achosion brys a golau glas, gan ychwanegu y bydd hyn, ynghyd â bwriad Llywodraeth Cymru i ailddosbarthu grant cymorth tai, yn 'ddinistriol i ogledd Cymru'.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ein hargymhelliad 7, ac yn dweud ei bod yn gwneud gwaith pellach ar hyn o bryd i ddeall y rhwystrau a wynebir gan rai sy'n cysgu allan ag anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd a chyflyrau niwroamrywiol, ac y bydd hyn,

'yn rhan o ddatblygu gwasanaethau at y dyfodol, a rheiny’n wasanaethau sy'n diwallu anghenion unigolion sy'n agored i niwed yn well.'

Cyfeiriodd sawl tyst â phrofiad o gysgu allan at eu syndrom Asperger neu eu hawtistiaeth eu hunain neu rywun annwyl. Beth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud yr holl flynyddoedd hyn, er iddi glywed dro ar ôl tro fod pobl awtistig yn rhy aml yn cael eu trin fel problem gan swyddogion y sector cyhoeddus ar lefelau uwch sydd wedi methu sefydlu a diwallu eu hanghenion cyfathrebu a phrosesu synhwyraidd?

Wrth dderbyn ein hargymhelliad 9, mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei bod yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau bod gwasanaethau adsefydlu preswyl a dadwenwyno ar gyfer cleifion mewnol ar gael a'i bod yn dyrannu £1 filiwn o gyllid blynyddol wedi'i glustnodi i fyrddau cynllunio ardal ar gyfer darparu'r gwasanaethau haen 4 hyn a'i bod ar hyn o bryd yn tendro am gontract ar gyfer fframwaith adsefydlu preswyl ar gyfer camddefnyddio sylweddau i Gymru gyfan, a fydd yn darparu rhestr o ddarparwyr gwasanaethau adsefydlu preswyl a dadwenyno cymeradwy. Yr hyn nad ydynt yn ei ddweud yw ei bod yn aneglur o hyd a yw'r £1 filiwn wedi'i glustnodi; fod eu fframwaith blaenorol, a arweiniodd at atgyfeiriadau at unedau nad oeddent yn rhai fframwaith y tu allan i Gymru, wedi dod i ben; fod Llywodraeth Cymru flaenorol wedi datgan, yn dilyn adroddiadau damniol, ei bod yn bwrw ymlaen â gwaith ar dair uned yng Nghymru, ond bod dwy o'r rhain wedi cau ers hynny; neu fod ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod Cymru wedi gweld cynnydd o 84 y cant yn nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau dros y degawd diwethaf ac ar draws Cymru a Lloegr, gogledd-ddwyrain Lloegr yn unig sydd â chyfradd farwolaethau uwch o farwolaethau cysylltiedig â chyffuriau.

Fel y dywedodd prif weithredwr Wallich wrthym, yn bendant mae angen inni wella mynediad at haen 4, ond ar hyn o bryd, ni all fy ngwasanaethau gael pobl drwy'r asesiad.

Fel y dywedodd prif weithredwr Kaleidoscope wrthym, mae haen 4 wedi'i danariannu'n eithafol ac ychydig iawn o gyllid sydd ar gael i unrhyw un sydd â phroblem gyffuriau allu cael gwasanaeth haen 4.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:12, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad hwn, ond ar ôl darllen yr adroddiad wedi hynny, hoffwn ddiolch i fy nghydweithwyr newydd am y gwaith cynhwysfawr a manwl hwn. Felly hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am wneud gwaith rhagorol a dweud fy mod yn edrych ymlaen at chwarae rhan weithredol mewn ymchwiliadau yn y dyfodol.  

Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl sefydliadau ac unigolion a roddodd dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad hwn. Gwn fod staff ymroddedig yn tywallt eu bywydau a'u heneidiau i mewn i geisio helpu pobl sydd ag anghenion cymhleth iawn; gall fod yn waith anodd iawn, a hoffwn dalu teyrnged i'r holl weithwyr a gwirfoddolwyr am eu hymdrechion. 

Mae maint yr her sy'n wynebu pobl agored i niwed sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sydd eisoes yn ddigartref yn wirioneddol frawychus. Mae digartrefedd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae Cymru'n wynebu argyfwng cysgu allan yn ôl y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod 34 o bobl wedi marw yng Nghymru yn 2018 o ganlyniad i ddigartrefedd. Gadewch i ni oedi am eiliad ar y pwynt hwnnw: bu farw 34 o bobl oherwydd digartrefedd yng Nghymru, ein cymdeithas wâr, yn 2018. Pwy all anghytuno â haeriad y pwyllgor fod y rhain yn ystadegau brawychus, ac annerbyniol yn un o economïau cyfoethocaf y byd? Gadewch inni gofio nad yw digartrefedd yn anochel, mae'n ddewis gwleidyddol, o ystyried bod gan lywodraethau bŵer i'w atal. Felly beth sy'n mynd o'i le yng Nghymru, o gofio bod cymaint â chwe rhaglen wahanol gan Lywodraeth Cymru i geisio lleihau'r broblem hon?

Gadewch imi ddyfynnu o'r adroddiad: mae pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cael anhawster i gael gafael ar wasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau iechyd meddwl ac   

'ar hyn o bryd... cyfyngedig, os o gwbl, yw’r gwasanaethau integredig sydd ar gael ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd ac sydd ag anhwylderau sy’n cyd-ddigwydd.'

Mae'r adroddiad yn mynd rhagddo i dynnu sylw at broblemau systemig penodol ac yn cynnig atebion.  

