Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 26 Chwefror 2020.
I ddilyn cwestiwn Suzy Davies am y ganolfan arloesi ddur genedlaethol a chanolfan dechnoleg bae Abertawe ym mharc ynni Baglan, a gaf fi eich gwthio ymhellach ar y pwynt ynglŷn â chyllid ac a allwch chi amlinellu pryd yn union y mae Llywodraeth Cymru yn debygol o wneud penderfyniad ar y cais cyllido pwysig hwn? At hynny, a ydych hefyd yn cydnabod nad yw’r ddarpariaeth band eang gyfredol ym mharc ynni Baglan gystal ag y gallai fod, gyda llawer o fusnesau'n cwyno am gysylltedd yn lleol? Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i unioni’r sefyllfa honno, gan gofio y gallai'r prosiect allweddol hwn yn y fargen ddinesig gael ei ddatblygu yn yr union leoliad hwnnw?