1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 26 Chwefror 2020.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i arallgyfeirio economi Gorllewin De Cymru? OAQ55127
Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wedi'u nodi yn y cynllun gweithredu ar yr economi. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid yn y rhanbarth ar y fframwaith economaidd rhanbarthol sydd ar y gweill, yn ogystal â chefnogi bargen ddinesig bae Abertawe.
Diolch, Weinidog. Mae ein dibyniaeth yn y gorffennol ar lond llaw o gyflogwyr mawr wedi gadael economi Gorllewin De Cymru yn agored i niwed. Byddai cau gwaith dur Port Talbot yn ddinistriol i'r rhanbarth, ac rydym yn wynebu heriau enfawr o ran arallgyfeirio. Ond gallwn hefyd fanteisio ar y cyfleoedd os gallwn edrych i’r dyfodol. Yr heriau mwyaf sy'n ein hwynebu fel cenedl yw datgarboneiddio, sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i ni. Gellir defnyddio'r ffwrneisi arc trydan i ailgylchu'r tunelli o geir a fydd yn cael eu sgrapio o ganlyniad i drydaneiddio. Mae’n rhaid dod o hyd i ffynonellau tanwydd newydd ar gyfer cludo nwyddau trwm, ac mae datblygiadau addawol wedi bod mewn celloedd tanwydd amonia a throi carbon deuocsid yn fethanol. Ond er mwyn manteisio ar y cyfleoedd, mae'n rhaid i ni fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth ymrwymo i fuddsoddi mewn gwaith ymchwil a datblygu tanwydd amgen a gweithio gydag addysg uwch i sicrhau bod Cymru’n arwain y ffordd? Wedi'r cyfan, Abertawe oedd man geni'r gell tanwydd hydrogen. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Caroline Jones am ei chwestiwn? Gallaf sicrhau ein bod eisoes yn buddsoddi'n helaeth mewn ymchwil a datblygu a'n bod yn gweithio gyda sefydliadau addysg uwch yn y rhanbarth. Mae Prifysgol Abertawe wedi cymryd yr awenau mewn sawl ffordd mewn perthynas â datrysiadau ynni diwydiannol, ac rydym yn gwbl benderfynol o fynd ar ôl pob ceiniog a gynigir drwy gronfa trawsnewid ynni diwydiannol Llywodraeth y DU a’r gronfa dur glân. Maent yn darparu oddeutu £500 miliwn o fuddsoddiad dros sawl blwyddyn, ond mae arnaf ofn bod y buddsoddiad hwnnw’n ymddangos yn ddibwys wrth ymyl y £5 biliwn o fuddsoddiad blynyddol y mae’r Iseldiroedd yn ei wneud ym maes datgarboneiddio.
Mae datgarboneiddio yn cynnig cyfle enfawr i fusnesau yng Nghymru, i sefydliadau ymchwil a datblygu, i sefydliadau addysg uwch, ac rwy'n awyddus i sicrhau, yn ne Cymru, fod y clwstwr diwydiannol sydd wedi'i sefydlu yn cael ei ddefnyddio fel llwybr i ddenu cymaint o arian strategaeth ddiwydiannol y DU â phosibl, ond hefyd i gael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru. Iawn, mae’n bosibl fod ein bagiau arian yn llai na rhai Llywodraeth y DU, ond serch hynny, rydym yn gallu gwneud buddsoddiadau strategol sy'n cynorthwyo busnesau i ddatgarboneiddio, a gallwn nodi nifer yn rhanbarth yr Aelod, fel Keytree, lle roeddent wedi gallu cael £0.5 miliwn a chreu 38 o swyddi medrus iawn mewn hyb meddalwedd yn y rhanbarth. Mae tua 33 y cant o'n galwadau i weithredu arian wedi mynd i brosiectau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rhaglenni datgarboneiddio, ac o ganlyniad i hynny, mae’r gyfradd gyflogaeth yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru wedi cynyddu 7.1 y cant rhwng 2011-19. Ond rydym yn benderfynol o adeiladu ar hynny drwy fuddsoddi yn niwydiannau yfory ac yn amlwg, mae datgarboneiddio yn gwbl ganolog i ddiwydiannau'r dyfodol.