Ei argymhelliad cyntaf yw bod Llywodraeth Cymru yn darparu adroddiad ar weithredu'r cynllun gweithredu ar gysgu ar y stryd fel y gellir unioni diffygion o fewn y ddarpariaeth. Ymateb Llywodraeth Cymru: nid oes angen hyn.  

Dysgwn fod diffyg rhannu ymarfer da lle mae gennym bocedi o lwyddiant—rhoddir y Gydweithfa Gofal Cymunedol yn Wrecsam a rhaglenni Tai yn Gyntaf yng Ngwent fel enghreifftiau o ymarfer rhagorol y dylid ei efelychu mewn mannau eraill.  

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad y pwyllgor y dylid gwella ymarfer a rennir a dileu'r rhwystrau sy'n bodoli mewn systemau comisiynu a all atal pobl rhag gallu bod yn onest am fentrau nad ydynt wedi gweithio. Eto i gyd, beth y maent yn mynd i'w newid mewn gwirionedd? Dim. Mae yna gonsensws cyffredinol fod gan sefydlu ystafelloedd cymryd cyffuriau botensial i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed rhag sefyllfaoedd peryglus. Mae comisiynydd heddlu a throsedd gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi bod yn ymgyrchu dros gael cynllun peilot ar gyfer ystafell gymryd cyffuriau i weld a ellir ailadrodd canlyniadau cadarnhaol a welwyd mewn gwledydd eraill yng Nghymru. Dyma enghraifft o gynrychiolydd etholedig sy'n ceisio gwella bywydau pobl yn rhagweithiol, ond gwrthodwyd hawl iddo wneud hynny gan Lywodraeth y DU sy'n gwrthwynebu hyn yn ideolegol.

Mae adroddiad y pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried egluro a yw'r setliad datganoli yn ei gwneud hi'n bosibl sefydlu ystafelloedd chwistrellu cyffuriau diogel yng Nghymru, ac os nad ydyw, i fynnu bod y pŵer yn cael ei ddatganoli. Eu hymateb oedd 'na'.

Y thema gyson arall yw diffyg amser ac adnoddau i staff allu ymdrin yn ddigonol â'r problemau y maent yn eu hwynebu bob dydd, felly gadewch inni weld cynnydd yn y grant cymorth tai, fel y dywedwyd eisoes. Nid oes gennyf amheuaeth nad oes gan y Gweinidog awydd gwirioneddol i ddatrys y problemau hyn, ac y byddai wrth ei bodd yn gallu dweud wrth y Senedd hon ymhen blwyddyn fod cynnydd gwirioneddol wedi'i wneud, ond mae arnaf ofn fy mod yn amau y gall gwneud hynny. Fel y dywedodd un tyst wrth yr ymchwiliad:

Rwy'n gobeithio'n fawr na fyddwn ni'n eistedd yma eto ymhen tair blynedd yn cael yr un sgwrs, oherwydd rwy'n tybio y byddwn.

Felly, byddwn yn ei hannog i drin yr adroddiad hwn gyda'r difrifoldeb mwyaf—rwy'n siŵr ei bod—ac yn ailfeddwl ynglŷn â defnyddio'r grym sylweddol sydd gan y Llywodraeth i sbarduno newid gydag angerdd ac egni, yn hytrach na pharhau i roi ffydd yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan dystion i'r pwyllgor fel system doredig. Weinidog, mae gennych bŵer i weithredu newid: defnyddiwch ef os gwelwch yn dda.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:16, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor, a'n haelod newydd yn ogystal, am eu cyfraniadau heddiw, ond hefyd i John a'i gadeiryddiaeth am fynd â ni'n ôl i edrych ar y mater hwn y mae rhagflaenwyr ar y pwyllgor hwn, o dan ei stiwardiaeth, wedi edrych arno—y materion hyn a materion ehangach yn ymwneud ag ef yn ogystal? Rwy'n credu ei fod yn werth ei wneud, oherwydd mae'n debyg mai un o'r profiadau mwyaf boddhaus a gefais fel aelod o'r pwyllgor yn fy amser oedd eistedd gyda phobl a oedd â phrofiad o gysgu ar y stryd, o ddigartrefedd, a'u cael i siarad drwy'r profiad gyda ni. Roedd yn anodd iawn, yn heriol iawn—iddynt hwy ond hefyd i ni wrth i ni wrando ar yr hyn roeddent yn ei ddweud wrthym yn onest, lle roeddent wedi bod drwy'r felin dro ar ôl tro. Mae fel gêm nadroedd ac ysgolion, ond lle mae'r nadroedd yn hirach o lawer a'r cwymp yn llawer dyfnach na'r ysgolion—y camu i fyny araf, fesul tipyn.

Clywsom am ymarfer da, ond mewn pocedi, a'r anhawster nid yn unig o ran arweiniad lleol ar lawr gwlad mewn sefydliadau unigol, mewn ardaloedd unigol, ond hefyd o ran sut i ledaenu hynny'n ehangach, gan mai un o'r themâu a glywsom yn gyson yw ein bod yn gallu gweld beth sy'n gweithio. Pan fydd pob un o'r gwasanaethau wedi'u cydlynu'n iawn gennych, ac fel y dywedwyd wrthym, dylid cael ymagwedd sy'n pennu nad oes un drws anghywir—os oes gennych broblem sy'n gysylltiedig â chysgu allan neu ddigartrefedd, dylai'r gwasanaethau yno ddod i wybod amdanoch a dod atoch i'ch helpu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Wrth gwrs, un o'r enghreifftiau o hyn y clywsom ei bod yn llwyddiant oedd yr un yn Wrecsam ac mewn mannau eraill, sef y dull Tai yn Gyntaf yno wrth gwrs, ond dywedwyd wrthym gan lawer o bobl hefyd, gan gynnwys y rhai sy'n cynrychioli sefydliadau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu'r dull Tai yn Gyntaf, nad yw'n ateb i bob dim. Mae'n ddull da iawn, ac yn glod i'r rhai sy'n ei ddatblygu a Llywodraeth Cymru am ei gefnogi, ond nid yw'n fodel sy'n un ateb i bawb.

