Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 26 Chwefror 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â chynlluniau trafnidiaeth yma yng Nghymru, a dyma fy ngwaith—craffu ar eich perfformiad yma yn y Senedd hon. A gaf fi ofyn, Weinidog, neu wneud y pwynt nad yw perfformiad Llywodraeth Cymru ar gyflawni prosiectau seilwaith ffyrdd mawr wedi bod yn dda o gwbl? Ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn derbyn y rhwystredigaeth pan fydd hynny'n digwydd.
Yr wythnos diwethaf, amlygodd adroddiad yr archwilydd cyffredinol i adran 2 o'r A465 fod tarfu, oedi a gorwariant o £100 miliwn wedi bod o gymharu â'r amcangyfrif cychwynnol yn 2014. Roedd i fod i gael ei chwblhau yn 2018 ac yna fe'i gwthiwyd ymlaen i 2019, ac mae bellach i fod i gael ei chwblhau yn 2021. A ydych yn ffyddiog na fydd rhagor o oedi a chynnydd yn y costau, gan nad yw'r archwilydd cyffredinol, yn anffodus, wedi'i argyhoeddi ynglŷn â hynny, ac a dweud y gwir, mae wedi dod i'r casgliad fod y gost derfynol yn dal i fod yn ansicr?