Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 26 Chwefror 2020.
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud mai'r wers allweddol rydym wedi'i dysgu o hanes diweddar mewn perthynas â'r fargen a'r prosiectau sy’n rhan ohoni yw bod angen i Lywodraethau chwarae mwy o ran yn cynorthwyo datblygiad prosiectau i sicrhau eu bod yn gallu cyrraedd y pwynt cymeradwyo yn gynt. Mae yna brosiectau uchelgeisiol iawn wedi'u cynnwys yn y fargen. Rydym yn dymuno gweld y fargen yn dod yn llwyddiant mawr, ond mae'n rhaid i ni fod yn drylwyr wrth archwilio pob prosiect sy’n rhan ohoni. Nid yn unig fod angen i hynny fod yn heriol mewn ffordd feirniadol, fel y dywedais, rwy’n credu y gallwn gynorthwyo’n fwy rhagweithiol hefyd i sicrhau y gall y prosiectau hynny ddod i gasgliadau—casgliadau cadarnhaol—yn gynt.