Ond mae'n werth ystyried nid yn unig rhai o'r heriau ond y ffordd ymlaen, oherwydd dywedodd pobl wrthym—tystion a ddaeth ger ein bron—fod gennym fframwaith cywir a ddylai allu datrys hyn yng Nghymru, fel y gallwn gyrraedd pwynt lle mae'r ymarfer gorau a welwn yn normal. Cawsom wybod hyn gan bobl a ddaeth ger ein bron, a'r rhwystredigaeth, fel y mae Delyth newydd ei ddweud, o glywed pobl yn dweud wrthym, 'Nid ydym am fod yn ôl yma ymhen tair blynedd dan stiwardiaeth John neu rywun arall yn dweud, "Gadewch inni edrych ar hyn eto" a nodi'r un pethau, a sut rydym yn dal i fethu o ran diwylliant, arweinyddiaeth, rhannu ymarfer gorau a dull gweithredu sy'n pennu nad oes un drws anghywir.'

Felly, gadewch imi sôn am ychydig o bethau a ddaeth yn uniongyrchol o'r adroddiad y mae Gweinidogion wedi'u hystyried. Dywedodd llawer o dystion wrthym mai un broblem oedd y broses gomisiynu. Dywedwyd wrthym, ac mae yn yr adroddiad, fel y dywedodd un tyst wrthym—. Os oes gennych chi sector sy'n cael ei yrru gan gystadleuaeth, a gwnaethom nodi hynny'n aml—er bod llawer o sefydliadau yn ceisio gwneud y peth iawn, roedd llawer ohonynt yn teimlo braidd yn ochelgar hefyd, am eu bod yn teimlo eu bod yn cystadlu â sefydliadau eraill sy'n gorgyffwrdd ond heb fod â'r un amcanion yn union, sy'n eithaf diddorol.

Felly, dywedwyd wrthym os oes gennych chi sector sy'n cael ei yrru gan gystadleuaeth, mae'n golygu, yn gyntaf oll, na all neb fod yn agored i niwed, ni all neb ddweud, 'Dyma'r gwersi a ddysgasom, edrychwch ar y llanast a wnaethom draw yma, mae angen inni ei newid.' Ni all neb fod yn agored i niwed, rhaid i bawb fod yn wych drwy'r amser, yn enwedig er mwyn i Weinidogion weld eu bod yn wych iddynt allu cadw eu contractau, i barhau i wneud eu gwaith. Wel, os na allwch chi gael system sy'n fregus, ni fydd gennych ddiwylliannau sy'n dysgu sy'n gyflym ac yn ystwyth ac yn gallu addasu, oni bai eich bod chi'n camu tu allan i'r system yn llwyr ac yn barod i wneud rhywbeth arall. Yn wir, gwnaethom siarad â phobl a oedd wedi camu y tu allan i'r system yn gyfan gwbl, ac wedi dewis gwneud pethau y tu allan i'r system heb gymorth. Ac er clod iddynt, roeddent yn cyflawni pethau rhyfeddol ond ni allent ei ffitio i'r bocsys y dywedwyd wrthynt am ei wneud.

A chlywsom hefyd am y cyfyng-gyngor mawr lle roedd pobl yn dewis peidio â defnyddio gwasanaethau weithiau oherwydd eu bod yn teimlo ei bod yn well iddynt fod ar y strydoedd. Roedd hynny'n eithaf rhyfeddol. Byddai aelodau o'r cyhoedd allan yno, byddai fy etholwyr yn dweud, 'Does bosibl fod hynny'n iawn', ond clywsom am hyn. Clywsom gan un tyst, 'Y peth go iawn sy'n atal pobl rhag dod i mewn yw bod y cynnig sydd gennym o ran gwasanaethau yn llai na'r hyn y mae'r strydoedd yn ei gynnig.' Os ydych yn gaeth i sylwedd, mae gennych yr holl broblemau iechyd meddwl cymhleth hyn a phethau eraill—gallwch ddiffodd y boen yn eithaf hawdd â chyffur 'spice' neu heroin. Ni allwn gynnig hynny. Gallwch fod yn neb mewn fflat neu gallwch fod yn rhywun ar y strydoedd. Mae goblygiadau diwylliannol hefyd i bobl sydd wedi bod allan yno ers amser maith.

Mae hyn yn mynd y tu hwnt i benawdau'r papurau tabloid gyda'r pethau hyn—cymhlethdod hyn oll. Roeddwn yn hynod o falch o fod yn rhan o hyn. Rwy'n credu y bydd y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn ymdrin â rhai o safbwyntiau derbyn mewn egwyddor y Gweinidog, ac yn cyflwyno rhai o'r atebion, rwy'n meddwl, oherwydd mae'n dal i fod yn waith ar y gweill. Mae llawer o waith da'n digwydd, Weinidog, ond rwy'n credu y bydd mynd i'r afael â hyn yn galw am waith ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, nes na fydd yn rhaid inni ddod yn ôl ymhen tair blynedd a dweud, 'Edrychwch eto ar yr hyn a nodwn.'

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:22, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein hymchwiliad ac i'n clercod pwyllgor rhagorol am hwyluso'r ymchwiliad dilynol hwn i gysgu ar y stryd, heb sôn am angerdd ein Cadeirydd, John Griffiths, a aeth â ni i gyfarfod â phobl sydd â phrofiad o gysgu allan, sy'n gwneud i rywun deimlo'n ostyngedig iawn.

