10. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:27 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:27, 26 Chwefror 2020

Dyma ni'n cyrraedd nawr, felly, at y cyfnod pleidleisio, ac os nad oes yna dri Aelod sy'n dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud i'r bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais honno ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ffyrdd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn, felly mae'r cynnig yn cael ei wrthod. 

NDM7274 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 2021 NDM7274 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 14 ASau

Na: 37 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:28, 26 Chwefror 2020

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1 ac, os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 1. Mae gweddill y gwelliannau'n cael eu dad-ddethol.

NDM7274 - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 2022 NDM7274 - Gwelliant 1

Ie: 27 ASau

Na: 24 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Cafodd gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 eu dad-ddethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:29, 26 Chwefror 2020

Sy'n dod â ni at bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.

Cynnig NDM7274 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd a’r consensws rhwng y pleidiau dros leihau allyriadau i ddim, gan gynnwys trwy ddatgarboneiddio ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru a sicrhau newid moddol.

2. Yn cydnabod cyd-ddibyniaeth y seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd a phwysigrwydd gwasanaeth rheilffyrdd £5bn Llywodraeth Cymru, ei chynllun datreoleiddio bysiau a’i buddsoddiad mwyaf erioed mewn teithio llesol o ran darparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-foddol a charbon isel a fydd yn chwarae rhan i liniaru’r tagfeydd ar y ffyrdd.  

3. Yn gresynu bod diffyg ariannu o £1bn gan Lywodraeth y DU yn y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’i methiant i drydaneiddio prif leiniau’r Gogledd a’r De wedi gwaethygu’r tagfeydd ar y ffyrdd, gan arwain at ragor o draffig ar ein cefnffyrdd.

4. Yn gresynu hefyd fod y degawd o gynni gan Lywodraeth y DU wedi cael effaith uniongyrchol ar waith cynnal rhwydwaith ffyrdd y DU.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:

a) wneud ymrwymiad tebyg i’r hwnnw gan Lywodraeth Cymru i ariannu pecyn cynhwysfawr o brosiectau ffyrdd a thrafnidiaeth ar y ffin i wella’r priffyrdd strategol i Gymru gan gynnwys Coridor Brychdyn o gwmpas Caer; yr A5 trwy Amwythig i Gymru ac yn y Pant/Llanymynech;

b) helpu i liniaru’r tagfeydd ar y rhwydwaith ffyrdd trwy addo £1bn i drydaneiddio’r brif lein o Crewe i Gaergybi, buddsoddi i uwchraddio’r lein o Wrecsam i orsaf Lime Street yn Lerpwl a thrydaneiddio prif lein y De yn ei chyfanrwydd.

6. Yn nodi penderfyniad a datganiad llafar y Prif Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin 2019 ynghylch prosiect coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd a’r gwaith arwyddocaol sy’n cael ei wneud gan Gomisiwn Trafnidiaeth y De-ddwyrain i ddatblygu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblem tagfeydd yng Nghasnewydd ac yng ngweddill y rhanbarth.

7. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau tagfeydd traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys y pecyn digynsail o £1bn i wella seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth y Gogledd, gan gynnwys y gwaith uwchraddio mawr ar yr A55 a’r A483, cynlluniau teithio llesol a Metro’r Gogledd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:29, 26 Chwefror 2020

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, pedwar yn ymatal, 20 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

NDM7274 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 20, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 2023 NDM7274 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 27 ASau

Na: 20 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Wedi ymatal: 4 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:29, 26 Chwefror 2020

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar ddadgarboneiddio. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, tri yn ymatal, pump yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

NDM7277 - Dadl y Plaid Cymru - Datgarboneiddio - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 43, Yn erbyn: 5, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 2024 NDM7277 - Dadl y Plaid Cymru - Datgarboneiddio - Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 43 ASau

Na: 5 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Wedi ymatal: 3 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:30, 26 Chwefror 2020

Rydym ni'n symud, felly, i bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar dywydd andwyol a niwed stormydd. Felly, mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig nesaf, sef cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, tri yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

NDM7278 - Dadl Plaid Cymru - Tywydd garw a difrod stormydd - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 2025 NDM7278 - Dadl y Plaid Cymru - Tywydd garw a difrod stormydd - Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 20 ASau

Na: 28 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Wedi ymatal: 3 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:30, 26 Chwefror 2020

Rwy'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, dau yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant. 

NDM7278 - Gwelliant 1: O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 2

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 2026 NDM7278 - Gwelliant 1

Ie: 49 ASau

Absennol: 9 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: 2 ASau

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:31, 26 Chwefror 2020

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 2, ac os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, un yn ymatal, 19 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn, a gwelliant 3 wedi'i ddad-ddethol.

NDM7278 - Gwelliant 2: O blaid: 30, Yn erbyn: 19, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 2027 NDM7278 - Gwelliant 2

Ie: 30 ASau

Na: 19 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Wedi ymatal: 1 AS

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:31, 26 Chwefror 2020

Gwelliant 4 yw'r gwelliant nesaf, a'r gwelliant hwnnw wedi'i gyflwyno gan Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 4.

