Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 12 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi adleisio dymuniadau pen-blwydd Mark Reckless i Alun Davies? Mae hefyd yn ben-blwydd arnaf fi heddiw ac mae hefyd yn ben-blwydd ar Jenny Rathbone heddiw. Am drindod o Aelodau Cynulliad. Roeddwn yn ceisio meddwl beth oedd yn gyffredin rhwng y tri ohonom, gan ein bod ein tri'n cael ein pen-blwyddi fel Dyfryddion ar 12 Chwefror, a'r unig beth y gallwn ei feddwl, oherwydd ein bod yn griw amrywiol, mae'n deg dweud, yw mai ein hangerdd penderfynol wrth fynd ar drywydd ein diddordebau sy'n ein huno, ac yn sicr, rwy'n credu bod hynny'n nodweddu Alun Davies wrth iddo fynd ar drywydd yr agenda hon ar ran ei etholwyr. Mae wedi ymdrechu'n ddiflino i wneud hynny, a hynny'n briodol, ac mae'n parhau i wneud hynny.
Fe ddywedodd, a dywedodd Mark Reckless hefyd, y bydd y ffordd y caiff y weledigaeth hon, nad yw wedi newid, yn cael ei chymhwyso yn esblygu ac yn newid o ran ei phwyslais dros amser, a chredaf fod hynny'n iawn. Yn sicr, fy mhrofiad i dros y 12 mis diwethaf, oherwydd y newid yn yr economi fyd-eang ac yn arbennig y newid yn y sector modurol, yw bod y weledigaeth sylfaenol yn ei gylch wedi newid o ganlyniad i'r ffaith bod—a nododd Alun Davies hanes hyn yn deg—iteriad nesaf Cylchffordd Cymru wedi canolbwyntio'n bennaf ar y sector modurol, ac mae hynny wedi'i adlewyrchu mewn strategaethau a ddiweddarwyd, ac mae hynny'n parhau i fod yn wir. Mae TVR yn dal yn y cymysgedd fel prosiect y gobeithiwn ei weld yn dwyn ffrwyth, ac rydym wedi gwneud cyfres o ymrwymiadau i'r cwmni, a chyhyd ag y gallant ddarparu tystiolaeth fod ganddynt yr arian, byddwn yn dilyn gyda'r buddsoddiad rydym eisoes wedi'i ddarparu a'r gyfran a gawsom yn y cwmni. Mae'r sgyrsiau hynny'n parhau, a chredaf ei bod yn rhwystredig iddynt hwy ac i ninnau nad ydynt wedi gallu dechrau cynhyrchu eto, ond mae'r rheini'n sgyrsiau sy'n mynd rhagddynt.
Rwy'n meddwl mai fy marn i ar y Cymoedd Technoleg, fel y dywedodd Alun Davies, yw bod rhaid iddo fod yn fwy na phortffolio o eiddo diwydiannol yn unig, er bod hynny'n elfen bwysig ohono, ac mae'r pethau hynny ar y gweill. Unwaith eto, rydym wedi cael ein plagio gan drafferthion, gyda rhai ohonynt yn dechnegol, rhai ohonynt yn ymwneud â chaffael a rhai'n ymwneud â chapasiti o fewn yr awdurdod lleol, y gwn ei fod yn fater y mae Alun Davies wedi tynnu sylw ato dro ar ôl tro—yr heriau i lywodraeth leol heb arian i gyflawni datblygu economaidd—ac rydym yn sicr wedi teimlo hynny yn y bartneriaeth hon. Ond mae ymrwymiad sylweddol o hyd i wario ar ddatblygu eiddo o safon ac ychwanegu at y portffolio diwydiannol ym Mlaenau Gwent, sy'n rhywbeth y mae wedi pwysleisio'i bwysigrwydd dro ar ôl tro. Felly mae hynny ar waith, mae hynny'n digwydd, mae'n digwydd yn arafach nag yr hoffem, ond mae'n mynd yn ei flaen.
Mae sgyrsiau ar y gweill hefyd gyda chwmnïau i ddenu mewnfuddsoddiad i'r ardal, ac rydym wedi gweld ffrwyth hynny yn sgil dyfodiad Thales, gyda buddsoddiad enfawr o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ac arian cyfatebol gan y cwmni, i ddod â sgiliau seiberddiogelwch a sgiliau digidol yn fwy cyffredinol i Lynebwy, ac rwy'n cynnal trafodaethau gyda'r coleg a chydag eraill i ychwanegu at hynny fel y gallwn gael cynnig sector cyhoeddus ochr yn ochr â'r ganolfan seiberddiogelwch. Felly, rydym yn bendant yn gweld Glynebwy a Blaenau Gwent fel cyfleuster cynhyrchu ar gyfer hyfforddi'r bobl ifanc i roi iddynt y sgiliau y mae arnynt eu hangen ar gyfer swyddi yfory, a gwneud hynny ym Mlaenau Gwent. Rwy'n credu bod honno'n weledigaeth gyffrous ac yn un y gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n ei rhannu. Mae'r rheini, unwaith eto, yn sgyrsiau sydd ar y gweill. Felly mae'r elfen dechnolegol yn dal i fod yno.
Mae'n debyg y dylwn sôn hefyd am y buddsoddiad a gawsom yng Nghanolfan Deunyddiau Uwch Dennison, gan greu cyfleuster hyfforddi peirianyddol o'r radd flaenaf ym mharthau dysgu Blaenau Gwent, sydd bellach yn un o ddim ond llond dwrn o golegau addysg bellach yn y DU a all ddarparu hyfforddiant cyfansawdd uwch fel rhan o'i gyrsiau peirianneg awyrenegol a chwaraeon modur, ac mae 60 o fyfyrwyr eisoes wedi dechrau yno; mae 30 y cant o'r rheini'n fenywod. Felly, rwy'n credu bod yna bethau y gallwn bwyntio atynt sy'n cyd-fynd yn llwyr â'r weledigaeth a'r dechnoleg sefydlol honno.