Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 26 Chwefror 2020.
Weinidog, mae bargen ddinesig bae Abertawe, wrth gwrs, wedi'i seilio ar fasnacheiddio arloesedd, a datgarboneiddio ffynonellau ynni i'r gorllewin o fy rhanbarth yn anad dim, ond rwy'n falch o'r cynnydd yn fy rhanbarth. Rwyf wedi codi’r posibilrwydd o greu canolfan arloesi dur genedlaethol gyda chi o'r blaen, felly rwy'n falch o glywed bod prosiectau Castell-nedd Port Talbot ar gyfer hynny a mynd i'r afael â newid hinsawdd bellach wedi'u cymeradwyo gan y cyd-fwrdd—bydd croeso i unrhyw swyddi newydd, er bod mwy o ffactorau na hynny’n unig. Ond rwy'n parhau i fod yn nerfus ynghylch oedi yn y system a welsom gan y ddwy Lywodraeth wrth archwilio prosiectau blaenorol. A allwch chi ddweud wrthyf beth rydych wedi'i ddysgu o'r prosesau hynny wrth brofi hyfywedd prosiectau a ddygwyd ger eich bron yn barod sy'n eich helpu i gyflymu'r broses o benderfynu pryd y gellir rhyddhau arian?