Gŵyr pawb ohonom fod gennym argyfwng digartrefedd a bod y ffigurau swyddogol yn tanamcangyfrif yn fawr nifer y bobl a orfodir i gysgu ar y stryd. Dylem deimlo cywilydd fod hyd yn oed un person yn gorfod cysgu allan ar ein strydoedd. Mae'n bechod moesol yn yr unfed ganrif ar hugain. Wrth gwrs, mae'r rhesymau dros ddigartrefedd yn amrywiol ac yn gymhleth, ac yn aml yn llawer mwy cymhleth nag y gallwn ei ddychmygu. Peidio â chael to dros eich pen, a chanolbwyntiodd ein gwaith dilynol ar bobl sy'n cysgu ar y stryd ac sydd â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd. Rhaid inni sicrhau bod pobl ddigartref yn cael eu trin â'r parch a'r ddealltwriaeth y maent yn eu haeddu pan fyddant yn mynd i ofyn am gymorth, fel nad ydynt yn cael y teimlad o 'ni a nhw'. Felly, pan fydd pobl ddigartref yn mynd at wasanaethau i ofyn am help, rhaid i'r diwylliant tuag atynt newid.

Mae'n ystadegyn brawychus fod dwy ran o dair o farwolaethau ymysg y digartref yn deillio o wenwyn cyffuriau. Pan fyddwn yn edrych ar yr amser sydd gan weithiwr allgymorth i siarad â rhywun er mwyn meithrin perthynas ac ennill eu hymddiriedaeth, mae'n cyfateb i 2.5 munud, sy'n gwbl annigonol. Dyna pam y synnais na wnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn ein holl argymhellion yn ddiamod, yn enwedig argymhelliad 3. Ac er fy mod yn ddiolchgar fod y Gweinidog wedi derbyn egwyddor yr argymhelliad, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i weithio gyda Llywodraeth y DU i liniaru niwed camddefnyddio sylweddau.

Rwyf hefyd yn siomedig fod Llywodraeth Cymru yn barod i gamu'n ôl ac estyn yr awenau i lywodraeth leol mewn perthynas â gyrru newid diwylliannol. Gwnaethpwyd ein pedwerydd argymhelliad am fod tystiolaeth wedi'i rhoi i'r pwyllgor mai'r prif rwystr i ddarparu gwasanaethau gwirioneddol integredig oedd diffyg arweiniad a dull seilo o weithredu. Er bod y Gweinidog wedi dweud ei bod yn derbyn egwyddor ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu rôl arweiniol wrth hybu newid diwylliannol, yn yr un gwynt maent yn awgrymu y dylai awdurdodau lleol yng Nghymru gamu i'r gofod lle roedd Llywodraeth Cymru'n darparu cyfeiriad yn y gorffennol. Nid arweinyddiaeth yw hyn, ond ymwrthod â chyfrifoldeb. Y peth diwethaf sydd ei angen arnom yw 22 dull gwahanol o ddarparu gwasanaethau integredig. Rhan o'r rheswm pam fod gennym y fath argyfwng cysgu allan yw oherwydd bod gwahanol gyrff yn mabwysiadu dulliau gwahanol o weithredu. Anwybyddir iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd yn yr ymdrech i fynd i'r afael â'r angen am dai. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth y pwyllgor fod rhwystrau'n bodoli o fewn yr adrannau iechyd hefyd. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn darparu'r arweiniad, y cyfeiriad a'r cyllid er mwyn mynd i'r afael â'r problemau cymhleth sydd ynghlwm wrth gysgu allan.

Oni cheir cyfeiriad clir o'r brig, nid ydym yn mynd i gyrraedd unman a bydd olynydd ein pwyllgor yn trafod y broblem eto ymhen ychydig flynyddoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn dda iawn am gyflwyno cynlluniau, ond y ddarpariaeth sy'n bwysig. Rwy'n gobeithio'n fawr fod y tro hwn yn wahanol gan fod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn dibynnu arnom mewn gwirionedd. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:26, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac rwy'n cymeradwyo gwaith y pwyllgor o dan arweinyddiaeth John. I mi, o ddarllen hyn, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae Caroline newydd eistedd a'n rhybuddio, os na fyddwn yn gweithredu, ymhen 20 mlynedd byddwn yn mynd o gwmpas yr un cae ras, wel, teimlaf ein bod yn trafod llawer o'r problemau hyn 20 mlynedd yn ôl, efallai heb ganolbwyntio ar ddigartrefedd a chysgu allan yn benodol, ond holl fater yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ymdrin ag ef, sef apêl am arweinyddiaeth a gwasanaethau mwy integredig, dychmygus, yn enwedig ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen yn gyflym iawn.

Fel y gwelwch yn yr adroddiad ar hyn o bryd, mae rhanddeiliaid allweddol yn teimlo bod rhwystrau rhag gallu integreiddio, a phan fyddwch yn mynd i'r afael â chysgu ar y stryd, un peth sydd ei angen arnoch yw dull integredig iawn oherwydd cymhlethdod y broblem. Roedd un tyst wedi mynd mor bell â honni nad oedd croeso i arloesi mewn llawer o'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac rwy'n ystyried hynny'n ofidus. Dywedodd tyst arall o Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth y pwyllgor, ac rwy'n dyfynnu:

mae diwylliant gwahanol o fewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ac o fewn gwasanaethau iechyd meddwl ffurfiol... ceir prinder arweinyddiaeth gydgysylltiedig ar y lefel uchaf.