Weinidog, mae bargen ddinesig bae Abertawe, wrth gwrs, wedi'i seilio ar fasnacheiddio arloesedd, a datgarboneiddio ffynonellau ynni i'r gorllewin o fy rhanbarth yn anad dim, ond rwy'n falch o'r cynnydd yn fy rhanbarth. Rwyf wedi codi’r posibilrwydd o greu canolfan arloesi dur genedlaethol gyda chi o'r blaen, felly rwy'n falch o glywed bod prosiectau Castell-nedd Port Talbot ar gyfer hynny a mynd i'r afael â newid hinsawdd bellach wedi'u cymeradwyo gan y cyd-fwrdd—bydd croeso i unrhyw swyddi newydd, er bod mwy o ffactorau na hynny’n unig. Ond rwy'n parhau i fod yn nerfus ynghylch oedi yn y system a welsom gan y ddwy Lywodraeth wrth archwilio prosiectau blaenorol. A allwch chi ddweud wrthyf beth rydych wedi'i ddysgu o'r prosesau hynny wrth brofi hyfywedd prosiectau a ddygwyd ger eich bron yn barod sy'n eich helpu i gyflymu'r broses o benderfynu pryd y gellir rhyddhau arian?
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud mai'r wers allweddol rydym wedi'i dysgu o hanes diweddar mewn perthynas â'r fargen a'r prosiectau sy’n rhan ohoni yw bod angen i Lywodraethau chwarae mwy o ran yn cynorthwyo datblygiad prosiectau i sicrhau eu bod yn gallu cyrraedd y pwynt cymeradwyo yn gynt. Mae yna brosiectau uchelgeisiol iawn wedi'u cynnwys yn y fargen. Rydym yn dymuno gweld y fargen yn dod yn llwyddiant mawr, ond mae'n rhaid i ni fod yn drylwyr wrth archwilio pob prosiect sy’n rhan ohoni. Nid yn unig fod angen i hynny fod yn heriol mewn ffordd feirniadol, fel y dywedais, rwy’n credu y gallwn gynorthwyo’n fwy rhagweithiol hefyd i sicrhau y gall y prosiectau hynny ddod i gasgliadau—casgliadau cadarnhaol—yn gynt.
I ddilyn cwestiwn Suzy Davies am y ganolfan arloesi ddur genedlaethol a chanolfan dechnoleg bae Abertawe ym mharc ynni Baglan, a gaf fi eich gwthio ymhellach ar y pwynt ynglŷn â chyllid ac a allwch chi amlinellu pryd yn union y mae Llywodraeth Cymru yn debygol o wneud penderfyniad ar y cais cyllido pwysig hwn? At hynny, a ydych hefyd yn cydnabod nad yw’r ddarpariaeth band eang gyfredol ym mharc ynni Baglan gystal ag y gallai fod, gyda llawer o fusnesau'n cwyno am gysylltedd yn lleol? Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i unioni’r sefyllfa honno, gan gofio y gallai'r prosiect allweddol hwn yn y fargen ddinesig gael ei ddatblygu yn yr union leoliad hwnnw?
A gaf fi ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau? Yn y mater sy'n ymwneud â darpariaeth band eang ym Maglan, byddaf yn gofyn i fy nghyd-Aelod, Lee Waters, ymateb yn ysgrifenedig iddo. Os oes problemau yno, yn amlwg mae angen i ni fynd i'r afael â hwy.FootnoteLink
O ran y prosiectau eraill sydd wedi'u cynnwys yn y fargen, byddwn yn eu cymeradwyo cyn gynted ag y byddwn yn gwbl fodlon bod yna ddiwydrwydd dyladwy a’u bod yn cyflawni yn ôl eu bwriadau.
