11. Dadl: Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:53 pm ar 25 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:53, 25 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Fel y dywed yr 'Adroddiad Effaith Cymru' blynyddol hwn, amcanion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw:

sicrhau nad yw cyfleoedd bywyd pobl yn cael eu llesteirio gan rwystrau,

—mewn geiriau eraill, y model cymdeithasol— sicrhau bod gennym seiliau cadarn i adeiladu cymdeithas fwy cyfartal ac sy'n parchu hawliau ac i amddiffyn hawliau pobl yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus.

Mae'n cyfeirio at lansio eu hadroddiad 'Tai a phobl anabl: argyfwng cudd Cymru'. Cadeiriais gyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd, lle y siaradodd y comisiwn am hyn. Mynegwyd pryder ganddynt ynghylch y canlynol: diffyg data sydd gan awdurdodau lleol am ofynion tai pobl anabl a gwybodaeth am y stoc y maen nhw yn ei chadw; pryder mai dim ond 55 y cant o awdurdodau lleol a ddywedodd eu bod yn cynnal asesiadau cydraddoldeb ac effaith ar eu cynlluniau datblygu lleol; ac roeddent yn briodol yn pwysleisio pwysigrwydd gwrando ar bobl anabl.

Canfu'r adroddiad fod prinder sylweddol o gartrefi hygyrch. Nid yw pobl anabl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw'n annibynnol. Nid oedd targed ar gyfer cartrefi hygyrch yn nharged 20,000 o dai fforddiadwy Llywodraeth Cymru erbyn 2021. Dim ond un o'r 22 o awdurdodau lleol sydd wedi gosod targed canrannol ar gyfer cartrefi hygyrch a fforddiadwy, a dim ond 15 y cant o awdurdodau lleol yng Nghymru a ddywedodd fod yr wybodaeth a oedd ganddynt am ofynion tai pobl anabl yn dda.

Drafftiwyd y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol gan Gyngor Ewrop, nid yr Undeb Ewropeaidd. Fel llofnodwr, byddai'r DU yn torri cyfraith ryngwladol pe bai'n methu â pharchu'r hawliau yn y confensiwn. Mae maniffesto 2019 Ceidwadwyr y DU yn datgan y bydd Llywodraeth y DU yn diweddaru'r Ddeddf Hawliau Dynol a sefydlu

Comisiwn Cyfansoddiad, Democratiaeth a Hawliau a fydd yn archwilio'r materion hyn yn fanwl.

Rwy'n cymryd y bydd y comisiwn yn ymwneud â hyn. Mae hefyd yn nodi y bu'r DU ar flaen y gad o ran rhyddid a hawliau dynol ers tro byd—a bydd yn parhau felly.

Mae'r 'Adroddiad Effaith' hwn yn cyfeirio at adroddiad y comisiwn yn 2019, 'A yw Cymru'n Decach?', ac mae'r comisiwn yn awyddus i Lywodraeth Cymru ddarparu tystiolaeth wirioneddol yn egluro'n fanwl sut y mae'n bwrw ymlaen â'i hargymhellion penodol. Gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ymateb i hynny.

Gan dynnu sylw at yr anawsterau y mae pobl anabl yn eu cael wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, argymhellodd y dylai Trafnidiaeth Cymru weithio gyda Network Rail a'r contractwr rheilffyrdd KeolisAmey i wella hygyrchedd y seilwaith rheilffyrdd presennol ar draws Nghymru, ac y dylai darparwyr a rheoleiddwyr trafnidiaeth gyhoeddus ddarparu hyfforddiant i sicrhau bod gan bob aelod o staff yr wybodaeth a'r sgiliau i helpu i ddiwallu anghenion teithwyr anabl.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn ystyried ymgorffori mwy o hawliau dynol yn y gyfraith yng Nghymru, pleidleisiodd yn erbyn cynnig Darren Millar i ymgorffori egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn yng nghyfraith Cymru. Felly, mae angen iddi nawr amlinellu ei chynigion penodol.

Clywaf yn rheolaidd gan bobl anabl y gwahaniaethwyd yn eu herbyn ac, felly, mae angen i'r comisiwn gefnogi achosion cyfreithiol strategol sy'n sefydlu cynsail cyfreithiol. Felly, croesawaf yr achosion a gefnogwyd gan y comisiwn a arweiniodd at ddyfarniad Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru bod ysgol yn y gogledd wedi gwahaniaethu ar sail anabledd yn anghyfreithlon—mae'n swnio'n union yr un fath ag achos yr oeddwn i yn gysylltiedig ag ef, yn ymwneud â disgybl awtistig—ac mewn dyfarniad clywsom fod yn rhaid i landlordiaid ganiatáu i lesddeiliaid anabl wneud newidiadau sy'n rhesymol ac yn angenrheidiol.

Rwyf wedi siarad o'r blaen yn y fan yma i gefnogi Bil arfaethedig i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yng nghyfraith Cymru, a gelwais ar Lywodraeth Cymru i weithredu i fynd i'r afael â methiant asiantaethau cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau i bobl anabl, gan nodi bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau feddwl ymlaen llaw a mynd i'r afael â rhwystrau sy'n llesteirio pobl anabl. Mae'r 'Adroddiad Effaith' hwn yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn unol ag argymhellion y comisiwn.

Rwyf am gloi felly drwy gyfeirio at ddim ond tair enghraifft ddiweddar ymhlith llawer lle mae hyn yn cael ei anwybyddu ar lawr gwlad: pryd dywedodd awdurdod addysg lleol wrth rieni merch ifanc na ddylai fynd i'w hysgol gynradd leol oherwydd eu bod nhw'n ystyried bod yr addasiadau ar gyfer ei chadair olwyn yn rhy ddrud heb ymgynghori â nhw—mae hynny'n gyfredol; pryd dywedodd yr ymgyrchydd Kim Edwards o Changing Places yn Sir y Fflint, 'Ar hyn o bryd, mae pobl sydd ag anableddau dwys yn cael eu cadw draw o'u trefi lleol am na ellir hyd yn oed ddiwallu eu hanghenion dynol sylfaenol, dim ond i ddefnyddio tŷ bach hyd yn oed'; a phryd methodd y gwasanaethau cymdeithasol â sefydlu a diwallu anghenion cyfathrebu a phrosesu plentyn awtistig pan fuont yn ei holi hi, a phenderfynu wedyn nad oedd hi mewn perygl o gael ei cham-drin gan ei thramgwyddwr—yn ffodus, gwelodd y llys drwy hyn yn gynharach y mis hwn.