Dyna'n union y mae'n rhaid inni ei weld yn dod i ben a rhaid inni symud tuag at agor ein gwasanaethau i'r syniadau a fydd yn arwain at y canlyniadau gorau un. Yn fy marn i, yr hyn sydd wrth wraidd y rhwystredigaeth yw'r broses gomisiynu sy'n eithaf gwan weithiau, ac arferion gwael, diffyg hyfforddiant, ac yn arbennig, rwy'n croesawu galwad y pwyllgor am adolygiad ar frys o gomisiynu gan Lywodraeth Cymru. Credaf fod llawer o rinweddau i hynny.

Mae'n debyg mai un ffordd o symud ymlaen ar hyn o bryd yw drwy ofyn i ni ein hunain, 'Sut beth fyddai comisiynu effeithiol ar gyfer gwasanaethau i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd?' Wel, fel yr awgrymais yn gynharach, byddai'n debyg i gomisiynu effeithiol mewn meysydd eraill, ond efallai nad yw mor gyffredin ag y disgwyliwn; cyllidebau cyfun rhwng gwahanol wasanaethau; comisiynu hirdymor fel ein bod yn gwybod bod gennym y gwasanaeth sydd ei angen arnom gyda'r sicrwydd y bydd yno'n hirdymor ac y gellir cyfeirio pobl ato wedyn; gwasanaethau integredig; ac annog arloesedd. Mae angen i'r pethau hyn fod yn ganolog i broses gomisiynu effeithiol.

Mae hyn yn her wrth gwrs. Mae'n haws ei wneud fesul tipyn ac edrych ar ôl eich maes penodol chi'n unig, ond i fynd i'r afael â digartrefedd, mae ymagwedd eang yn gwbl hanfodol. Mae'n gofyn am ddulliau dewr a beiddgar, er enghraifft—ac rwy'n croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn trafod rhai o'r pynciau hyn, sy'n sensitif iawn, ac yn mynd benben â hwy ac yn siarad amdanynt—gwasanaethau dadwenwyno cydgysylltiedig, sy'n ymdrin â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau, ac yn gysylltiedig â gwasanaethau iechyd meddwl; ystyried ystafelloedd diogel ar gyfer defnyddio cyffuriau; allgymorth grymusol, ac mae hynny'n golygu, wyddoch chi, pan fydd ein gweithwyr allgymorth yno'n cysylltu â phobl sy'n cysgu allan, fod yna wir ddealltwriaeth ac ymdeimlad o bwrpas ynglŷn â lle mae angen iddynt symud y bobl hyn sy'n agored i niwed i sicrhau ffordd o fyw fwy strwythuredig a sut i gael hynny i ddigwydd.  

Modelau Tai yn Gyntaf: unwaith eto, y cysyniad hwn fod angen ichi fod mewn cartref yn gyntaf cyn y gallwch gael mwy o sefydlogrwydd, ac yn sylfaenol, na fyddwn byth yn troi pobl agored i niwed allan. Efallai y byddwn yn eu symud yn eu blaenau neu'n rhoi mwy o gymorth iddynt, ond ni fyddwn yn eu troi allan. Cynlluniau gweithredu digartrefedd integredig: buom yn siarad ychydig am hyn yn y datganiad ddoe ar y grant cymorth tai, ac rwy'n croesawu hyn. Rwy'n credu mai Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr hyn y mae angen ei gydgysylltu ar lefel leol a rhanbarthol yw hyn, ond mae'n rhaid inni ei weld yn cael ei weithredu, a'i weld yn gyflym iawn. Yna opsiynau tai addas y gellir cyfeirio'r bobl hyn sydd fwyaf agored i niwed atynt, a bydd amrywiaeth o fodelau angenrheidiol yno, gyda rhai ohonynt efallai'n darparu ar gyfer anghenion penodol iawn, megis cyn-filwyr neu bobl sydd wedi gadael y gwasanaethau arfog yn ddiweddar ac wedi'i chael hi'n anodd iawn addasu'n ôl i fywyd sifil.  

Felly, rwy'n falch ein bod ni'n trafod hyn y prynhawn yma. Rwy'n credu ei fod yn waith da iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef ac yn ymateb i'r argymhellion rhagorol gyda grym ac ymrwymiad gwirioneddol. Diolch, Ddirprwy Lywydd.  

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:31, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James?

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am yr holl waith caled ac am roi cyfle i mi ymateb i'r ddadl bwysig hon yn y Siambr heddiw. Hoffwn innau hefyd gofnodi fy niolch, a diolch y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i bawb a gyfrannodd at waith y pwyllgor, ond yn enwedig y rhai â phrofiad bywyd a roddodd o'u hamser i ymgysylltu â'r pwyllgor a'r rhai sy'n cynorthwyo pobl sy'n cysgu allan yn ddyddiol am rannu eu barn a'u profiadau gyda'r pwyllgor. Mae wedi bod mor werthfawr wrth lunio'r argymhellion pwysig iawn a wnaeth y pwyllgor.

Fel rydym wedi trafod droeon, yn y Siambr hon ac mewn sesiynau pwyllgor, mae cysgu ar y stryd yn parhau i fod yn broblem endemig ledled Cymru. Mae'r Aelodau, wrth gwrs, yn ymwybodol fod y cyfrif cenedlaethol o'r nifer sy'n cysgu ar y stryd ar gyfer 2019 wedi ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf a bod llawer o awdurdodau lleol wedi cofnodi cynnydd dros gyfnod o bythefnos yn ogystal â chynnydd ar noson y cyfrif. Fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, mae hyn yn hynod o siomedig, ond nid yw'n syndod, gwaetha'r modd.

