Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:42, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, ni chredaf fod y ffigur yn agos at nifer y prosiectau trafnidiaeth y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gyfrifol am eu darparu, yn enwedig ar y rheilffyrdd. Nid oes angen i ni ond edrych ar HS2 fel enghraifft o'r ffordd y mae costau wedi cynyddu allan o reolaeth, neu Crossrail, neu unrhyw un o'r prosiectau ffyrdd sy'n cael eu cyflenwi gan Highways England.

Buaswn yn dweud wrth yr Aelod, er hynny, ei bod yn siomedig bob tro y bydd prosiect ffordd, neu brosiect rheilffordd o ran hynny, yn cael ei gyflawni y tu hwnt i'r amserlen a addawyd, neu'n cael ei gyflawni dros gyllideb. Fodd bynnag, ceir rhai amgylchiadau lle mae prosiectau wedi cael eu cyflawni, naill ai o dan y gyllideb neu o fewn y gyllideb ac o fewn yr amserlen a ragwelwyd yn wreiddiol, gan gynnwys y prosiect ffordd mawr yn etholaeth yr Aelod, ffordd osgoi'r Drenewydd.