Roeddwn am sôn am y sector prifysgolion. Mae gennym ddwy brifysgol ragorol yn ninas-ranbarth bae Abertawe a'r gallu i'w defnyddio er mwyn tyfu diwydiannau newydd o bwys ac adeiladu ar rai o'r rheini sy'n deillio ohono. Mae gennych ddewis, mewn gwirionedd, gyda pholisi economaidd, i flaenoriaethu ardaloedd cyflog isel i geisio dod ag is-ffatrïoedd i mewn, ond gan ddatblygu yn eich ardal eich hun, a meithrin sgiliau eich pobl eich hun, nad ydynt yn mynd i fod â'u traed yn gwbl rydd, fel y mae Dawn Bowden wedi’i ddarganfod gyda rhai o'r cwmnïau a ddaeth i mewn i'w hardal hi, mae gennych obaith o'u cadw; byddant yn tyfu yn eich ardal chi. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda phrifysgolion i gael mwy o lwyddiant o'r pethau hyn sy'n ymddangos? Rwy'n gwybod bod enw drwg i 'technium', ond y rheswm am hynny yw bod Llywodraeth Cymru wedi’i ddefnyddio i frandio—fe roesant yr enw i bob is-ffatri a agorwyd ganddynt yng Nghymru. Mae technium, y syniad o ddeillio o brifysgolion a datblygu sgiliau a gwneud eu ffordd i mewn i gwmnïau o ansawdd uchel a gwerth uchel, yn rhywbeth a all weithio, yn rhywbeth sydd wedi dechrau gweithio yn Abertawe, ond beth arall y gellir ei wneud?
Rwy'n siŵr bod llawer o wersi wedi cael eu dysgu o’r cynlluniau technium, a llwyddwyd i gymhwyso sawl un o'r gwersi hynny wrth ddatblygu'r hybiau menter sy'n hynod lwyddiannus ledled Cymru—chwe hyb menter sy'n rhoi hwb i ragolygon entrepreneuriaid ifanc ac sy'n arwain at lawer o fusnesau newydd yn ffynnu'n gynt nag y byddent wedi’i wneud pe bai’n rhaid iddynt oroesi ar eu pen eu hunain. Nawr, rydym wedi darparu—. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwbl gywir fod gan addysg uwch rôl hanfodol yn sicrhau ein ffyniant hirdymor. Mae sgiliau addysg bellach yn cynnig adnoddau technegol hynod bwysig, ac mae addysg uwch yn cynnig yr adnoddau strategol i gael y cyfle gorau posibl mewn byd cystadleuol. Ac felly, rydym wedi bod yn buddsoddi'n helaeth yng ngwaith ymchwil a datblygu sefydliadau addysg uwch. Er enghraifft, gwnaethom ddarparu £3 miliwn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru y llynedd yn unig a £5 miliwn arall eleni i ddatblygu prentisiaethau lefel gradd, a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol, rwy'n credu, i ddatblygiad y sgiliau lefel uwch sydd eu hangen ar ein heconomi.
Hyd yn hyn, mae gwaith wedi mynd rhagddo mewn perthynas â’r maes digidol a pheirianneg a hefyd ym maes gweithgynhyrchu uwch, ac rwy'n aros am ganlyniadau'r cynlluniau peilot hynny gyda diddordeb mawr. Mae'n werth dweud hefyd, Lywydd, fod cronfeydd strwythurol Ewropeaidd wedi helpu prifysgolion i chwarae rhan bwysig iawn yn helpu i ddiwallu anghenion sgiliau lefel uwch diwydiant Cymru dros nifer o flynyddoedd, gyda mwy na £70 miliwn o gronfeydd yr UE wedi’i ddefnyddio yn ystod y cyfnod rhwng 2014 a 2020.