Er mai dim ond darlun cyffredinol iawn y gall y data a gofnodwyd ei ddarparu, gallwn weld drosom ein hunain ar lawer gormod o strydoedd mewn ardaloedd gwledig a threfol ledled Cymru fod cysgu ar y stryd yn parhau i fod yn broblem barhaus a chynyddol. Cyflwynais i'r Siambr hon ym mis Hydref y llynedd fy nghydnabyddiaeth o'r angen i edrych o'r newydd ar sut i gyrraedd y nod o roi terfyn ar ddigartrefedd yn ei holl ffurfiau, gan gynnwys rhoi terfyn ar unrhyw angen i unrhyw un gysgu ar y strydoedd. Dyma'n union pam y gwnaethom gyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd y llynedd a sefydlu'r grŵp gweithredu arbenigol ar ddigartrefedd i weithio'n gyflym i roi cyngor ar y ffordd orau o gyflawni'r nod hwn. Dyna'n union pam ein bod wedi diogelu cyllidebau digartrefedd, gan gynnwys y £126 miliwn hanfodol sy'n mynd i mewn i'r grant cymorth tai. Ddirprwy Lywydd, ddoe ddiwethaf yn y Siambr, cyflwynais y canllawiau newydd ar y grant cymorth tai, sy'n mynd i'r afael â llawer o'r blaenoriaethau comisiynu y mae Aelodau wedi'u nodi heddiw ynghylch y ffordd y comisiynir gwasanaethau, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn ateb rhai o'r pryderon y mae pobl wedi'u mynegi yn y Siambr heddiw.  

Rwyf am ddweud un peth am gomisiynu hirdymor er hynny: rwy'n cytuno'n llwyr â hynny—credaf fod David a Mark Isherwood wedi sôn amdano—ond gallent wneud ffafr fawr â ni drwy ein cynorthwyo i gael Llywodraeth y DU i roi mwy na chyllideb un flwyddyn inni, oherwydd yn amlwg mae'n anodd iawn inni gomisiynu dros gyfnod hwy na blwyddyn pan fydd ein cyllideb ein hunain ar sail flynyddol. Felly, rwy'n credu y byddem yn gwerthfawrogi rhywfaint o waith trawsbleidiol yn perswadio Llywodraeth y DU i'n helpu gyda hynny, gan ein bod yn derbyn yn llwyr y byddai comisiynu mwy hirdymor yn fuddiol yn hyn o beth ac mewn llawer o sectorau eraill.

Mae gwaith y pwyllgor yn archwilio cysgu allan a'r berthynas gymhleth rhwng camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl ac anghenion tai yn darparu sylfaen dystiolaeth ddefnyddiol i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Cysgu allan, fel y gwyddom i gyd, yw'r math mwyaf difrifol o ddigartrefedd, ac yn ogystal â chefnogi'r rhai sy'n wynebu'r argyfwng i ddod oddi ar y strydoedd ac i lety addas, rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn ymyrraeth gynnar ac atal i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol digartrefedd. Mae hyn yn cynnwys parhau i fuddsoddi a gwella gwasanaethau iechyd. Er enghraifft, gwyddom fod gwella iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn effeithio'n uniongyrchol ar nifer y bobl ifanc sy'n mynd yn ddigartref. Mae'n werth nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag unrhyw ran arall o'r GIG. Mae ein cyhoeddiad diweddar yn y gyllideb ddrafft i ymrwymo £20 miliwn pellach i wasanaethau iechyd meddwl, gan godi'r arian a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl i £712 miliwn, yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wella'r gwasanaethau hyn.  

Mewn ymateb i'r rhai a oedd yn sôn am broblemau camddefnyddio sylweddau haen 4 a phroblemau eraill—nodaf ein bod yn tendro ar hyn o bryd am gontract ar gyfer fframwaith adsefydlu preswyl camddefnyddio sylweddau i Gymru gyfan a fydd yn darparu rhestr newydd o ddarparwyr gwasanaethau preswyl ar gyfer adsefydlu a dadwenwyno. Yn ogystal, rydym wedi ysgrifennu at yr holl gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol i'w hatgoffa am eu cyfrifoldebau mewn perthynas ag asesiadau gofal cymdeithasol a chyllid ar gyfer adsefydlu preswyl cyn cyflwyno'r fframwaith newydd, ac i sicrhau y darperir digon o arian nid yn unig o wasanaethau camddefnyddio sylweddau wedi'u comisiynu ond o ffynonellau ehangach ar draws y gwasanaeth cyhoeddus.  

Cydnabyddir yn eang y cysylltiadau rhwng camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl a phroblemau gyda llety, ac mae'r naill a'r llall yn cael eu cydnabod fel achos a chanlyniad posibl i'w gilydd. Rhaid i'n hymateb ganolbwyntio ar anghenion yr unigolyn, a chytunaf yn llwyr â'r pwyllgor ynghylch yr angen am wasanaeth integredig a dull amlasiantaethol i gynorthwyo pobl yn y modd mwyaf effeithiol. Rydym wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth ers cryn amser i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar y cyd. Mae gan y cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau a gyhoeddwyd ar gyfer 2019-22 a'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl 2019-22 gamau penodol i fynd i'r afael â llawer o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor ynghylch cysgu allan a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Mae cydweithio agos yn digwydd ar draws adrannau i sicrhau bod y camau yn y cynlluniau hyn yn cefnogi'r strategaeth ar gyfer atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd.  

Mae iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd yn flaenoriaeth yn y ddau gynllun cyflawni, ac fel y soniodd Mark Isherwood, rwy'n credu ein bod wedi sefydlu'r grŵp at wraidd y mater i archwilio'r rhwystrau rhag gallu ymateb yn fwy effeithiol i broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd, am fy mod yn ymwybodol iawn fod llawer o heriau o hyd. Mae'r grŵp yn cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr, gan gynnwys arbenigwyr polisi, comisiynwyr ac ymarferwyr, yn cynnwys iechyd a thai, i gefnogi'r gwaith. Rwy'n hapus iawn i adrodd yn ôl i'r pwyllgor pan fyddwn wedi cael y gwaith hwnnw gan y grŵp.  

