Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 26 Chwefror 2020.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Mae'n ymwneud yn bennaf â chyfrifoldebau'r Gweinidog addysg, oherwydd mae'n trafod sefydliadau addysg bellach, wrth gwrs. Fodd bynnag, ar sgiliau yn gyffredinol, buaswn yn dweud nifer o bethau. Yn gyntaf, bydd prinder sgiliau yn gwaethygu mewn rhai meysydd o ganlyniad i'r ffaith ein bod yn gadael yr UE; dyna'n bendant yw'r hyn y mae busnesau yn ei ddweud wrthyf. Yn ail, mae Grŵp Llandrillo Menai'n gwneud gwaith anhygoel fel un o'n darparwyr sgiliau pwysicaf yng Nghymru, yn diwallu anghenion yr economi leol. Ac yn drydydd, mewn perthynas â'r syniad o greu athrofa dechnoleg yn benodol, buaswn yn falch o ystyried creu athrofa dechnoleg ar gyfer gogledd Cymru. Credaf fod hwn yn fater sydd wedi'i drafod eisoes. Os caiff cynigion eu cyflwyno i'r Llywodraeth, byddem yn ceisio cefnogi'r broses o ddatblygu achos busnes.