NDM7278 - Gwelliant 4: O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 2028 NDM7278 - Gwelliant 4

Ie: 50 ASau

Na: 1 AS

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:31, 26 Chwefror 2020

Gwelliant 5 yw'r gwelliant nesaf. Pleidlais, felly, ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

NDM7278 - Gwelliant 5: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 2029 NDM7278 - Gwelliant 5

Ie: 24 ASau

Na: 27 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:32, 26 Chwefror 2020

Rwy'n galw am bleidlais nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio.

Cynnig NDM7278 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r difrod a'r dinistr a achoswyd i gymunedau ledled Cymru o ganlyniad i Storm Ciara a Storm Dennis.

2. Yn talu teyrnged i ymdrechion arwrol y gwasanaethau brys, staff asiantaeth, gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddolwyr cymunedol wrth ymateb i effeithiau tywydd garw a difrod stormydd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

3. Yn cydnabod y bydd newid yn yr hinsawdd yn gwneud digwyddiadau tywydd garw, gan gynnwys achosion o lifogydd difrifol, yn fwy tebygol yn y dyfodol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod yr ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal i achos llifogydd yn cael eu cyhoeddi a bod y cymunedau yr effeithiwyd arnynt, y Senedd a’r awdurdodau annibynnol, gan gynnwys y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, yn cael craffu arnynt;

b) darparu cymorth ariannol ac ymarferol ychwanegol i’r unigolion a’r busnesau yr effeithiodd y llifogydd arnynt;

c) darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu gwneud gwaith trwsio brys ar amddiffynfeydd rhag llifogydd a seilwaith hanfodol arall;

d) cyhoeddi polisi cynllunio newydd a mapiau llifogydd eleni i wneud safiad cryfach ar ddatblygu ar y gorlifdir ac i adlewyrchu’r risgiau cynyddol a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd;

e) cyhoeddi Asesiad Perygl Llifogydd newydd i Gymru ochr yn ochr â Strategaeth Llifogydd ac Arfordirol newydd eleni a’i ddefnyddio i flaenoriaethu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd sy’n diogelu’r cymunedau sy’n wynebu’r risg mwyaf o lifogydd o bob ffynhonnell – arfordirol, afonydd a dŵr arwyneb;

f) cynyddu’r cymorth ariannol ac ymarferol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu datblygu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd newydd yn gynt.

5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cymunedau a busnesau lleol yn cael cymorth parhaus y tu hwnt i'r gwaith glanhau cychwynnol i'w helpu i wella yn y tymor hir, ac i deall y camau sydd angen eu cymryd i liniaru llifogydd yn y dyfodol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:32, 26 Chwefror 2020

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, un yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

NDM7278 - Dadl Plaid Cymru - Tywydd garw a difrod stormydd - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 49, Yn erbyn: 1, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig fel y'i ddiwygiwyd

Rhif adran 2030 NDM7278 - Dadl y Plaid Cymru - Tywydd garw a difrod stormydd - Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 49 ASau

Na: 1 AS

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Wedi ymatal: 1 AS

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:32, 26 Chwefror 2020

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Brexit ar ddatganoli. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, neb yn ymatal, 46 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

NDM7276 - Dadl Plaid Brexit - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 5, Yn erbyn: 46, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 2031 NDM7276 - Dadl Plaid Brexit - Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 5 ASau

Na: 46 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:32, 26 Chwefror 2020

Gwelliant 1 sydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Rwy'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid un, neb yn ymatal, 50 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

NDM7276 - Gwelliant 1: O blaid: 1, Yn erbyn: 50, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 2032 NDM7276 - Gwelliant 1

Ie: 1 AS

Na: 50 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:33, 26 Chwefror 2020

Gwelliant 2 sydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i dderbyn, a gwelliant 3 a gwelliant 4 yn cael eu dad-ddethol.

NDM7276 - Gwelliant 2: O blaid: 27, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 2033 NDM7276 - Gwelliant 2

Ie: 27 ASau

Na: 24 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Cafodd gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:33, 26 Chwefror 2020

Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, neb yn ymatal, 46 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

NDM7276 - Gwelliant 5: O blaid: 2, Yn erbyn: 46, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 2034 NDM7276 - Gwelliant 5

Ie: 2 ASau

Na: 46 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:34, 26 Chwefror 2020

Gwelliant 6 yw'r gwelliant nesaf, a'r gwelliant hwnnw wedi'i gyflwyno gan Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, neb yn ymatal, 46 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 6 wedi'i wrthod.

NDM7276 - Gwelliant 6: O blaid: 5, Yn erbyn: 46, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 2035 NDM7276 - Gwelliant 6

Ie: 5 ASau

Na: 46 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:34, 26 Chwefror 2020

Pleidlais nawr yn derfynol ar y cynnig wedi'i ddiwygio.

Cynnig NDM7276 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu'r cyfraniadau cyfunol sydd wedi'u gwneud gan bleidiau gwleidyddol ar bob ochr a chan y gymdeithas sifig yn ehangach i sicrhau mai datganoli yw ewyllys sefydlog pobl Cymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:34, 26 Chwefror 2020

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, naw yn ymatal, saith yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

NDM7276 - Dadl Plaid Brexit - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 35, Yn erbyn: 7, Ymatal: 9

Derbyniwyd y cynnig fel y'i ddiwygiwyd

Rhif adran 2036 NDM7276 - Dadl Plaid Brexit - Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 35 ASau

Na: 7 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Wedi ymatal: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.