Ac yn ogystal, mae gwaith yn mynd rhagddo fel rhan o'r cytundeb partneriaeth ar gyfer iechyd yn y carchardai, sy'n cynnwys ffocws penodol ar gamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl, a gwella'r broses o drosglwyddo gofal ar ôl rhyddhau o'r carchar. Cefnogir y cytundeb partneriaeth drwy fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1 filiwn ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd sylfaenol yn y carchardai. Fel y nodwyd yn y cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl a'r cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi £1.3 miliwn mewn gwasanaethau newydd i bobl ag anghenion tai ac anghenion cymhleth, gan ganolbwyntio ar gefnogi Tai yn Gyntaf. Mae'r cyllid hwn wedi'i anelu'n benodol at ddatblygu gwasanaethau integredig, gan weithio gyda'r rhai anoddaf eu cyrraedd a gwella mynediad at gymorth a thriniaeth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.  

Tynnodd y pwyllgor sylw'n briodol at botensial Tai yn Gyntaf, nid yn unig o ran helpu pobl i gael llety, ond hefyd o ran darparu'r sefydlogrwydd a all ei gwneud yn llawer haws i rywun fynd i'r afael â phroblemau eraill, fel camddefnyddio sylweddau neu salwch meddwl. Nodais yn flaenorol fod angen i Tai yn Gyntaf fod yn rhan o ddull ehangach o ailgartrefu'n gyflym, fel y bwriadwyd iddo fod ar gyfer y rhai sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth—yr union unigolion y mae'r adroddiad pwyllgor hwn yn canolbwyntio fwyaf arnynt. Mae wedi gweithio ledled y byd ac mae'n gweithio yma yng Nghymru. Mae'r ddau gyntaf a aeth i mewn i brosiect Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd yn dal mewn llety ddwy flynedd ar ôl ymuno â'r prosiect ar ddiwedd 2017. Roedd gan y ddau unigolyn hanes o gysgu ar y stryd dros nifer o flynyddoedd cyn iddynt ymuno â'r prosiect hwnnw.  

Mae ein holl dystiolaeth yn dangos bod Tai yn Gyntaf yn cymryd amser. Mae angen amser ar weithwyr cymorth i feithrin perthynas â phobl sy'n aml wedi cael eu siomi gan y system ac sydd wedi ymddieithrio o gymdeithas, i feithrin digon o ymddiriedaeth ynddynt i gytuno i ymuno â'r prosiect hyd yn oed. Mae angen amser arnynt i sicrhau bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud, megis y math o ddeiliadaeth, math o eiddo a'i leoliad, i weithio gyda chymdeithasau tai a landlordiaid preifat i ddod o hyd i'r eiddo hwnnw. Ac yn hollbwysig, mae angen i'r gweithiwr cymorth fuddsoddi amser ar ôl i rywun fynd i'r llety i'w helpu i wynebu heriau bywyd a sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu mewn unrhyw lety.

Mae'r prosiectau rydym yn buddsoddi ynddynt yn llwyddo ac rydym yn cydnabod bod gwasanaethau iechyd yn elfen gwbl hanfodol o sicrhau eu llwyddiant. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd 40 o bobl yn dal i fod mewn llety yn un o'r saith prosiect Tai yn Gyntaf a ariannwn yn uniongyrchol. Roedd 21 arall mewn llety dros dro yn aros i ddod o hyd i eiddo addas, sy'n 61 o bobl, ac roedd gan bob un ohonynt hanes o gysgu ar y stryd a phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau—neu'r ddau'n cyd-ddigwydd yn amlach na pheidio—pobl a fyddai fel arall yn debygol o fod yn cysgu allan heno.  

Fel Llywodraeth, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn parhau i ddatblygu'r ymateb cyflawn gan y gwasanaethau cyhoeddus sydd ei angen i gyflawni'r nod o ddod â digartrefedd i ben ac i gydnabod rolau allweddol y maes iechyd a'r maes tai yn arwain y gwaith pwysig hwn. Diolch.  

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:39, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar John Griffiths i ymateb i'r ddadl?

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i bawb a gymerodd ran? Mae'n amlwg fod cryn gonsensws ar draws y Siambr, rwy'n credu, o ran pwysigrwydd y materion hyn a'r angen i geisio gwneud digon o gynnydd fel na chawn yr un ddadl fwy neu lai yn yr un amgylchiadau yn y blynyddoedd a ddaw, fel y dywedodd nifer o'r Aelodau. Mae angen inni symud ymlaen a gwneud cynnydd sylweddol.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 5:40, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnaeth Delyth Jewell hefyd—os mai'r DU yw'r pumed, y chweched, neu ba bynnag economi fwyaf yn y byd, mae'n hollol anfoesol peidio â chael dull llawer gwell o drefnu ein hunain fel cymdeithas er mwyn osgoi'r problemau eithriadol o ddifrifol hyn sy'n peri cymaint o syndod i gymaint o'r cyhoedd. Mae cynifer o bobl wedi dweud wrthyf na allant ddeall pam nad yw'n bosibl trefnu gwasanaethau a threfnu cymdeithas mewn ffordd sy'n osgoi'r holl gysgu allan a welwn yn ein trefi a'n dinasoedd ar hyn o bryd—ac fel y nododd y Gweinidog, yn amlwg, mae problemau'n codi mewn ardaloedd gwledig hefyd; nid problem drefol yn unig yw hon, er mai dyna lle mae'r broblem ar ei gwaethaf. Felly, mae gwir angen inni ddod o hyd i ffyrdd gwell o symud ymlaen.

