Economi Gogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:16, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'r meiri metro Steve Rotheram ac Andy Burnham yn ystyried defnyddio eu cyllidebau i hybu twf diwydiant yn eu hardaloedd. Rydym angen yr hyblygrwydd yng ngogledd Cymru i fod yn rhan o'r ymgyrch hon a denu prosiectau fel hybiau logisteg Heathrow ac ail Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch i Alun a Glannau Dyfrdwy. Weinidog, pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllidebau rhanbarthol a fydd yn rhoi inni'r arian, yr hyblygrwydd a'r pŵer i gaffael prosiectau o'r fath ac i'n galluogi i weithio ar y cyd ac yn uniongyrchol gyda gogledd-orllewin Lloegr? Ac yn olaf, Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y bydd datganoli pŵer ac arian i ogledd Cymru yn dechrau mynd i'r afael â'r rhaniad rhwng y gogledd a'r de a deimlir mor aml gan fy etholwyr yn Alun a Glannau Dyfrdwy?