Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 25 Chwefror 2020.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiynau hynny ac rwy'n cytuno â hi'n llwyr bod ymweld a gweld a sgwrsio â phobl y mae eu cartrefi wedi cael eu distrywio gan y llifogydd yn brofiad sobreiddiol iawn. Ac mae lefel y trallod dynol a achoswyd yn y cartrefi hynny yn amlwg pan ewch chi yno. Ac fel y dywedodd pobl wrthyf i pan yr oeddwn i'n ymweld â nhw, yn y pen draw gallwch chi brynu soffa newydd, ond yr hyn na allwch chi ei wneud yw cael pethau yn lle y rhai yr ydych chi wedi eu hel at ei gilydd, ar ôl magu teulu, ar ôl byw mewn cartref am ddegawdau, nid blynyddoedd, y mae eich holl atgofion wedi eu buddsoddi ynddo, ac ni ellir byth adfer y pethau hynny yn y ffordd honno. Gwnaed yr un pwynt i mi ganddyn nhw ag y mae Leanne Wood wedi ei wneud y prynhawn yma, sef, er hynny, ni chollodd neb ei fywyd ac y gellir cael atgofion yn ôl a phrynu soffas newydd, ond ni ellir dod â phobl yn ôl. Ac roedd teimlad gwirioneddol o'r ymdrech yr oedd y gwasanaethau brys wedi ei gwneud i atal y gwaethaf oll rhag digwydd.
O ran tomenni glo, yr hyn a ganfuwyd trwy gyfarfod ddoe oedd bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdod glo a'r awdurdod lleol ddull gweithredu ar y cyd, sef nodi ar raddfa y tomenni glo hynny sy'n achosi'r pryder mwyaf iddyn nhw. A chawsom ni sicrwydd ddoe y bydd yr holl domenni glo hynny sydd ar frig y rhestr honno wedi cael eu harchwilio erbyn diwedd yr wythnos hon. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael eu harchwilio eisoes, a chafwyd sicrwydd gan beirianwyr nad ydyn nhw'n peri risg i fywyd ac eiddo.
Ond cafwyd trafodaeth bwysig iawn sy'n cysylltu â phwynt Leanne Wood am y normal newydd, sef bod yr asesiadau hynny'n cael eu gwneud yn erbyn y safonau sydd wedi eu defnyddio dros y degawdau diwethaf, ac efallai na fydd y safonau hynny'n foddhaol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Felly, byddwn ni'n sicr yn dychwelyd at y drafodaeth honno gyda'r awdurdodau hynny a chyda'r arbenigwyr y maen nhw'n yn eu defnyddio ar lawr gwlad. Roedd syniadau diddorol yn cael eu harchwilio ddoe ynglŷn â gwell posibiliadau monitro ar gyfer y tomenni hynny—technolegau newydd nad oedden nhw ar gael yn y 1980au efallai y gallem ni eu defnyddio heddiw. A bydd yr ymdrech honno'n parhau. Bydd y grŵp a gyfarfu ddoe yn cyfarfod eto i dderbyn adroddiadau pellach, i edrych ymlaen ac i wneud yn siŵr bod modd cynnig y sicrwydd y mae gan bobl bob hawl i'w ddisgwyl, ac os bydd angen cymryd camau pellach, byddan nhw'n cael eu cymryd, a bod y safonau y mae'r gwahanol awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu cyfrifoldebau yn unol â nhw i ddarparu'r sicrwydd hwnnw yn addas ar gyfer y dyfodol.