Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 26 Chwefror 2020.
A gaf fi ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau? Yn y mater sy'n ymwneud â darpariaeth band eang ym Maglan, byddaf yn gofyn i fy nghyd-Aelod, Lee Waters, ymateb yn ysgrifenedig iddo. Os oes problemau yno, yn amlwg mae angen i ni fynd i'r afael â hwy.FootnoteLink
O ran y prosiectau eraill sydd wedi'u cynnwys yn y fargen, byddwn yn eu cymeradwyo cyn gynted ag y byddwn yn gwbl fodlon bod yna ddiwydrwydd dyladwy a’u bod yn cyflawni yn ôl eu bwriadau.