Credaf fod yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood am yr angen i roi cyfle i bobl fod eisiau gwneud y newid angenrheidiol yn bwysig iawn, a dyna pam y mae allgymorth grymusol yn arwyddocaol iawn, oherwydd mae dygnu arni yn y fath fodd yn bwysig iawn yn fy marn i. Mae angen i wasanaethau a'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau ddygnu arni gyda'r rhai sy'n cysgu allan er mwyn iddynt fod yno pan ddaw'r cyfle hwnnw; pan fydd y person hwnnw'n barod i wneud y newid angenrheidiol, mae rhywun yno i'w harwain ac i wneud yn siŵr eu bod yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael ar y pryd. Yn amlwg, os nad yw pobl yno gyda hwy tua'r adeg honno, mae'n bosibl y collir y cyfle hwnnw, ac efallai na fydd pobl byth yn gwneud y newid. Fel y clywsom yn gynharach, mae'n gwbl warthus meddwl bod 34 o bobl wedi marw yn cysgu ar y stryd yng Nghymru yn 2018. Mae pob bywyd a achubir yn amlwg yn gwbl amhrisiadwy, felly mae gwir angen inni wneud allgymorth grymusol yn rhan bwysicach eto o'r gwasanaeth a ddarparwn.

Mae'n fater eang iawn ei gwmpas a chymhleth iawn o ran y problemau sy'n gysylltiedig ag ef, fel y dywedodd yr Aelodau. Soniodd Mark Isherwood am ysgolion yn nodi problemau wrth i bobl ifanc fynd drwy'r system. Ceir llawer o gyflyrau, megis syndrom Asperger ac awtistiaeth, sy'n gysylltiedig. Mae angen i bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl gael y problemau hynny wedi'u cydnabod a'u trin ar y cyfle cyntaf posibl.

Credaf fod llawer o'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ymwneud â'r dull ataliol sydd ei angen arnom yn amlach yn ein gwasanaethau. Soniodd cynifer o aelodau'r pwyllgor am bŵer profiad bywyd a chlywed yn uniongyrchol gan bobl sy'n cysgu allan, yn ogystal â'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau iddynt, beth yw eu profiadau a beth fydd yn gwneud gwahaniaeth yn eu tyb hwy. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, ni all fod drws anghywir. Lle bynnag y bydd pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cysylltu â gwasanaethau, rhaid eu cysylltu â pha wasanaethau bynnag sydd eu hangen arnynt i fynd i'r afael â'u problemau. Rhaid gwneud mwy na dim ond eu hatgyfeirio at asiantaeth arall, at berson arall.

Rwy'n credu bod y problemau cyffuriau'n sylweddol, a'r agweddau sydd heb eu datganoli. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i weithio'n agos iawn gyda'r DU i sefydlu i ba raddau y gallem gael ystafelloedd diogel ar gyfer chwistrellu cyffuriau, a yw hynny'n bosibl o fewn y pwerau datganoledig sydd gennym, neu a oes angen datganoli pellach arnom, dealltwriaeth bellach, er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwy'n credu ei bod yn eithaf dadlennol fod gan yr heddluoedd yng Nghymru ddiddordeb mawr mewn gwneud y newid hwnnw ac maent yn gweld y byddai manteision gwirioneddol yn deillio o hynny pe bai'n digwydd.

Credaf fod David Melding—ac mae bob amser yn dda cael pobl nad ydynt ar y pwyllgor ar hyn o bryd yn cyfrannu ar adroddiadau pwyllgorau—wedi gwneud pwyntiau diddorol iawn ynghylch comisiynu. I ba raddau y mae'n bosibl bod yn arloesol, i integreiddio gwasanaethau go iawn, i gael cyllidebau cyfunol, i symud ymlaen at ddull gweithredu hirdymor o fewn y trefniadau comisiynu presennol? Mae'n ymddangos yn wan ar hyn o bryd, ac oes, mae angen adolygiad ar frys arnom. Clywais yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am Tai yn Gyntaf a'r cynnydd pwysig a wnaethpwyd yno, a hefyd y grant cymorth tai a sut y gallai hwnnw ysgogi rhai agweddau ar newid angenrheidiol, ond credaf o ddifrif fod angen inni gael adolygiad llawn o'r holl faterion hynny.

Soniodd y Gweinidog hefyd am wasanaethau carchardai, ac mae hynny'n rhan bwysig o adeiladu partneriaethau a sicrhau nad oes unrhyw agwedd ar ddarparu gwasanaethau sydd wedi'u datganoli neu heb eu datganoli yn cael ei hesgeuluso mewn unrhyw ffordd. Mae'r grŵp gweithredu yn ddatblygiad arwyddocaol iawn, fel y crybwyllais yn fy araith agoriadol, ac rydym yn falch iawn fel pwyllgor ynglŷn â hynny. Byddai diddordeb mawr gennym mewn gweld sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i'r argymhelliad ac yn bwrw ymlaen â'r gwaith a awgrymir.

Felly, rwy'n meddwl bod hon yn set hynod bwysig o ffactorau, Ddirprwy Lywydd, a dyna'n union pam y mae ein pwyllgor wedi neilltuo cryn dipyn o amser a gwaith i'r materion hyn, ac wedi dychwelyd atynt yn ogystal. Credaf mai ein hymrwymiad i'r sector ac i'r rhai sy'n cysgu allan yw nad ydym, fel pwyllgor, yn mynd i gefnu ar y problemau hyn; rydym am ddangos y gallu i ddygnu arni rydym yn annog eraill i'w arfer. Byddwn yn dychwelyd at y materion hyn, a byddwn yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:46, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.